Gair neu ddau (o’r ‘Pedair Tudalen’)

Dim ond fo

Pum gair digon cyffredin sy’n cael eu dweud bob dydd gan bron bawb sy’n siarad Saesneg.  Ac eto, o roi’r pum gair at ei gilydd byddai pawb sy’n gyfarwydd â diwylliant teledu’r degawdau diwethaf yn eu cysylltu’n annatod ag un dyn, ac un dyn yn unig.  Dim ond David Frost, a fu farw ddydd olaf Awst, a ddaw i’r meddwl o glywed y cyfarchiad ‘Hello, good evening and welcome’.  Felly y byddai’n cyfarch ei gynulleidfa ar ddechrau pob rhaglen, boed adloniant ysgafn neu gyfweliad o bwys. Roedd y ffaith bod pobl fel Mike Yarwood wedi defnyddio’r geiriau wrth ddynwared Frost yn rhannol gyfrifol am uniaethu’r cyfarchiad ag ef, ond mae’n debyg mai clyfrwch Frost a wnaeth iddo sylweddoli’n gynnar iawn na wnâi geiriau bachog o’r fath unrhyw ddrwg i’w yrfa.

Mae pawb sy’n gyfarwydd â David Frost yn uniaethu’r geiriau hyn ag ef.  Does dim posib clywed ‘Hello, good evening and welcome’ heb feddwl amdano, a does dim posibl meddwl amdano fo heb gofio’r geiriau.  Mae’r un peth yn wir ddiddanwyr fel Tommy Cooper a Bruce Forsyth a’u ‘Just like that’ a ‘Nice to see you, to see you nice’.

Wyddwn i ddim bod David Frost ar un adeg, cyn iddo ddod i amlygrwydd fel cyflwynydd teledu, wedi bod yn bregethwr lleyg.  Tybed oedd o’n cyfarch cynulleidfa capel efo’r pum gair hyn?  A thybed sawl pregethwr sydd â’i eiriau bachog ei hunan?

Ond geiriau bachog neu beidio, mor braf fyddai meddwl bod pobl yn ein huniaethu ninnau â geiriau arbennig.  Pobl yr Efengyl ydym fel Cristnogion.  Fe’n galwyd gan Dduw i gyhoeddi’r neges am yr Arglwydd Iesu Grist.  Dyma’n gwaith a dyma’n braint.  Mae rhannu’r Efengyl ag eraill yn hollbwysig i’r Cristion gan fod angen i bobl wybod am gariad Duw a gwaith achubol Iesu Grist.  O wybod nad oes obaith ar wahân i Grist mae’r Cristion yn awyddus i roi gwybod i bawb amdano a’i waith.  Ac oni fyddai’n braf meddwl bod pobl felly’n cysylltu’r neges hon â ni.  Onid yr Efengyl ddylai pobl ei chysylltu â ni o flaen pob dim arall?

Nid ni sy’n bwysig wrth gwrs ond yr Arglwydd Iesu Grist.  Ei weision ef ydym.  Ac fel gweision sy’n gwneud gwaith Crist ac yn sôn amdano, ein gobaith yw y bydd pobl, o glywed amdanom ni, yn meddwl yn gyntaf amdano Ef.  Boed i Dduw fendithio ein tystiolaeth fel y bydd pobl yn meddwl ar unwaith am yr Arglwydd Iesu Grist bob tro y byddan nhw’n clywed neu’n meddwl amdanom ni ei bobl.

Medi 27, 2013

 Amseru

Os darllenoch chi’r golofn hon yr wythnos ddiwethaf fe gofiwch o bosibl i mi ddweud y byddai beicwyr Taith Prydain 2013 wedi cyrraedd Llanberis ar bedwerydd diwrnod y ras erbyn i chi ddarllen y golofn.  Ddigwyddodd hynny ddim.

