David a Danny

Ebrill 7, 2019

Y Grand National; y Ras Rwyfo;    rownd gynderfynol y Cwpan F.A.; a dechrau’r tymor criced: penwythnos difyr i bawb sy’n hoff o chwaraeon. Nid pawb sy’n gwirioni’r un fath er hynny, a bydd llawer wedi cael llond bol o’r cyfan mewn dim o dro.  A bod yn onest mi fedrwn innau wneud heb ddeiet o rasio ceffylau a rhwyfo a chriced.  Ond llond bol ar bêl droed?  Ydi hynny’n bosibl?  Ydi wrth gwrs; a hynny nid yn ôl pobl sy’n casáu pêl droed ond yn ôl a glywais gan ddau chwaraewr proffesiynol yn ddiweddar. 

Cyn-chwaraewr Arsenal, Blackburn a Tottenham a chwaraeodd saith gêm dros Loegr yw David Bentley.  Cafodd yrfa lwyddiannus cyn ymddeol yn 29 mlwydd oed, nid oherwydd ei fod wedi ei anafu (fel y rhelyw o beldroedwyr sy’n ymddeol yn eu hugeiniau) ond am iddo ‘syrthio allan o gariad â phêl droed’.  Fe’i clywais ar y radio’r dydd o’r blaen yn trafod diflastod yr holl bwyslais ar arian a’r straen a achosir gan yr holl bethau a ddywedir erbyn hyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Er lles ei iechyd meddwl penderfynodd bum mlynedd yn ôl mai gwell fyddai cefnu ar bêl droed a mwynhau bywyd ‘normal’ a theuluol.

Y mae yna bethau pwysicach na phêl droed, fel y gŵyr David Bentley yn dda. I’r Cristion, yr Efengyl a’r Ffydd yw dau o’r pethau hynny yn ogystal â’r bodlonrwydd a’r bywyd teuluol yr oedd David Bentley yn sôn amdanynt.  Eilbeth annheilwng iawn i’n cariad at Iesu Grist yw ein holl ymlyniad wrth unrhyw glwb neu dîm pêl droed, neu unrhyw chwaraeon arall. 

Aelod o dîm presennol Tottenham yw Danny Rose. Mae’n gyfnod cyffrous i’r gŵr 28 mlwydd oed, ac yntau’n chwarae dros Loegr a newydd symud gyda’i glwb i stadiwm gwerth biliwn o bunnoedd. Ond yn anterth ei yrfa, ac yntau’n ennill ffortiwn ac yn eilun i filoedd, mae Danny Rose yn dyheu am y dydd y daw’r yrfa honno i ben. Nid wedi diflasu ar y gêm y mae, ond wedi ei ddigalonni gan sylwadau hiliol a wnaed amdano a’i gyd-chwaraewyr croenddu yn ystod  gêm ddiweddar Lloegr ym Montenegro yn ogystal â gemau clwb rheolaidd gartref yn Lloegr. 

Mae’r hiliaeth a geir ar gaeau pêl droed i’w weld mewn mannau eraill yn ein cymdeithas. Mae’n gywilyddus ac annerbyniol ble bynnag y’i cheir; ac ni ddylai Danny Rose na neb arall gael ei sarhau oherwydd lliw ei groen, ar gae pêl droed nac yn unman arall. Diolch am hynny, mae pobl wâr yn ffieiddio’r hiliaeth hyll hon, ac yn benderfynol o geisio’i dileu. Mae’r Ffydd Gristnogol yn ein gorfodi ni sy’n ei harddel i wneud popeth posibl er sicrhau parch at bob gŵr a gwraig, beth bynnag eu cefndir a’u hil a’u lliw. Boed i Dduw argyhoeddi’r rhai sy’n euog o hiliaeth o bechod eu ffyrdd. A boed iddo hefyd gysuro’r rhai sy’n dioddef, a’u cadw rhag y fath gasineb, a’u sicrhau o’u gwir werth yn ei olwg Ef.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 07 Ebrill, 2019

Advertisements

Ffŵl er mwyn Crist

Mawrth 31, 2019

Maddeuwch nodyn personol heddiw gan ei bod yn ddeugain mlynedd ers i mi gychwyn fy ngweinidogaeth ym Mhen Llŷn. Cefais fy ordeinio yn Abersoch ar Fawrth 29ain, 1979,  a dydd Sul, Ebrill 1af oedd y diwrnod cychwyn swyddogol yn yr Ofalaeth.  Erbyn heno, felly, bydd union ddeugain mlynedd ers y diwrnod hwnnw.

