Salvator Mundi

Tachwedd 19, 2017

salvator mundi

400 miliwn doler (neu 304 miliwn punt): dyna gostiodd un llun yn Efrog Newydd ddydd Mercher diwethaf.  Wedi ychwanegu costau’r ocsiwn fe dalodd y prynwr $450m (neu £341m) am ‘Salvator Mundi’ (‘Gwaredwr y Byd’).  Rhyfedd meddwl fod y llun wedi ei werthu am £45 yn 1958.  Wedi hynny, aeth yn angof nes iddo gael ei werthu yn 2005 i brynwyr a oedd yn benderfynol o’i adfer a phrofi mai Leonardo da Vinci a’i paentiodd. Erbyn 2010, roedd hynny wedi ei wneud. Fe’i gwerthwyd fwy nag unwaith wedyn am filiynau o bunnoedd cyn iddo ddod i’r ocsiwn ddydd Mercher.

Ie, £341m am Salvator Mundi. Ond mae Iesu Grist, gwir Waredwr y Byd, yn amhrisiadwy; ac eto mae ar gael yn rhad ac am ddim i bwy bynnag sy’n ei dderbyn. Gan mai unigolyn a brynodd y llun yr wythnos ddiwethaf mae’n bosibl na chaiff ei weld yn gyhoeddus am flynyddoedd eto.  Ond fe welir y Gwaredwr unrhyw bryd gan y sawl sy’n edrych arno trwy ffydd.

Nid y ffaith mai llun o Iesu Grist ydyw sy’n rhoi gwerth iddo wrth gwrs.  Mae cannoedd o luniau o’r Gwaredwr i’w cael, a ffrwyth dychymyg arlunydd yw hwn fel pob un arall ohonynt.  Nid oes unrhyw sail dros gredu fod hwn damaid tebycach i Iesu nag unrhyw lun arall.  Gallwn werthfawrogi’r llun er hynny, trwy weld ynddo ddehongliad yr arlunydd o Grist neu ein dehongliad ni ein hunain o’r hyn a welwn.  Un peth  yn unig sy’n rhoi gwerth i’r llun, sef y dyfarniad mai Leonardo a’i paentiodd

Am ganrifoedd, roedd pobl yn credu mai gwaith arlunydd arall oedd o.  Hyd yn oed heddiw, er iddo gael ei dderbyn fel gwaith Leonardo, barn arbenigwyr yn hytrach na phrawf diymwad sydd i gyfrif am hynny.  Ac oherwydd y gwaith mawr a wnaed arno i’w lanhau a’i adnewyddu, dywed rhai mai copi o’r Salvator Mundi gwreiddiol i bob pwrpas yw’r llun erbyn hyn gan fod cymaint ohono wedi ei ail baentio.  Ond er gwaethaf hyn oll, mae’n werth cannoedd o filiynau o bunnoedd am iddo gael ei gydnabod yn un o luniau prin Leonardo sydd wedi goroesi.

Nid y Crist a bortreadir sy’n gwneud y llun yn werthfawr ond yr arlunydd. Wedi’r cwbl, £45 a dalwyd amdano cyn iddo gael ei briodoli i Leonardo. Nid bai’r arlunydd yw hynny; ond y mae er hynny’n rhybudd i’r rhai sydd ym mhob cenhedlaeth yn cyhoeddi Crist. Oherwydd y Gwaredwr sy’n bwysig; ac ef sydd i gael y clod.  Roedd Ioan Fedyddiwr yn deall hynny pan ddywedodd, ‘Y mae’n rhaid iddo ef gynyddu ac i minnau leihau’ (Ioan 3:30).  Nid ein llwyddiant na’n lles na’n poblogrwydd na’n henw da ni sy’n bwysig yng ngwaith yr Efengyl, ond bod Iesu Grist yn cael ei glodfori.  Dyrchafu gwir Waredwr y Byd yw ein gwaith, gan gyhoeddi’n ffyddlon holl fanylion prydferth y darlun godidog ohono a geir yn y Beibl.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Tachwedd, 2017

Advertisements

Yn ddigalon o ddiogel

Tachwedd 12, 2017

grrrrr (3)

Am unwaith, mae’r Arlywydd Trump wedi dweud rhywbeth doeth a da.  Wel, mi fyddai’n ddoeth a da pe byddai wedi ei ddweud mewn cyswllt arall.