Fwy na thebyg bod Pedair Tudalen yr wythnos ddiwethaf wedi cyrraedd y bin ail-gylchu cyn bod y ras wedi cychwyn hyd yn oed.  Ond fe ddylai Bradley Wiggins a’i griw fod wedi bod yma erbyn i chi ddarllen y golofn yr wythnos hon.  Chafodd trefniadau’r ras mo’u newid, wrth gwrs.  Fi wnaeth gamddarllen dyddiadau’r ras, a cham-amseru pethau trwy sgwennu’r golofn wythnos yn rhy gynnar.  (Yr unig gysur yw bod hynny wedi rhoi i mi rywbeth i sgwennu amdano’r tro hwn!)

Hen beth cas yw cam-amseru, fel y gŵyr unrhyw un a aeth i drafferth i baratoi cinio poeth ond llwyddo i gael popeth yn barod awr dda cyn i’r gwesteion gyrraedd.  O leiaf, gallaf gysuro fy hun mod i’n well na’r sawl a gyhoeddodd trwy gamgymeriad erthygl goffa i ddyn nad oedd wedi marw.  Dyna beth oedd teyrnged ardderchog ac amseru gwael.

Ond mae amseru Duw yn berffaith, fel y dengys Paul wrth ddweud, ‘Ond pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith, i brynu rhyddid i’r rhai oedd dan y Gyfraith, er mwyn i ni gael braint mabwysiad’ (Galatiaid 4:4–5).  Do, fe drefnodd Duw ffordd i’n gwared ac i’n gwneud yn blant iddo’i hun, ond rywsut yn noethineb mawr Duw fe ddaeth Iesu Grist i’r byd i wneud hyn oll yn yr union amser a benodwyd ar ei gyfer.  Nid munud cynt ac nid canrif wedyn, ond yn union amser Duw.

A pham yr amser hwnnw?  Mae John Stott yn awgrymu sawl peth a allai fod yn berthnasol, yn cynnwys ffyrdd Rhufeinig a fyddai’n hwyluso lledaeniad yr Efengyl; pobl yn cefnu ar hen dduwiau Groeg a Rhufain ac yn dyheu am grefydd newydd, real; a Chyfraith Moses wedi gwneud ei gwaith o baratoi pobl ar gyfer dyfodiad Crist.  O bosibl bod yna ffactorau eraill a oedd yn nhrefn Duw yn golygu mai dyma’r amser perffaith ar gyfer cyflawni’r cyfan a addawyd ynghylch y Meseia.  Yr hyn a wyddom yw na ddryswyd bwriadau Duw mewn unrhyw ffordd.  Trefnwyd Gwaredwr; addawyd Gwaredwr; ac anfonwyd y Gwaredwr hwnnw yn yr amser priodol.  Ac un elfen fechan o’r iachawdwriaeth berffaith y’n gwahoddir i’w derbyn yng Nghrist yw’r amseru perffaith hwn.

21 Medi, 2013 

Wiggins

Yn ôl a ddeallaf heno o fewn ychydig ddyddiau i ddechrau Taith Prydain bydd un o enillwyr mwyaf poblogaidd Gemau Olympaidd Llundain yn cymryd rhan yn y ras feics enwog hon eleni.  Erbyn i chi ddarllen hwn bydd Bradley Wiggins a’i gyd-gystadleuwyr os byw ac iach wedi gwibio i lawr Bwlch Llanberis a chroesi llinell derfyn pedwerydd cymal y ras yn Llanberis.  (Ac os oeddwn i gartref y pnawn hwnnw fe ddylwn i fod wedi eu gweld gan fod ein tŷ ni o fewn tafliad carreg i’r llinell derfyn ar lan Llyn Padarn.)

Mae Stoke-on-Trent yn bell o Lanberis; yn rhy bell beth bynnag i ni ystyried mynd am drip Ysgol Sul i Alton Towers nid nepell o’r lle hwnnw.  Fe adawn ni’r daith bws honno o ddwy awr a mwy i Ysgol Uwchradd Brynrefail ei threfnu i’r plant bob haf!  Stoke fydd man cychwyn y pedwerydd cymal hwn, a rhagwelir y bydd Bradley Wiggins a’i gyfeillion yn reidio o ganol y ddinas i Lanberis mewn oddeutu pedair awr a hanner.  A thrannoeth byddant yn mynd yr holl ffordd o Fachynlleth i Gaerffili mewn amser tebyg.