Do, mi ddechreuais fy ngweinidogaeth ar ddiwrnod Ffŵl Ebrill. Ac rwy’n dal i feddwl ei fod cystal ag unrhyw ddydd  i wneud hynny gan na fedraf wadu mai’r hyn a fûm ers hynny, ar un ystyr ac yng ngolwg llawer, yw ffŵl sy’n cyhoeddi ffolineb.  Ond nid fi yn unig, wrth gwrs; dyna’r gwir am bob gweinidog i Iesu Grist heddiw fel erioed.

Mae’r Apostol Paul yn ein helpu i ddeall hynny pan ddywed, ‘Oblegid y gair am y groes, ffolineb yw i’r rhai sydd ar lwybr colledigaeth’ (1 Corinthiaid 1:18).  Y ‘gair am y groes’ yw’r neges am Grist yn marw dros bechaduriaid ar Galfaria; y newydd da bod maddeuant a bywyd i bawb sy’n ymddiried yn Iesu a’r hyn a wnaeth drosom ar y groes honno; y cyhoeddiad nad oes obaith i neb gerbron Duw oni bai ei fod yn pwyso ar yr Un a fu farw ac a ddaeth yn ôl yn fyw o’r bedd.  I Paul, dyma’r neges fwyaf oll: ‘I ni sydd ar lwybr iachawdwriaeth, gallu Duw ydyw’. Dyna pam, wedi iddo ei chofleidio, y cysegrodd Paul ei holl fywyd a’i holl egni i’w chyhoeddi. Ond gwyddai er hynny mai ynfydrwydd oedd y neges hon yng ngolwg y bobl nad oedd yn ei chredu.  Ynfydrwydd yw hi o hyd yng ngolwg y rhai nad ydynt yn ei chredu, ac fe glywn bobl heddiw yn mynnu mai diystyr, annealladwy ac amherthnasol yw pob sôn am groes a marwolaeth Crist dros eich pechod chi a minnau. 

Ond am ei fod yn gwbl sicr mai gwir oedd yr Efengyl, bu Paul yn fodlon i’w roi ei hun yn llwyr i’w gwasanaethu, er i hynny ddod â llawer o ofid iddo. ‘Hyd yr awr hon y mae arnom newyn a syched, yr ydym yn noeth, yn cael ein cernodio, yn ddigartref, yn blino gan lafur ein dwylo ein hunain’ (1 Cor. 4:10).  Dioddefodd Paul lawer am ei fod yn mynnu cyhoeddi’r Efengyl; ac roedd hynny yn ei wneud yn ffôl yng ngolwg y byd: ‘Ni yn ffyliaid er mwyn Crist … Ni yn wan … ninnau heb ddim parch’ (1 Cor. 4:9). Pobl i’w dirmygu oedd Paul a’i debyg am iddynt wneud rhywbeth a gyfrifid yn ffolineb yn sail i’w holl fywyd.

Nid yr Apostol Paul wyf fi, a thros y deugain mlynedd diwethaf diolch na phrofais y dioddefiadau a ddaeth i’w ran ef.  Rwy’n ddiolchgar na fu raid i mi wynebu gwrthwynebiad mawr, ond yn gobeithio’r un pryd na fu hynny am na lwyddais i gyflwyno’r neges am Grist a’i groes yn ddigon eglur. Ond rwy’n deall, er hynny, mai’r hyn wyf a’r hyn a fûm yn aml yng ngolwg y byd yw ffŵl yn cyhoeddi ffolineb. Rwy’n fwy na bodlon ar hynny; a thrwy ras  Duw mi arhosaf, os byw ac iach, yn un o’r ‘ffyliaid er mwyn Crist’, beth bynnag a ddywed neb amdanaf fi na’r Efengyl.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 31 Mawrth, 2019


