CIC LLANBERIS
CWPAN CIC 2015

Yr hogia’n ennill Cwpan CIC
Nos Iau, Gorffennaf 10, 2014
Roedd dau dim CIC Capel Coch yn chwarae yng nghystadleuaeth Cwpan CIC yn Nghanolfan Ty Nant, Abererch, nos Iau, Gorffennaf 10, 2014. Cyrhaeddodd y ddau dim y rownd gyn-derfynol a chwarae yn erbyn ei gilydd! Llanberis A enillodd a mynd trwodd i’r rownd derfynol yn erbyn Capel y Rhos, Llanrug, a Llanberis B yn chwarae yn erbyn Llansannan am y 3ydd safle. Colli wnaeth Llanberis B o 1 gôl i 0, a gorffen yn 4ydd yn y gystadleuaeth, ond roedd y bêl ar ei ffordd i rwyd Llansannan i ddod â’r sgôr yn gyfartal pan chwythodd y dyfarnwr y bib a dod â’r gêm i ben! Yn y rownd derfynol, 1-1 oedd y sgôr ar ôl amser ychwanegol, ac felly roedd rhaid chwarae am y gôl euraidd. A Llanberis sgoriodd honno i ennill y Cwpan er bod hogiau Llanrug yn mynnu bod y bêl wedi croesi’r llinell derfyn cyn iddi gael ei chroesi ar gyfer y gôl. Dyma’r eildro i Capel Coch ennill Cwpan CIC gan i ni ei hennill yn 2010 hefyd.







CIC nesaf
Nos Wener, Mehefin 27, 2014
Cwpan Efe (Blwyddyn 3–6)
Bydd yr hogia yn helpu i gynnal Cwpan Efe yn Llanrug
Noson Basg yn Y Bala
Trefnwyd gan Goleg y Bala a gweithwyr ieuenctid Cristnogol y Gogledd, Ebrill 11, 2014
Cwpan CIC ym Motwnnog – Gorffennaf 2013
Parc Glasfryn – Hydref 2013

Grand Prix CIC
Bowlio 10
Diwed Tymor Nadolig 2012
Cwpan CIC
Aeth tim pel droed 5-yr-ochr CIC Llanberis i Fotwnnog i gymryd rhan yng Ngwpan CIC a drefnwyd gan Trobwynt, nos Fercher, Gorffennaf 7, 2010, a llwyddodd yr hogiau i ennill y Cwpan eleni. Llongyfarchiadau mawr a diolch i Andrew, Dafydd ac Alwyn am fynd efo’r hogiau.
‘Uts a nocowt’
Cawsom noson hwyliog yn y Ganolfan yn Llanberis nos Wener. Daeth 28 o bobl ifanc i’r ‘Uts a Nocowt’ a drefnwyd gan Gynllun Efe. Roedd pob math o ‘gemau gwirion’ yn Y Ganolfan ac ar Gae’r Ddôl. Ffurfiwyd tri thim, a chafwyd cystadlu brwd iawn. Erbyn diwedd y nos roedd tim yr hogia ac yn un o dimau’r genod yn gydradd gyntaf, gyda thim arall y genod yn agos iawn atynt.Roedd y bobl ifanc o Lanberis a Llanrug ac amryw ohonynt heb fod yn yr un o weithgareddau Efe o’r blaen. Roedd yn werth cynnal y noson er mwyn hynny’n unig. Y gobaith yw y gwelwn ni rai ohonynt yn dod i gyfarfodydd CIC ar nos Sul.”Wnewch chi gynnal un arall o’r rhain i ni plis” oedd cwestiwn un o’r ieuecntid sy’n dod yn gyson i CIC. Roedd yn braf iawn gweld eu bod wedi mwynhau’r noson yn fawr ac yn pwyso am ragor o weithgareddau.
Diolch yn fawr i Andrew, Gwenno a Dafydd am reoli’r gemau; ac i Susan a Llew a Graham am gyfri’r marciau a helpu i gadw trefn. Andrew a wnaeth y trefniadau i gyd, a diolch yn fawr iddo am hynny.
Bowlio 10
Diolch yn fawr i Gwenno, Dafydd ac Andrew am ddod gyda’r ieuenctid i’r Ganolfan Bowlio Deg ym Mharc Glasfryn, Y Ffôr, nos Wener, Chwefror 12. Cafwyd noson arbennig o dda.
“UTS Y NOCOWT” – CANOLFAN Y FFOR
NOS WENER, GORFF. 17
Cwpan CIC
Cystadleuaeth Pel droed 5 -yr -ochr Trobwynt
yn Ysgol Botwnnog, nos Lun, Gorffennaf 6, 2009
Roedd tim o’r Clwb Pysgod Mawr yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth bel droed 5 yr ochr a drefnwyd gan Trobwynt yn Ysgol Botwnnog, nos Lun, Gorffennaf 6. Roedd 8 o dimau’n cymryd rhan, a rhanwyd hwy’n ddau grwp.
Aelodau tim Llanberis oedd Gerallt, Sion, Nathan, Adam a Kurt (o Lanberis) a Rhodri a Rhun (o Lanrug).
Enillodd yr hogia ddwy o gemau’r grwp a chael un gem gyfartal. Yna, cafwyd gem gyfartal yn rownd go-gynderfynol, ac ennill y gem ar ôl ciciau o’r smotyn. Ond yn y rownd gyn-derfynol, colli o un gôl oedd yr hanes. Ond fe chwaraeodd pawb yn dda, a chael hwyl fawr. Ond fe gyflwynwyd medalau i’r hogia am orffen yn drydydd, gan mai nhw oedd wedi gwneud orau o’r ddau dim a gollodd yn y rownd gyn-derfynol.
Da iawn, chi, hogia. Llongyfarchiadau mawr.
Ar ddiwedd y noson roedd barbiciw wedi ei drefnu ar gyfer pawb. Roedd oddeutu 60 o hogia (blwyddyn 7-9 yr ysgol) yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, a phob un ohonynt efo cysylltiad â chlwb ieuenctid neu ryw weithgarwch Cristnogol arall. Dyma’r ail dro i Trobwynt gynnal y gystadleuaeth, ac fel y llynedd roedd cyfle i’r hogia glywed neges yr Efengyl cyn i’r noson ddod i ben. John Pritchard oedd wedi cael gwahoddiad i roi’r sgwrs y tro hwn. Diolch yn fawr iawn i Andrew, Huw a Dafydd am hyfforddi a gofalu am y tim ym Motwnnog, ac i Mrs Gwenno Williams, Llanrug, am helpu i ddanfon yr hogia i Fotwnnog.
Llanberis yn ennill y “penalty shoot out”