Fedrwch chi ddim peidio ag edmygu’r beicwyr hyn a rhyfeddu at eu ffitrwydd a’u dawn a’u dewrder a’u hymroddiad.  Nid ar chwarae bach y bydd yr un ohonynt yn cymryd rhan yn y ras, heb sôn am ei gorffen.  Does ryfedd bod y Testament Newydd yn benthyca’r darlun o’r athletwr i bwysleisio’r angen i Gristnogion ymroi i’r bywyd Cristnogol â’u holl egni.  Mae dyfalbarhad a disgyblaeth ac ymroddiad yr athletwr yn ei ymdrech i ennill y ras yn batrwm i’r Cristion o’r hyn sydd ei angen yn y bywyd Cristnogol.  Dychmygwch Gristnogion mor ymroddedig i’w Ffydd ag yw’r reidwyr hyn i’w camp.  Dychmygwch gwmni ohonynt gyda’i gilydd yn ymgolli yn yr addoliad, yn ymdaflu i’r genhadaeth ac yn ymdrechu mewn gwasanaeth.  Fyddai’r un beiciwr yn disgwyl ennill ras heb fod wedi hyfforddi a pharatoi’n drylwyr.  Ond tybed nad oes gormod ohonom fel Cristnogion yn disgwyl llwyddo yn y bywyd Cristnogol heb y ddisgyblaeth angenrheidiol, a gwaeth na hynny hyd yn oed heb fod â’r galon yn y gwaith.

Ond mor bwysig yw cofio bod cymaint o blaid y Cristion.  Pe digwydd i’r athletwr esgeuluso’r ddisgyblaeth a’r ymarfer, a gwneud llanast llwyr o’i baratoadau, prin fyddai’r gobeithion am lwyddiant.  Mor wahanol yw’r bywyd Cristnogol.  Gwnewch y llanast mwyaf, esgeuluswch foddion gras y gell weddi a’r Gair a’r oedfa, anwybyddwch bob rheol a chrwydrwch oddi ar y llwybr; ac eto, dim ond i chi droi mewn edifeirwch at Dduw cewch ddal i redeg yr yrfa’n fuddugoliaethus trwy ei ras ac yn ei nerth.

14 Medi, 2013

 

Ghouta a Fallujah

Mae’n amlwg i bawb bod y sefyllfa yn Syria’n eithriadol o gymhleth a bregus, ac ni allwn ddechrau dirnad dioddefaint pobl a ddaliwyd yng nghanol yr holl ladd a dinistr.  Gweddïwn dros bawb sy’n dioddef yno, a thros bob ymdrech i ddod â heddwch a chymod i Syria heddiw.  Cofiwn yn arbennig am bawb sy’n gweini ar ffoaduriaid a chleifion a galarwyr, ac am bawb sydd mewn unrhyw ffordd yn rhan o’r ymdrech i ddwyn cyfiawnder a chymod i’r bobl hyn.

Yr wythnos ddiwethaf, clywyd eto am y dioddefaint a achosir gan arfau cemegol pan laddwyd cannoedd o bobl yn Ghouta, ger Damascus.  Mae’r dadlau’n parhau ynglŷn â phwy yn union oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad hwnnw.  Ond pwy bynnag oedd yn gyfrifol, yr un oedd yr anafiadau a’r marwolaethau.

Yr un wythnos roedd teuluoedd a ddioddefodd oherwydd arfau cemegol yn cyhuddo’r llywodraeth o dorri cyfreithiau rhyngwladol ac o fod yn euog o droseddau rhyfel ac o fethu ag atal troseddau rhyfel.  Roedd y cyhuddiadau’n ymwneud ag ymosodiad ar ddinas Fallujah, lle lladdwyd cannoedd o bobl.