‘Dydi’ch arfau ddim yn eich gwneud chi’n fwy diogel’, meddai. Gwaetha’r modd, nid ymateb i’r saethu a laddodd chwech ar hugain o bobl mewn capel yn Sutherland Springs, Tecsas y Sul diwethaf yr oedd o.  Er gwaethaf pob cyflafan debyg, mae’r Arlywydd a chynifer o’i gydwladwyr yn gwrthod ystyried ei gwneud yn fwy anodd i bobl gael gafael ar wn. Mae fel petai pob lladdfa’n cryfhau’r syniad mai gwn yw’r unig beth sy’n medru cadw pobl yr Unol Daleithiau’n ddiogel.  Byddai angen arlywydd goleuedig i ddweud wrth ei genedl nad yw arfau’n eu gwneud yn fwy diogel. Nid un felly ydi Mr Trump.

Nid at Americanwyr yr oedd yn anelu ei eiriau ond at Arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong-un. Yn wyneb awch Kim i ddatblygu arfau niwclear, roedd Trump, wrth ymweld â De Corea, am ei sicrhau na fydd yr arfau hynny’n ei gadw fo na’i wlad yn ddiogel.  Roedd hefyd yn ei rybuddio na fydd yr Unol Daleithiau’n caniatáu iddo barhau i ddatblygu’r arfau hyn.

Wn i ddim beth sydd ym meddwl Kim Jong-un. Mae Donald Trump yn amlwg yn awgrymu ei fod yn credu y bydd arfau niwclear yn ei gadw’n ddiogel.  ‘Dim ffiars o beryg,’ meddai Trump yn dalog. Mae’n wirioneddol frawychus y gall yr Unol Daleithiau fynd i’r afael â Gogledd Corea yn yr ysbryd hwnnw.

Mae’r ddwy sefyllfa’n wahanol iawn, ond nid yn hollol annhebyg chwaith.  Pam fod Mr Trump yn dadlau fod gwn yn cadw unigolion a chymdeithas yn ddiogel mewn un wlad ond yn mynnu na all arfau wneud yr un peth mewn gwlad arall?  Ai gormod disgwyl i Mr Trump o leiaf fod yn gyson?  Os nad yw arfau’n gwneud gwlad yn ddiogel, onid rhesymol yw credu nad yw gwn yn gwneud pobl yn ddiogel chwaith

Ond y mae’r Arlywydd yn gyson mewn un peth, gwaetha’r modd. Nid gwn yw’r broblem, meddai; nid gwn sy’n lladd, ond pobl.  Pobl ddrwg ydi’r broblem, meddai; mae gwn yn iawn yn nwylo pobl dda. Ac mae’n ymddangos mai dyna yw sail ei bolisi arfau: mae arfau’n bethau ardderchog i amddiffyn gwledydd a chryfhau economi gwlad; mae angen eu cynhyrchu, eu lluosogi a’u gwerthu, cyn belled â’n bod yn eu gwerthu i bobl dda.  Yn ôl datganiad diweddar o’r Tŷ Gwyn; ‘Rhaid sicrhau ein bod yn gwerthu’r systemau hyn i bobl all eu defnyddio’n iawn i bwrpas cyfreithlon, fel gwrthderfysgaeth, a gofalu na chant eu defnyddio i wneud Arfau o Niwed Mawr nac mewn unrhyw ffordd a fydd yn tanseilio ein lles ni’.  Mewn geiriau eraill, mae arfau’n dda ond i ni eu rhoi yn nwylo pobl dda (y bobl a ystyriwn ni yn dda … y funud hon).  Ar Sul y Cofio, gweddïwn dros fyd ynfyd sy’n parhau i bentyrru arfau wrth resynu yr un pryd at eu canlyniadau difäol.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 12 Tachwedd, 2017


Cwestiynau

Tachwedd 5, 2017

branding_icon

Yr un hen gwestiynau. Sut allwn wneud y capel yn fwy perthnasol? Sut allwn ymestyn at y bobl o’n cwmpas? Sut allwn agor drysau’r capel yn ystod yr wythnos?  Y math o gwestiynau a glywyd ers blynyddoedd a glywais y Sul diwethaf eto.  Cwestiynau digon tebyg y mae Cristnogion yn eu gofyn yn Yr Alban ag yng Nghymru, mae’n amlwg.  Be fedrwn ei wneud i ddenu pobl?  Sut fedrwn ni wneud y capel yn ganolog i fywyd ein cymdogaeth?