Ar ein telerau ni

Mawrth 24, 2019

‘£350miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd bob wythnos’; ‘Cael ein gwlad yn ôl’;  dyna i chi ddau o sloganau mwyaf pleidwyr Brexit cyn y Refferendwm yn 2016.  Un arall oedd ‘Cipio rheolaeth yn ôl’. ‘Take back control’ oedd y gri. Roedd pobl Prydain, meddid, wedi blino ar griw anetholedig yr Undeb Ewropeaidd yn rheoli pob dim, ac roedd yn bryd i Brydeinwyr fedru eu rheoli eu hunain eto. 

Y drwg, o safbwynt pleidwyr Brexit, oedd bod gan y wladwriaeth Brydeinig ei ffordd ei hun o lywodraethu. Ac wedi’r holl gwyno am bobl anetholedig yr Undeb Ewropeaidd, yr eironi mawr yw mai’r bobl sydd dan y lach erbyn hyn yw ein cynrychiolwyr etholedig yn San Steffan.  ‘Cipio rheolaeth yn ôl’  oedd y nod. Fe gafwyd Refferendwm, do; ond roedd pawb yn gwybod mai cyfrifoldeb yr Aelodau Seneddol, y bobl a etholwyd, fyddai rhoi trefn ar bethau. Nhw fyddai’n gorfod mynd i’r afael â’r holl broses o drefnu gadael yr Undeb Ewropeaidd gan mai trwy ei senedd y mae’r Wladwriaeth Brydeinig yn ei rheoli ei hun. Nid trwy gyfraith y dorf neu ‘mob rule’; nid trwy’r papurau newydd na’r teledu na’r radio; nid trwy’r cyfryngau cymdeithasol ond trwy gynrychiolwyr etholedig y mae’n rhoi trefn ar bethau. Dyna’r union beth y bu miliynau yn galw amdano: cael rheoli pethau yn ein ffordd ni, a hynny trwy bobl a etholwyd. Mae gan y bobl a etholwyd wahanol safbwyntiau, a beth bynnag eich barn am Brexit, yr hyn a welir – er gwell, er gwaeth – yw trefn wleidyddol ddemocrataidd gwladwriaeth Prydain (â’i gwendidau a’i chryfderau a’i hodrwydd hynafol) ar waith. Ac mae’n gas gan gefnogwyr Brexit hynny.  Mae hyd yn oed y Prif Weinidog yn gandryll efo’i chyd-aelodau seneddol am iddynt fynnu gwneud eu gwaith. Rhyfedd o fyd. 

Gallwn ninnau fod yn fodlon â phethau nes i ni weld eu bod yn anghyfleus. Gallwn fod yn frwd o blaid pethau, ond bod hynny ar ein telerau ni ein hunain. Y mae Duw yn iawn nes i ni sylweddoli ei fod yn mynnu’r lle   cyntaf yn ein bywydau.   Mae Iesu Grist yn ddigon derbyniol nes i ni ddeall ei fod yn mynnu ein cariad a’n hufudd-dod llawn. Mae’r Eglwys yn ddigon pwysig nes i ni weld na ellir ei chyfyngu hi na’i gwaith i ryw gornel fechan o’n bywydau. Mae’r Efengyl yn dda nes i ni gael ein hargyhoeddi mai pechaduriaid sydd angen y maddeuant y mae’n ei gynnig ydym. 

Mae gennym ein syniadau ein hunain am Dduw a Christ, am yr Efengyl a’r Eglwys a phob math o bethau eraill sy’n gysylltiedig â’r Ffydd Gristnogol. Yr ydym yn gyfforddus cyhyd â bod gennym ni reolaeth dros y cyfan, a chyhyd â’n bod ni ein hunain yn cael diffinio’r cyfan a phenderfynu pa mor bwysig yw’r pethau hyn.  Ond nid yw  Duw’n ddarostyngedig i ni. Y mae ganddo ei gyfraith a’i ddisgwyliadau a’i drefn achubol. Mae’n mynnu ein bod yn derbyn hynny, ac yn ildio iddo ac yn ymddiried ynddo. 