Ond nid sôn am Syria heddiw yr ydym yma, ond am Irac, nôl yn 2004.  A’r llywodraeth sy’n cael ei chyhuddo yw llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.  Mae teuluoedd o Fallujah yn credu mai’r arfau cemegol a ddefnyddiwyd yn yr ymosodiad ar eu dinas sydd hefyd yn gyfrifol am y nifer eithriadol uchel o blant â nam corfforol difrifol sydd wedi eu geni yno ers hynny.  Caiff y cyhuddiadau eu dwyn yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig am fod y Fyddin Brydeinig wedi cefnogi Byddin yr Unol Daleithiau yn yr ymosodiad, a hynny’n rhannol am na ellir cyhuddo Llywodraeth yr Unol Daleithiau am nad yw’r wlad honno bellach yn atebol i’r Llys Troseddol Rhyngwladol.

Does wybod beth a ddaw o ymdrech y teuluoedd hyn i sicrhau iawndal oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig am y dioddefaint a achoswyd.  Ond mae’r cyfan yn dangos o’r newydd y dioddefaint y mae pob math o arfau – a phwy bynnag sy’n eu defnyddio – yn ei achosi.  Ac os gwir honiadau pobl Fallujah, mae’n dangos rhagrith eithriadol pobl sy’n condemnio eraill am ddefnyddio’r arfau hyn er iddynt eu defnyddio eu hunain.

Wrth i Lywodraeth San Steffan barhau i ystyried ei hymateb i argyfwng presennol Syria, does ond gobeithio y bydd llais rhieni a theuluoedd Fallujah yn ei hatgoffa o’r dioddefaint erchyll a pharhaol a achosir gan ryfel bob amser.

04 Medi, 2013

 

Ar y bwrdd

Gall ddigwydd i bawb ohonom.  Roedd gen i ddarn o waith i’w wneud, a dyma eistedd wrth fwrdd y gegin a dechrau arni.  Canodd y ffôn, ac mi es i stafell arall i’w ateb.  Aeth un alwad yn ddwy, ac yna’n llythyr i’w sgwennu ar y cyfrifiadur.  Wedi gorffen y llythyr, ac erbyn i’r bysedd olygu erthygl neu ddwy ar gyfer y papur hwn, roedd yn amser gwely.  Dim ond ar ôl diffodd y cyfrifiadur y cofiais am y papurau a oedd yn aros yn amyneddgar ar fwrdd y gegin.  Ac aros buon nhw hefyd gan fod cwsg yn galw’n daer erbyn hynny.

Do, fe ddigwyddodd i bawb: symud o un dasg i’r llall a llwyr anghofio am yr un wreiddiol.  Mor rhwydd ei wneud.  Ac mor rhwydd y cawn ein denu hefyd oddi wrth ein priod waith yn yr Eglwys.  Doedd dim o’i le ar y pethau eraill a wnes i neithiwr, ond doedden nhw ddim mor bwysig â’r gwaith papur oedd ar y bwrdd.  Ac yn aml iawn pethau digon da a chyfreithlon sy’n ein tynnu oddi wrth briod waith y Deyrnas.  Mae cant a mil o bethau y gallwn eu gwneud yng ngwasanaeth yr Efengyl, a’r cyfan yn ddyrchafol a chlodwiw.  Mae yna bob math o weithredoedd i’w gwneud a chymaint o eiriau i’w dweud yng ngwasanaeth yr Arglwydd Iesu Grist.  Mae yna gymaint o achosion teilwng o’n sylw a chymaint o frwydrau i ymdaflu iddynt er mwyn y Deyrnas.

