Gronyn
Gofalaeth Fro’r Llechen Las
Croeso i wefan Gofalaeth Fro’r Llechen Las
Pam Gronyn?
Daw enw’r wefan o gylchlythyr wythnosol eglwysi’r Ofalaeth – Gronyn – a gyhoeddir bob Sul. Ceir ynddo neges gan y Gweinidog ynghyd â newyddion am waith yr Ofalaeth. Gwelir rhifynnau diweddaraf Gronyn trwy glicio ar “Gronyn” ar ben y dudalen hon.
Cyhoeddwyd “Gronyn” yn achlysurol ers 1988 (a chyn hynny hefyd, mewn gwirionedd, yng ngofalaeth flaenorol ein Gweinidog yn ardal Abersoch); ond mae wedi ei gyhoeddi’n wythnosol yn ei ffurf bresennol ers mis Medi 2001.
Caiff ei ddosbarthu bob wythnos a gellir ei ddarllen yn llawn ar y wefan hon, ac mae’n rhan bwysig o genhadaeth eglwysi’r Ofalaeth. Rhowch wybod i ni os gwyddoch am rywun o’r ardal a fyddai’n hoffi derbyn copi ohono ar bapur yn wythnosol. Mae amryw yn derbyn copi electroneg. Anfonwch e-bost at john.cilfynydd@btinternet.com os ydych eisiau i ni anfon copi electroneg atoch.
Gallwn ddarparu fersiwn mwy, maint A4, i bwy bynnag sy’n cael trafferth i ddarllen Gronyn yn ei faint A5 arferol.