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 24 Mawrth, 2019


Christchurch

Mawrth 17, 2019

Ddydd Gwener, fe’n brawychwyd ni unwaith yn rhagor gan ddrygioni dyn. Lladdwyd 50 o bobl yn Christchurch, Seland Newydd.  Saethwyd hwy mewn dau fosg yn ystod eu hamser gweddi, a gadawyd degau eraill wedi eu hanafu. Ac fel petai ymosod ar addolwyr a’u lladd ddim yn ddigon dychrynllyd mae’n debyg i’r llofrudd hwn ffilmio’r cyfan a llwyddo i’w ddangos ‘yn fyw’ ar Facebook. Mae’n wirioneddol anodd amgyffred dyfnder llygredigaeth y ddynoliaeth ar adegau.  Ac roedd dydd Gwener yn un o’r adegau hynny. 

Roedd Jacinda Ardern yn enw dieithr i mi cyn dydd Gwener. Ond oherwydd ei hymateb diffuant a chlodwiw a chywir i’r hyn a ddigwyddodd ym Mosg Al Noor ac yna ym Mosg Linwood mae’r byd bellach yn gwybod mai’r wraig hon yw Prif Weinidog Seland Newydd. Wrth gondemnio’r ymosodiad, meddai Jacinda Ardern ‘Mae llawer o’r bobl a ddioddefodd yn perthyn i’n cymunedau o fewnfudwyr.  Seland Newydd yw eu cartref. Ni ydyn nhw.’ Wrth ddweud hynny roedd hi’n datgan bod y bobl hyn, o ble bynnag yn y byd yr oeddent yn hanu, yn rhan o gymdeithas Seland Newydd. Ond roedd hi hefyd yn datgan ei bod hi a hwythau gyda’i gilydd yn rhan o’r un ddynoliaeth. 

Mae Jacinda Ardern yn sylweddoli fod yna bethau sy’n gwahaniaethu pobl oddi wrth ei gilydd.  Mae’n deall mai un o’r pethau hynny yw crefydd. Mae’n gwybod mai lleiafrif bychan (oddeutu 1.1%) o boblogaeth ei gwlad sy’n Fwslemiaid. Ond mae’n cydnabod hefyd nad yw’r gwahaniaethau hyn yn lleihau’r cwlwm sydd rhwng pobl a’i gilydd o fewn y ddynoliaeth.  Ac o fewn y ddynoliaeth honno ‘ni ydyn nhw, a nhw ydyn ni’. Oherwydd un ddynoliaeth ydym sy’n anadlu’r un awyr, yn troedio’r un ddaear, ac yn meddu’r un hawl ar fywyd o barch ac anrhydedd a rhyddid.  Nid oes neb yn well na’i gilydd; nid oes gan yr un garfan na’r un genedl fwy o hawl i fyw nag unrhyw garfan neu genedl arall; ac nid oes gan neb hawl i warafun i eraill arddel unrhyw gredo neu grefydd.  Y mae’r rhyddid i arfer ein diwylliant a’n hiaith a’n crefydd a’n ffordd o fyw yn greiddiol i gymdeithas wâr a hyd yn oed i’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn bobl.