Ac eto, mor ofalus y dylem fod rhag colli golwg ar y prif bethau sydd i fynd â’n bryd fel Cristnogion: addoli Duw yn ei Fab Iesu Grist trwy gymorth yr Ysbryd Glân; dirnad cariad Duw, mawrygu aberth Crist a derbyn nerth yr Ysbryd; caru Duw, bod yn dystion i’r Iesu a cheisio arweiniad yr Ysbryd.  Eilradd i’r pethau hyn yw cymaint o ddyletswyddau’r Ffydd Gristnogol gan fod a wnelo’r rhain â pherthynas â’r Arglwydd Iesu.  A’r berthynas honno yw dechrau’r bywyd Cristnogol: perthynas o ffydd a chariad ac ufudd-dod i’r Un a’n carodd ddigon i’w roi ei hunan yn aberth trosom ar Galfaria.  Mewn gwirionedd, y berthynas honno yw canol a diwedd y bywyd Cristnogol hefyd, ac mae popeth arall yn deillio ohoni.

Ac eto, mor rhwydd yw anghofio hyn a gwneud y bywyd Cristnogol yn weithredoedd a dyletswyddau yn hytrach na pherthynas fywiol â’n Harglwydd a’n Gwaredwr a’n Brawd.  Crist ei hun yw calon y bywyd Cristnogol.  Os nad yw Crist yng nghanol ein bywyd, buan iawn y mae’r bywyd newydd melys ac anturus yn troi’n hen grefydd ddiflas a beichus.  Ac fel y gwn innau ond yn rhy dda, gall hynny hefyd ddigwydd i bawb ohonom.

21 Mehefin 2013

Galarnad

Glywsoch chi bobl, ar y radio neu’r teledu er enghraifft, yn trafod llyfrau ac yn dweud mor bwysig yw’r clawr neu’r broliant neu’r teitl hyd yn oed i unrhyw lyfr? Ar wahân i enw da’r awdur, dyna’r pethau sy’n denu sylw pobl at lyfr; dyna sy’n ei ‘werthu’.  Mae broliant (yr ychydig eiriau a welwch chi fel arfer ar glawr cefn y llyfr) yn dweud mewn ychydig eiriau beth sydd yn y llyfr.  Mae sgwennu broliant da yn grefft ynddi ei hun, felly.  Ac mae dewis teitl yn grefft hefyd, er mwyn dal sylw darpar ddarllenwyr a rhoi rhyw syniad o’r cynnwys.

Un o deitlau da llyfrau’r Beibl yw Galarnad Jeremeia.  Mae’n rhoi syniad clir am ei gynnwys, ac yn y llyfr cawn olwg ar ofid mawr y proffwyd am gyflwr Jerwsalem a phobl Dduw.  Mae yna rywbeth llethol a thrist, er enghraifft, yn nechrau’r drydedd bennod, lle ceir ugain o adnodau yn sôn am alar ‘y gŵr a welodd flinder mawr’. Ond yna, yn adnodd 22 a 23, ceir y geiriau hyn, ‘Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.  Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb.’

Dyna eiriau arbennig, ond maent yn fwy rhyfeddol yn eu cyd-destun yn y bennod hon.  Wedi’r holl sôn am dywyllwch a rhwymau, am ddihoeni a dryllio, am fod yn ddiymgeledd ac yn gyff gwawd, ac am fod yn llawn chwerwder ac wedi anghofio hyd yn oed beth yw daioni, dywedir ‘nad oes terfyn ar gariad Duw’. Yng nghanol gofidiau o bob math, diolch am hynny, gall pobl Dduw eto ddweud, ‘ni phalla ei dosturiaethau’.  Mewn byd o galedi a drygioni mawr yr ydym ninnau’n byw, ac mae cymaint o bethau yn gwneud i ninnau deimlo ein bod wedi ein ‘hamgylchynu â chwerwder a blinder’.  Gallwn ninnau ddweud ar adegau, ‘Yr wyf wedi f’amddifadu o heddwch’ a ‘diflannodd fy nerth’.

