Efe

logo12
 
Y CYNLLUN
Mae Cynllun Efe yn elusen Gristnogol sy’n cefnogi’r eglwysi lleol i gyflwyno Efengyl Iesu Grist i blant ac ieuenctid yn nalgylch papur bro Eco’r Wyddfa yn Arfon, Gwynedd.

Buom yn trafod a gweddio dros y gwaith hwn am dair blynedd a hanner cyn penodi ein gweithiwr ieuenctid Cristnogol.   Trwy haelioni yr enwadau (yn genedlaethol a rhanbarthol), ymddiriedeolaethau, eglwysi, unigolion a mudiadau lleol, llwyddwyd i sicrhau cyllid ar gyfer ariannu’r cynllun am gyfnod cychwynnol o dair blynedd.

YR ENW

Acronym yw’r enw Efe, sy’n cyfleu ein gweledigaeth o gyflwyno’r Efengyl i Fro’r Eco.   Mae’r enw hefyd yn awgrymu’r Efe dwyfol y ceisiwn ei wasanaethu trwy  weinidogaeth y Cynllun newydd hwn.

Y GWEITHIWR IEUENCTID

Ers mis Medi 2018, mae gan Efe weithiwr ieuenctid, plant a theuluoedd newydd i olynu Andrew Settatree (a fu gyda ni am 8 mlynedd) a Catrin Hampton (a fu gyda ni am flwyddyn).  Mae Susan Williams yn byw yn Ceunant ers blynyddoedd, ac wedi bod yn rhan o waith Efe o’r cychwyn.  Ers mis Medi mae’n gwasanaethu Efe a Chapel Caersalem Caernarfon a Scripture Union Cymru mewn swydd lawn amser.

This image has an empty alt attribute; its file name is catrin-a-susan.jpg
Susan Williams (ar y dde) gyda chyn-weithiwr Cynllun Efe, Catrin Hampton

 

Andrew Settatree
Gweithiwr cyntaf Cynllun Efe, Andrew Settatree

CEFNOGI

Gellwch gefnogi gwaith Efe yn ariannol trwy anfon eich cyfraniad at Drysorydd Cynllun Efe, Mr Clive James, Hafan, Caeathro, Caernarfon, Gwynedd LL55 2SS.  Bydd pob cyfraniad yn ein galluogi i gynnal y genhadaeth bwysig hon dros y tair blynedd gychwynnol ac ymhellach na hynny.

 GWEDDIO

A wnewch chi weddio dros waith Efe a thros Susan, ein gweithiwr, os gwelwch yn dda.  Gweddiwch dros ei waith yn yr eglwysi a’ r ysgolion lleol.

Yr ydym yn gwerthfawrogi eich gweddiau ac yn erfyn arnoch i barhau i weddio dros ein holl waith.  

 

CWPAN EFE 2016

2421 (1)

Pel droed 5-yr-ochr

Nos Fawrth, Gorffennaf 5

Cae Ysgol Gynradd Llanrug

6.00 – 9.00 p.m.

Cysylltwch ag Andrew – 079 299 16181

 

PASG EFE 2014

Un o’r digwyddiadau blynyddol a drefnir dan nawdd Cynllun Efe yw diwrnod Pasg Efe ar ddydd Llun cyntaf gwyliau’r Pasg. Fe’i cynhaliwyd eleni eto yn Ysgol Gynradd Llanrug ddydd Llun, Ebrill 14. Gwnaed y trefniadau gan ein gweithiwr ieuenctid, Andrew Settatree, a’r tro hwn gwahoddwyd Steffan a Gwenno Morris, a Sioned a Megan, sy’n treulio eu Blwyddyn Gap yng Ngholeg Y Bala, i’n cynorthwyo. Diolch iddynt am eu gwaith paratoi ac am eu prysurdeb yn ystod y dydd.

Cafwyd teirawr brysur iawn, a oedd yn gymysgedd o grefft, chwaraeon, gwneud masgiau, canu mawl, dysgu adnod a chyflwyniad bywiog a gwreiddiol o’r dystiolaeth a geir yn yr efengylau i atgyfodiad yr Arglwydd Iesu Grist.

Rhannwyd y plant yn bedwar tîm a oedd yn cynrychioli pedwar o arch-arwyr byd y comics a’r ffilmiau, Batman, Superman, Spiderman ac Ironman, ac roedd cystadlu brwd am bwyntiau ar gyfer gwahanol dasgau’r dydd. Y bwriad wrth ddefnyddio’r arch-arwyr hyn, wrth gwrs, oedd dangos bod Iesu Grist yn fwy ac yn well na’r un o arch-arwyr dychmygol hyn, gan mai ef yw Mab Duw, a ddaeth i’r byd, ac a fu farw ac a dod yn ôl yn fyw.