Do, fe’n brawychwyd gan yr hyn a ddigwyddodd yn Christchurch. Ac fe’n brawychwyd gan barodrwydd rhai o bapurau newydd gwledydd Prydain (ymysg eraill ar draws y byd mae’n debyg) i gyhoeddi ar eu gwefannau ddydd Gwener nid yn unig ran o’r ffilm o’r ymosodiad ond hefyd ran, os nad y cyfan, o ’ddatganiad dieflig a gwenwynllyd’ a osodwyd ar y we gan y dyn a oedd yn gyfrifol amdano. Nid yw’r ymosodiadau hyn yn digwydd mewn gwagle, ac y mae’n sicr fod a wnelo’r pethau hyll ac annynol a ddywedir ar ein cyfryngau torfol â hwy mewn rhyw ffordd. Gweddïwn dros bawb a ddioddefodd yn Christchurch, ac yn arbennig y rhai sy’n galaru am anwyliaid na all weddïo mwy.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 17 Mawrth, 2019


Dau arwydd

Mawrth 10, 2019

Os ydych yn gyrru car mi ddylech wybod na ddylid defnyddio ffonau symudol ar fuarth gorsaf betrol. Mae hynny wedi ei nodi’n glir ar arwyddion ar bympiau petrol ers tro byd. Hyd y gwelaf, mae pobl yn cadw’r rheol hon. Ond mae hyn yn debygol o newid yn fuan; nid am fod pobl yn anwybyddu’r rhybuddion ond am fod cwmnïau’n defnyddio technoleg i alluogi cwsmeriaid i dalu am betrol gan ddefnyddio … ie, eu ffôn symudol. Erbyn hyn felly, ochr yn ochr â’r arwydd i ddiffodd y ffôn ceir arwydd arall sy’n gwahodd pobl i’w ddefnyddio i dalu.

Cymhleth? Dryslyd? Ydi, a dweud y gwir. Ddylech chi ddiffodd y ffôn ai peidio? Mae’n ymddangos fod yr     arwyddion yn croesddweud ei gilydd.  

I lawer, mae rhai o wirioneddau’r Ffydd fel petaen nhw’n croesddweud ei gilydd. Pwy yw Iesu Grist? Dyna un o’r cwestiynau mwyaf sylfaenol. Ai dyn ydyw? ‘Canys un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu’ (1 Timotheus 2:5). Ynteu ai Duw? ‘A Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a’m Duw’ (Ioan 20:28). Neges fawr y Beibl ydi bod Iesu y naill a’r llall. Nid oes croesddweud: mae’r Iesu hwn ar yr un pryd ac yn llawn yn ddyn a Duw.

A beth am yr hyn a ddywed Paul ac Iago am ein cyfiawnhad? ‘Ein dadl,’ medd Paul, ‘yw y cyfiawnheir rhywun trwy gyfrwng ffydd yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith’ (Rhufeiniaid 3:28). Ac medd Iago, ‘Fe welwch felly mai trwy weithredoedd y mae rhywun yn cael ei gyfiawnhau, ac nid trwy ffydd yn unig’ (Iago 2:24). Trwy ffydd ynteu trwy weithredoedd? Ydi’r ddau yn anghydweld neu’n croesddweud ei gilydd? Ddim o gwbl. Trwy ffydd y cawn ein cyfiawnhau, nid trwy ein gweithredoedd; ond mae gwir ffydd yn arwain at weithredoedd da.  Dweud a wna Iago mai gweithredoedd da sy’n dangos fod ffydd y Cristion yn real.

Neu beth am eiriau Iesu ei hun wrth iddo ddangos pwy sy’n wir ddilynwyr iddo? ‘Y sawl nid yw yn ein herbyn, drosom ni y mae (Marc 9:40). ‘Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae’ (Mathew 12:30). Gall y frawddeg gyntaf awgrymu mai’r cyfan y mae Iesu yn ei ofyn yw nad ydym yn ei wrthwynebu. Ond mae’r ail yn dangos yn glir fod rhaid i ddilynwyr Iesu fod o’i blaid, ac nid yn unig peidio â bod yn ei erbyn. Nid oes anghysondeb yn y geiriau hyn. Annog ei ddisgyblion i beidio â gwrthod cydnabod dilynwyr eraill iddo am nad ydynt yn rhan o’u cylch nhw a wna Iesu yn y frawddeg gyntaf.  Herio ei ddisgyblion i fod o ddifrif fel ei ddilynwyr a wna yn yr ail frawddeg. 