Ac eto, ‘Da yw’r Arglwydd’.  Yn nhymor yr Ŵyl Ddiolchgarwch eleni, mae digon o bethau i beri blinder a galar mawr: o fewn ein gwlad, ein cymunedau, ein teuluoedd ac yn ein bywydau ni ein hunain.  Ond beth bynnag y gofidiau dwys, boed i ninnau allu dweud trwy ras ‘na phalla ei dosturiaethau’.  Yn y dioddefiadau i gyd, gall pobl Dduw ganfod nerth a gobaith yn yr Arglwydd, a dweud, er gwaethaf popeth, ‘Da yw’r Arglwydd i’r rhai sy’n gobeithio ynddo’.  Nid geiriau gwag oedd y rhain i Jeremeia: mae’r ffaith ei fod yn eu dweud yng nghanol y cwyno a’r gofidio yn brawf o hynny.  A’r Diolchgarwch hwn eto, er pob gofid, diolch am y drugaredd o allu cofio a chydnabod tosturiaethau Duw, oherwydd ‘y maent yn newydd bob bore’.

Hydref 19, 2012

Disgwyl Parsel

Does wybod pa lythyrau a ddaw bob dydd, ond heddiw rwy’n disgwyl parsel.  Ac ynddo, mi fydd yna lyfr.  Hen lyfr.  Wnes i ddim ei archebu o’r un siop.  Fydd dim angen talu ceiniog amdano.  Ond nid rhodd ydi o chwaith.

Tebyg i groesawu hen ffrind fydd agor y parsel am mai fi sy bia’r llyfr.  Nid fi fydd bia fo, sylwch, ond fi sy bia fo – ers blynyddoedd.  Ffrind i mi ddaeth ar y ffôn mewn sachliain a lludw.  Roedd wedi cael benthyg y llyfr flynyddoedd yn ôl, meddai, ond heb ei ddychwelyd. Roedd wedi bwriadu sôn amdano fwy nag unwaith, ond wedi anghofio.  Ond wedi dod o hyd iddo eto’r dydd o’r blaen, penderfynodd ffonio i gyfaddef bai ac i ddweud y byddai’r llyfr yn y post cyn diwedd y dydd.

Y gwir yw ’mod i wedi hen anghofio am y llyfr. Mi faswn i wedi taeru ei fod yn hel llwch ar y silff lyfrau.  Yn sicr, doeddwn i ddim yn cofio’i fenthyca i’r cyfaill a gyfaddefodd y drosedd fawr a’r euogrwydd o fod wedi ei gadw am fwy na chwarter canrif!

Mae’n bosibl i hen droseddau gnoi a blino rhywun am flynyddoedd, ac mae’n dda cyfaddef pethau felly. Oherwydd ddaw dim da o adael i euogrwydd gorddi o’n mewn ac ysu ein hysbryd.  Gallwn gydnabod beiau ddoe i’r Arglwydd, fel y cyffeswn feiau heddiw a beiau yfory.  Os oes angen, ac os oes modd, gallwn gydnabod beiau ddoe i’n gilydd hefyd. Weithiau, daw lles o wneud peth felly, os bydd y person a gafodd ei frifo wedi disgwyl i ni gyfaddef bai.  Ond dro arall, mae’n siŵr y gwelwn ni fod y person arall wedi hen anghofio’r digwyddiad neu’r geiriau y buom ni’n llawn euogrwydd yn eu cylch ac yn poeni cymaint amdanynt.  Fyddan nhw, fel petai, ddim yn cofio hyd yn oed fod y llyfr gennych!

Ac wedi i ni gyfaddef bai, mor bwysig yw gallu byw yn rhyddid Efengyl Gras.  Yn ei drugaredd mae Duw yn maddau beiau, ac yn taflu ein pechodau i eigion y môr.  Nid yw’n dal dig nac yn mynnu ein hatgoffa am hen bechodau.  Nid ei fod wedi anghofio amdanynt, fel yr anghofiwn ni (ac fel yr anghofiais i am y llyfr).  Nid wedi anghofio ein bod yn ddyledwyr iddo y mae Duw am mai cof sâl sydd ganddo neu am fod blynyddoedd maith wedi mynd heibio.  Dewis anghofio beiau y mae’r Duw trugarog

Yr unig ddrwg o gael y llyfr yn ôl yw bod fy llygaid ’rŵan yn taro ar ambell lyfr a fenthyciais innau!