Yr un cwestiynau.  Ac mae’n bosibl eu bod hefyd yn cael eu gofyn yn yr un ffordd mewn sawl lle yn y wlad honno.  Ond nid felly yng Nghapel Charlotte, Caeredin.  Oherwydd nid o wendid y gofynnid y cwestiynau hyn yno, ond o gryfder.  Cwta ddeunaw mis sydd ers i’r eglwys symud i’w chartref newydd.  Gwerthwyd y capel y bu’r eglwys yn addoli ynddo ers canrif er mwyn prynu ac adnewyddu capel enfawr ar un o strydoedd prysuraf y ddinas. Costiodd hyn dair miliwn a hanner o bunnoedd.  Roedd y capel hwn yn orlawn fore Sul.  Wn i ddim faint oedd yno; ymhell dros bum cant, ac o bosibl dros chwech a saith gant. Dim ond rhyw ddau gant oedd yn oedfa’r hwyr!  Roedd gan yr eglwys 14 o wahanol weithgareddau yn ystod yr wythnos, a thîm pêl droed a oedd yn ymarfer ar nos Lun ac yn chwarae yng Nghynghrair Eglwysi Caeredin ar fore Sadwrn.

Hawdd fyddai i ymwelwyr fel ni dybio bod popeth yn dda yn yr eglwys hon ac nad oedd angen i’w haelodau ofyn y math o gwestiynau a ofynnwn ni mor aml.  Onid eglwysi gwannach o lawer sy’n gorfod meddwl am ffyrdd i ddenu pobl?  Ond mynnu eu gofyn a wna hon hefyd. Ac mae’n debyg mai oherwydd ei bod yn eu gofyn yr oedd aelodau’r eglwys yn gosod bwrdd ar y palmant o flaen y capel cyn y ddwy oedfa er mwyn cynnig paned am ddim i bawb a âi heibio.  Dyna hefyd pam y bwriedir agor y capel am ddwy awr ganol dydd deirgwaith yr wythnos er mwyn i bobl ddieithr fedru dod i mewn heb fod dan bwysau i fynychu oedfa neu gyfarfod ffurfiol. A dyna pam y bwriedir cynnal ambell i gyfarfod amser cinio ar gyfer pobl sydd, am ba reswm bynnag, yn methu dod i oedfa ar y Sul.

Mae byd o wahaniaeth rhwng Capel Charlotte a chapeli’r Ofalaeth hon a mwyafrif capeli Cymru.  Nid mewn prifddinas boblog, gosmopolitan a chyfoethog yr ydym ni.  Ac nid mewn capeli llawn yr addolwn.  Ond yr ofn sydd gennyf yw mai’r prif wahaniaeth yw ein bod ni, ers gormod o amser o lawer, wedi gofyn y cwestiynau hyn er mwyn y capel, er mwyn llwyddiant a dyfodol yr Achos, a hyd yn oed er ein mwyn ein hunain, tra bo’r eglwys yng Nghapel Charlotte yn eu gofyn er mwyn yr Efengyl ac er mwyn Iesu Grist ei hun.  Y dyhead i weld pobl yn dod i gredu yng Nghrist ac i brofi’r  bywyd newydd drwyddo sy’n gwneud i bobl ymestyn allan at eraill er bod ganddynt gapel llawn a rhaglen lawn o weithgareddau.  Gwae ni os yw ein capeli’n bodoli er eu mwyn eu hunain.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 05 Tachwedd, 2017


Dilyn Crist trwy redeg yr yrfa

Hydref 27, 2017

 

NTxOt0Ns

Am ryw reswm, chefais i erioed fy nhemtio hyd yn oed i ystyried rhedeg Marathon. Tua thair milltir oedd y ras draws gwlad yn Ysgol Brynrefail, a dyna’r ras hiraf i mi ei rhedeg. Yn fy mlwyddyn gyntaf yn yr ysgol mi oeddwn (os cofiaf yn iawn) yn seithfed yn y ras honno, er fy mod yn yr un ras â phlant o leiaf ddwy flynedd yn hŷn na mi. Wnes i erioed cystal wedyn.