Gwaherddir ffôn symudol yn agos at bwmp petrol am ddau reswm: perygl bychan ac annhebygol iawn o achosi ffrwydrad, a’r perygl o dynnu sylw pobl yng nghanol y traffig. Ond gellir ei ddefnyddio y tu mewn i’r car i dalu. Nid oes anghysondeb wedi’r cwbl.  

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 10 Mawrth, 2019


Cyfnewidiol

Mawrth 3, 2019

Fe gafwyd dyddiau hynod o braf yr wythnos ddiwethaf. Roedd dydd Mawrth a dydd Mercher yn boethach nag a fu erioed ym mis Chwefror yng ngwledydd Prydain ers cadw cofnodion manwl o dymheredd dyddiol. Doeddem ni ddim yn sôn am wanwyn cynnar hyd yn oed; roedd fel petai’r haf wedi dod. Ers hynny, wrth gwrs, mae wedi glawio ac oeri’n arw ac yn debycach i’r hyn a ddisgwyliwn ddiwedd Chwefror a dechrau Mawrth.  Ond mae’n dal yn fwyn iawn o gymharu â’r un adeg y llynedd pan oedd eira dan draed.

Clywais fwy nag un  yn dweud y byddwn yn ‘talu am y tywydd braf yma’ dros yr wythnosau nesaf. Mae wedi brafio’n rhy gynnar, meddir, a gall tywydd mawr ddod eto cyn i’r  gaeaf fynd heibio. Cawn weld. Un peth sy’n sicr yw ei bod mor anodd darogan y tywydd.  Mae hwnnw mor anwadal, mor gyfnewidiol, mor annibynadwy, mor ansicr.

A hithau’n fis Mawrth, pwy a ŵyr a wireddir rhai o’n hen ddywediadau?  Gan ei bod yn oer a gwlyb ddoe ac  echdoe gallwn anghofio’r un sy’n dweud, ‘Os daw Mawrth i mewn fel oenig, allan â fel llew mileinig’. Ond beth am eraill fel, ‘Os yn Mawrth y tyf y ddôl, gwelir llawnder ar ei ôl’; ‘Fel bo Mawrth y bydd yr haf’; a ‘Niwl yn Mawrth, rhew yn Mai’?

Mor ansefydlog ac ansicr y gall Eglwys yr Arglwydd Iesu Grist ymddangos hefyd. Pwy a ŵyr beth a ddaw? Pwy a ŵyr beth a ddigwydd? Mae eglwysi unigol mor wahanol i’w gilydd; rhai yn ffynnu ac eraill yn nychu; rhai yn tyfu ac eraill yn crebachu; rhai yn codi ac eraill yn diflannu. Mae’r gweithgaredd hwn yn llwyddo a’r peth acw yn methu yn llwyr. Gall Cristnogion unigol fod yn frwd un funud ac yn oer y funud nesaf, a gall cynulleidfaoedd fod yn llawn gobaith un dydd ond yn gwbl anobeithiol y diwrnod wedyn.

Beth bynnag a ddywedwn am hyn oll, mor dda yw cofio fod Arglwydd y tymhorau ac Arglwydd yr Eglwys yn ddibynadwy a digyfnewid. Yr un yw Duw o ddydd i ddydd ac o oes i oes. Nid yw’n gyfnewidiol; nid yw’n ansicr; nid yw’n annibynadwy. Y mae’n ffyddlon, yn gadarn ac yn gyson. Y mae bob amser yn wrandäwr ac atebwr gweddïau ei bobl.  Y mae bob amser yn cynnal ei blant ym mhob math o anawsterau a threialon. Beth bynnag ein hamgylchiadau, gallwn bwyso ar yr Arglwydd a gwybod y bydd yn rhoi nerth a gras i ni.  Yn ein holl ofnau a phryderon, y mae’r Arglwydd yn graig gadarn dan ein traed. Mae wedi cynnal a gwarchod ei bobl dros y canrifoedd, a gallwn fod yn sicr y bydd yn parhau i wneud hynny heddiw ac i’r dyfodol.  Yr un yw ei gariad o genhedlaeth i genhedlaeth, ac fe welir y cariad hwnnw yn yr Arglwydd Iesu Grist heddiw fel erioed. Nid yw, ac ni fydd y cariad hwnnw fyth yn newid nac yn darfod. Oherwydd ‘Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth’ (Hebreaid 13:8).