A hanes atgyfodiad Iesu oedd y sail i holl weithgareddau’r dydd. Cyflwynwyd yr hanes trwy gyfres o fwletinau newyddion ar sgrin fawr, wrth i ohebydd Wedi 3diau holi Simon Pedr, a’r ddau gyfaill y cyfarfu Iesu â hwy ar y ffordd i Emaus, a Thomas. Clywyd Pedr yn dweud iddo weld y bedd yn wag a’r llieiniau a fu am yr Iesu wedi eu gadael ar ôl; clywyd y ddau gyfaill yn sôn am y ffordd yr oedden nhw wedi methu ag adnabod Iesu wrth iddo sgwrsio efo nhw ar y ffordd, ond eu bod wedi ei adnabod wrth iddo weddïo a thorri’r bara gyda nhw; a chlywyd Thomas yn dweud ei fod wedi gwrthod credu’r hyn a ddywedodd ei ffrindiau am atgyfodiad Crist nes iddo ei weld drosto’i hun. Eglurwyd ein bod ninnau’n gallu credu ynddo er nad ydym wedi ei weld efo’n llygaid.

Daeth 30 o blant (8–11 oed) atom y tro hwn, ac yr oedd yn braf gweld yn eu plith rai wynebau cyfarwydd i ni ac ambell un a ddaeth am y tro cyntaf. Braf iawn hefyd oedd cael help wyth o’r ‘hen stejars’, sydd erbyn hyn yn aelodau o CICiau’r ardal.

Roedd pawb wedi dod â phecyn bwyd a chafwyd cinio sydyn cyn mynd adref gydag wy Pasg bychan a thaflen liwgar yn adrodd stori’r Pasg i’w hatgoffa am y dydd ond yn bwysicach am newyddion syfrdanol y Pasg.

DSCN2458DSCN2460DSCN2465DSCN2466DSCN2467DSCN2470DSCN2474DSCN2478DSCN2479DSCN2486DSCN2489DSCN2490DSCN2491DSCN2497DSCN2499DSCN2496

 

SUL EFE

yn Y Ganolfan Llanberis

ddydd Sul, Tachwedd 17

11.30 a.m. – 1.00 p.m.

Croeso i ysgolion Sul a holl blant ac ieuecntid y fro

1460226_10153538409330045_990426606_n

CYFARFOD BLYNYDDOL

Cynhaliwyd Cymanfa Cynllun Efe (ein cyfarfod cyhoeddus blynyddol)  i adrodd am ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf yn festri Capel y Rhos, Llanrug, nos Lun, Tachwedd 4, 2013.   Anfonir adroddiad at eglwysi’r fro a chefnogwyr y Cynllun mor fuan â phosibl.  

CIC (CLWB IEUENCTID CRISTNOGOL) LLANBERIS

Cwpan CIC 2009

Cystadleuaeth Pel droed 5 -yr -ochr Trobwynt

yn Ysgol Botwnnog, nos Lun, Gorffennaf 6, 2009

cwpan clic

 

   

 
 
 

 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Llanberis yn ennill y
Llanberis yn ennill y “penalty shoot out”

NOSON CARTIO 

Nos Wener, Ebrill 3, aeth aelodau Clwb Pysgod Mawr i rasio ceirt dan do yng Nghanolfan Gertio Redline yng Nghaernarfon.  Cafodd pawb ddwy ras yr un, gyda’r gyrrwyr cyflymaf yn mynd trwodd i’r rownd derfynol.  Yr hogiau ddaeth i’r brig y tro hwn, a  llongyfarchiadau i’r enillydd Adam Jones, Sion Roberts oedd yn ail, ac Elliw Saynor yn drydydd.   Cafodd Elin Haf fedal arbennig hefyd.  Doedd arweinwyr y Clwb ddim yn cael medal na mynd trwodd i’r ffeinal, ond mae’n siwr mai’r gwir yw nad oedden nhw mor gyflym â’r bobl ifanc.  (Huw Davies enillodd, gydag Andrew Settatree yn ail, a Robert Townsend yn drydydd). Wedi’r gyrru gwyllt rownd y trac, aeth pawb am fwyd i McDonald’s yng Nghaernarfon.  Gan fod amryw o’r criw wedi bod yn sâl yn ystod yr wythnos, gobeithio nad ydynt ddim gwaeth wedi’r holl yrru a’r bwyta.  Diolch yn fawr iawn i Andrew am drefnu’r noson.  Gobeithio bod pawb wedi mwynhau eu hunain.  

ar ras

  Criw'r Clwb Pysgod Mawr - bydd y Clwb yn ail ddechrau nos Sul, Mai 10

Yr enillwyr
Yr enillwyr

CYFARFOD NEWYDD AR GYFER IEUENCTID BLWYDDYN 10-13

Manylion gan Andrew

MANYLION PELLACH

Ceir manylion pellach am waith Efe gan y Parchg John Pritchard –

john.cilfynydd@btinternet.com

Mae gwefan Cynllun Efe yn barod erbyn hyn – cynllunefe.org.  Mae cyswllt i’r wefan honno o’r dudalen Hafan.