Ras fyrrach o gryn dipyn oedd y nesaf sy’n aros yn y cof.  Ras 880 llath i fechgyn oed ‘Canol’ yn Chwaraeon y Sir ym Mangor (ar yr union gae y mae tîm pêl droed Dinas Bangor yn chwarae arno yn Nantporth erbyn hyn).  Er mawr syndod i mi fy hun, roeddwn ar y blaen lai na chan llath o’r llinell derfyn – nes i mi faglu (neu lwyr ddiffygio mae’n debyg) a syrthio ar fy hyd ar lawr.

Flynyddoedd yn rhy hwyr gwaetha’r modd y deallais mai rasys byrrach o lawer oedd orau i mi, wrth fwynhau ras y tadau yn Chwaraeon yr Ysgol neu ras dros ryw gan llath yng Ngharnifal y pentref.  Ac er nad oeddwn mor gyflym ag Ussain Bolt, yn wahanol iddo fo mi lwyddais i roi’r gorau i’r cystadlu cyn i neb fy nghuro!  Ac yn ddistaw bach, rwy’n falch o hynny o gofio fy mod yn hanner cant oed erbyn y ras olaf.

Roedd can llath neu lai yn gweddu i’r dim i mi.  Byddai dau gan llath wedi bod yn ormod, heb sôn am chwe milltir ar hugain y Marathon.

Mae’r Testament Newydd yn cymharu bywyd y Cristion â rhedeg ras.  Cawn ein hannog i ‘redeg yr yrfa sydd o’n blaen heb ddiffygio’ (Hebreaid 12:1). Gellid cydio pob un o’r rasus uchod wrth y darlun hwn.  Pam na wnes i’n dda ym mhob ras draws gwlad wedyn?  Am fy mod yn gwybod wedyn ba mor hir oedd y cwrs.  Awn ni ddim yn bell yn y bywyd Cristnogol os byddwn yn ofni’r hyn sydd o’n blaen.  Pam aeth pethau’n flêr yn Nantporth?  Am fy mod wedi cychwyn yn dda ond wedi methu dal ati i’r diwedd. Mae mwy na dechrau da i’r bywyd Cristnogol: mae angen dal ati i’r diwedd.  Ac yn y rasus byr roedd rhaid cadw golwg ar y nod, ar y llinell derfyn o’m blaen er mwyn ennill.  Yr un modd, ‘rhedeg  yr yrfa sydd o’n blaen heb ddiffygio, gan gadw ein golwg ar Iesu’ yw’r alwad i’r Cristion. Heb wneud hynny, ni all neb fyw’r bywyd Cristnogol yn iawn.

Ond pe byddai raid dewis un ras sy’n gweddu i’r dim i’r darlun hwn, mae’n debyg mai’r Marathon fyddai honno.  Nid ras ar wib dros gyfnod byr ond ymdrech oes i ddilyn yr Arglwydd Iesu Grist ac i fwynhau ei gwmni’n barhaus yw’r bywyd Cristnogol.  Ar gyfer y fath ras, mae’n rhaid wrth ymarfer, ac y mae’n rhaid wrth ddyfalbarhad mawr yn wyneb pob rhwystr.  Mae ymarfer yn hanfodol i’r Cristion, a thrwy weddi a myfyrdod yng Ngair Duw y ceir hwnnw er mwyn cryfhau a derbyn gras a chymorth i ymroi i fyw yn llwyr i Iesu Grist, i’w garu ac i’w wasanaethu bob munud o bob dydd.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 29 Hydref, 2017