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 03 Mawrth, 2019


Gostyngeiddrwydd

Chwefror 24, 2019

Doeddwn i ddim yn adnabod Paul Flynn a fu farw ddydd Sul diwethaf. Unwaith yn unig y bûm yng nghwmni’r gŵr bonheddig a fu’n aelod seneddol dros etholaeth Gorllewin Casnewydd ers 1987.  Ond a bod yn onest, nid yw dweud i mi fod yn ei gwmni’n gwbl gywir chwaith.

Wythnos Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau oedd hi, fis Awst 2016. Os buoch yn yr Eisteddfod ar Ddôl y Castell yng nghanol Y Fenni mi gofiwch fod y meysydd parcio ddwy neu dair milltir oddi yno, a bysus i fynd â chi i Faes yr Eisteddfod. Yn un o’r meysydd parcio hynny y gwelais i Paul Flynn. Wnes i ddim siarad ag o: fel y dywedais, doeddwn i ddim yn ei nabod. Ond roeddwn yn yr un ciw ag o, yn  aros am y bws. Roedd y ciw yn hir iawn, ac roedd yn amlwg y byddai sawl bws wedi dod a mynd cyn y byddem yn cyrraedd blaen y ciw. 

Does fawr o ddim y medrwch ei wneud mewn ciw, heblaw ciwio. Ond o leiaf mewn ciw eisteddfodol mi fedrwch chi sbïo o’ch cwmpas i weld pwy arall sydd yno. Oes rhywun yr ydych yn ei nabod? Oes wynebau cyfarwydd? Oes rhywun enwog? Dyna pryd y gwelsom Paul Flynn. Roedd y tu ôl i ni, yn nes at gefn y ciw na’i flaen. Nid ni yn unig a’i gwelodd. Roedd un o stiwardiaid y maes parcio wedi sylwi arno ac wedi mynd ato i’w nôl i flaen y ciw. O bosib iddo weld golwg fregus ar Mr Flynn: roedd y gŵr bonheddig dros ei bedwar ugain a heb fod yn dda ei iechyd. Ond mae’n fwy tebygol i’r stiward fynd ato am mai fo oedd yr aelod seneddol lleol. Siawns mai un o freintiau’r swydd honno yw nad oes rhaid ciwio? Ond gwrthod y gwahoddiad i symud i’r blaen a wnaeth Paul Flynn, er i’r stiward ac eraill bwyso arno. 

Na, wnaethom ni ddim siarad ag o’r bore hwnnw. Ond roeddem yn teimlo er hynny ein bod wedi dod i’w nabod. Yn sicr fe welsom ostyngeiddrwydd y dyn. Mor hawdd fyddai iddo fod wedi mynd i flaen y ciw. Go brin y byddai neb wedi cwyno o gofio mor boeth oedd hi ac mor fregus oedd o. Ond  aros ei dro fel pawb arall a wnaeth.

Doedd Paul Flynn ddim yn ei gyfrif ei hun yn well nac yn bwysicach na’r bobl eraill a safai yn y cae hwnnw.  Y bore hwnnw, eisteddfodwr cyffredin oedd yntau, yn amlwg yn ei uniaethu ei hun â’r gweddill ohonom. Mynnai wynebu’r un amgylchiadau a’r un trafferthion â ni gan wrthod llwybr hawdd. Ac yn hyn o beth, gwelsom ynddo rywbeth a’n hatgoffai am yr un y dywedodd Paul arall amdano: ‘Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod       cydraddoldeb â Duw yn beth i’w gipio, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol. O’i gael ar ddull dyn, fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes’ (Philipiaid 2:6–8). Dyma’r Crist y cawn ein hannog gan Paul i gredu ynddo ac i fod o’r un agwedd meddwl ag ef.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 24 Chwefror, 2019