450 o flynyddoedd ers cyhoeddi Testament Newydd Salesbury

Hydref 22, 2017

sg1385-26p-william-salesbury-vfu-135-p

A ninnau’n agosáu at ddiwedd Hydref, dwyf fi ddim am un eiliad yn disgwyl i chi gofio beth oedd testun erthyglau Gronyn ddechrau’r flwyddyn.  Ond fe soniwyd ganol Ionawr a dechrau’r mis bach am ddau ddigwyddiad a dau ddyn arbennig a fyddai’n cael eu cofio a’u dathlu eleni.  Ac yn ystod y flwyddyn fe roddwyd sylw i 300 mlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn, y Pêr Ganiedydd yn 1717, a 500 mlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd, a Martin Luther ar ddydd olaf Hydref 1517 yn hoelio ar ddrws eglwys yn Wittenburg yn yr Almaen boster ac arno 95 erthygl yn beirniadu Eglwys Babyddol ei ddydd.

Cyn i’r mis Hydref hwn fynd heibio, mae’n werth sôn am drydydd dathliad o bwys, sef 450 mlwyddiant y Testament Newydd Cymraeg cyntaf.  Ar Hydref 7, 1567 y cyhoeddwyd hwnnw, a’r gŵr a oedd yn bennaf cyfrifol am ei gyfieithu oedd William Salesbury. Ond wedi  cyhoeddi’r Beibl Cymraeg cyfan yn 1588, mae’n hawdd iawn deall sut y gwthiwyd Salesbury i’r cysgodion wrth i’r Esgob William Morgan gael y sylw fel cyfieithydd y Beibl.

Ychydig iawn o ddarllen a fu ar waith Salesbury ers blynyddoedd lawer gan fod Beibl William Morgan wedi dod mor gyfarwydd.  Wedi dweud hynny, dylid cofio mai diwygio cyfieithiad Salesbury a wnaeth William Morgan i raddau helaeth.  Erbyn hyn, gallwn gymharu’r ddau fersiwn gan fod modd darllen cyfieithiad Salesbury ar dabled neu ffôn symudol (ar ‘Ap Beibl’).  Dylid dweud bod Testament Newydd Salesbury wedi ei ailargraffu yng Nghaernarfon yn 1850, a bod y fersiwn hwnnw wedi ei olygu mae’n debyg gan ŵr o’r enw Isaac Jones, a ddiwygiodd rywfaint ar ei orgraff. Dyma’r fersiwn a welir ar Ap Beibl.  Y peth rhyfeddol yw mor rhwydd yw ei ddarllen o feddwl ei fod yn 450 mlwydd oed.

Mae’r tri dathliad hyn yn ein hatgoffa o’r ffaith fod i’r Efengyl hanes hir a llewyrchus yma yng Nghymru ac ar gyfandir Ewrop.  Ac nid yw’r hanes hwnnw wedi ei gyfyngu i’r pum can mlynedd diwethaf nac i un cyfandir.  Mae’r Ffydd Gristnogol yn ymestyn nôl i ddyddiau Crist ei hun, a chafodd ei chofleidio ar bob cyfandir.  Ond nid y ffaith ei bod yn hen na’r ffaith iddi barhau o oes i oes sy’n rhoi i ni’r hyder y bydd y Ffydd hon yn cael ei harddel ymhen 300 a 450 a 500 o flynyddoedd arall (oni bai y bydd Ailddyfodiad Iesu wedi dod cyn hynny).  Gwraidd ein hyder ynghylch parhad y dystiolaeth Gristnogol yw’r ffaith mai Efengyl Duw yw hi.  Duw yw ei hawdur; Duw a’n carodd trwy anfon ei Fab Iesu’n Waredwr; a thrwy’r Efengyl, Duw a ddaw â phobl ym mhob cenhedlaeth i’r bywyd tragwyddol sydd yn Iesu Grist.  Ni allwn warantu parhad ein heglwysi na’n traddodiadau na’n henwadau na phatrwm ein haddoliad. Ond gan mai Efengyl Duw yw hi, gallwn warantu y pery hon, yn oleuni, gobaith a bywyd i bawb a ddaw at Grist trwy ffydd.  Ac achos dathlu tragwyddol yw hynny.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 22 Hydref, 2017


Cynllun Efe

Hydref 16, 2017

image3

Bydd Cyfarfod Comisiynu Catrin Hampton yn Weithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Cynllun Efe, Caersalem Caernarfon a Scripture Union yn cael ei gynnal yng Nghapel Coch, Llanberis am 7.00 o’r gloch, nos Lun, Hydref 23.  Croeso cynnes i chi ddod atom i ddathlu.

logo efe, caersalem a su


Croesi pont

Hydref 15, 2017

20130124_air1_overlooking.jpg

Pawb â’i fys lle bo’i ddolur. A gwir y gair. Pan agorwyd y Queensferry  Crossing ddiwedd Awst, ychydig iawn o sylw a roddais i’r bont newydd honno dros aber Afon Forth yn yr Alban. Mi ddarllenais amdani ar y pryd. Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef na fedraf  erbyn hyn gofio a oes angen talu toll ai peidio i yrru drosti. Y rheswm syml am hynny mae’n debyg yw nad wyf yn rhagweld y byddaf yn croesi’r bont hon yn aml.  Wedi’r cwbl, fum i erioed dros yr hen bont, er bod honno bron cyn hyned â mi.

Gwahanol yw hi efo’r Mersey Gateway a agorwyd yn oriau mân bore ddoe.  Rwy’n gwybod ers wythnosau y bydd angen talu toll i groesi’r bont newydd hon dros Afon Merwy.  Mae’n fwy hwylus i ni fynd i Lerpwl dros Bont Runcorn y dyddiau hyn.  Ac felly, mae’r ffaith y bydd rhaid talu i groesi’r bont newydd o ddiddordeb i mi.  Gwaeth na hynny, gydag agor y bont newydd ddoe, fe gaewyd yr hen bont, a bydd rhaid talu i groesi honno hefyd pan gaiff ei hailagor ymhen rhai misoedd.  Yn naturiol, mae miloedd o bobl, er yn croesawu’r ffaith y bydd y bont newydd yn hwyluso’r llif traffig, yn gofidio am y tollau; ac nid yw’r addewid y caiff y tollau eu dileu ymhen 30 o flynyddoedd fawr o gysur.

Gan fod pontydd mor bwysig ac mor ddefnyddiol, nid yw’n syndod o gwbl fod cynllunwyr pontydd wedi cael clod ac enwogrwydd.  Yma yng Nghymru, pwy na chlywodd am Thomas Telford a Phont y Borth a Phont Conwy; Robert Stephenson a Phont Britannia a’r bont rheiffordd dros Afon Conwy; Inigo Jones a Phont Llanrwst; a William Edwards a Phont Pontypridd?  Mae’r pontydd a luniwyd gan y dynion hyn yn gampweithiau hardd.

Gan fod William Edwards yn weinidog yr Efengyl yn ogystal â saer maen a chynlluniwr pontydd, mae’n debyg y gallai ef werthfawrogi’r darlun o Iesu Grist fel pont rhwng pobl a Duw.  Iesu yw’r un sydd wedi pontio’r bwlch mawr sydd rhyngom a Duw am nad ydym wedi caru Duw â’n holl galon na rhoi ufudd-dod llawn iddo. Campwaith cariad a thrugaredd Duw yw iddo wneud ei Fab yn bont i’n galluogi i fynd dros y cyfan sy’n ein rhwystro rhag dod i berthynas heddychol ag Ef.  Heb y bont hon, heb Grist, byddai’r bwlch hwn yn parhau’n amhosibl i’w groesi. A rhan hanfodol o gynllun Duw yw’r ffaith nad oes dim i’w dalu am gael croesi.  Nid oes toll o fath yn y byd ar y bont hon.  Nid oes rhaid i ni gyflawni dim; nid oes rhaid i ni brofi teilyngdod; nid oes rhaid cyflwyno  defodau crefyddol na gweithredodd da er mwyn cael croesi.  Mae’r bont yno, i ni ei chroesi am ddim trwy ymddiried yn Iesu Grist.

Gyda llaw, nid oes toll ar bont newydd y Forth, nac unrhyw bont arall yn yr Alban o ran hynny.  Ac os byth y ceir y drydedd bont dros y Fenai, tybed a fydd angen talu toll i’w chroesi hi (a’r ddwy bont bresennol yn ei sgil)?

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 15 Hydref, 2017