Hydref 12, 2012

Coleg

Dechrau Hydref eleni fydd eto fydd dechrau cyfnod newydd i filoedd o ieuenctid sy’n gadael cartref er mwyn dilyn cyrsiau o bob math mewn colegau a phrifysgolion ar draws y wlad.  Ac er gwaetha’r newidiadau enfawr a welwyd dros y pymtheng mlynedd ddiwethaf o ran ariannu cwrs coleg, mae llawer o bethau eraill am fywyd coleg yn aros yr un.  Mae’n rhwydd rhamantu ynghylch y cysylltiadau a wneir yn ystod blynyddoedd coleg.  Ond gallwn fod yn hyderus y bydd miloedd o fyfyrwyr newydd yn gwneud ffrindiau oes eleni, fel erioed.  A diolchwn i Dduw am y ffrindiau da a wnaethom ninnau, mewn coleg neu yn unman arall, dros y blynyddoedd.  Does wybod pa gysylltiadau a wneir gan fyfyrwyr newydd 2012 yn ystod eu gyrfa golegol.  A dyna ran o’r antur fawr, mae’n debyg, wrth iddynt gyfarfod â phobl o bob rhan o’r wlad, a hyd yn oed o bob rhan o’r byd.

Ac mewn llawer o’n colegau (ym mhob un, gobeithio) bydd cyfle i’r myfyrwyr newydd glywed gan rai o’u cyfoedion am y person arbennig hwnnw sy’n dymuno bod y cyfaill gorau oll iddynt.  Oherwydd, diolch i Dduw am hynny, mae’r dystiolaeth i’r Arglwydd Iesu Grist yn dal yn rhan o fywyd coleg.  Mae Undebau Cristnogol yn cynnig cymdeithas yn yr Efengyl, a Christnogion yn tystio i’w cyd-fyfyrwyr am y Gwaredwr sy’n Frawd a Chyfaill gorau i bawb a gredo ynddo.  Gweddïwn ninnau dros y dystiolaeth werthfawr hon.  Mewn rhai colegau, mae Cristnogion yn teimlo’n ddigon unig ac mewn undebau Cristnogol bychan a gwan; mewn eraill, maent yn rhan o gymdeithas gryfach o lawer.  Diolchwn am y dystiolaeth hon, pam mor wan neu gryf bynnag y bo; diolchwn hefyd am yr eglwysi yn nhrefi a dinasoedd ein colegau sy’n croesawu myfyrwyr; diolchwn am Gristnogion sy’n hael eu croeso ar eu haelwydydd i fyfyrwyr.

Gweddiwn dros bob myfyriwr o Gristion, iddynt fwynhau cymdeithas a fydd yn gymorth i ddyfnhau eu ffydd yn yr Arglwydd Iesu.  Gweddiwn hefyd y daw llawer o fyfyrwyr eraill i weld gogoniant yr Efengyl trwy’r dystiolaeth ffyddlon i Grist a fydd o’u cwmpas.

Maddeuwch air personol cyn cloi, gan na allaf beidio meddwl am fy nghyfnod coleg innau.  Cofio clywed, y noson gyntaf un, fyfyriwr yn sôn yn agored a diffuant am ei gariad at yr Arglwydd Iesu.  Doeddwn i erioed wedi clywed y fath siarad!  Ac o fewn ychydig wythnosau, cael fy herio mewn pregeth i feddwl o ddifrif am yr Arglwydd Iesu. A’r gwirionedd yn gwawrio arnaf fod rhaid credu’r cyfan a ddywedai’r person unigryw hwn amdano’i hun ac ymddiried yn llwyr ynddo, neu beidio credu nac ymddiried o gwbl.  Does ryfedd mod i’n ddiolchgar am gyfnod coleg.

Hydref 05, 2012

Sebon

Mae’n rhaid i mi gyfaddef fod tipyn o sebon yn mynd yn bell.  Ac ydw, rwyf finnau’n greadur digon balch i groesawu rhywfaint ohono ar brydiau.  Mae sebon yn beth digon dymunol – ond i mi, a phawb arall, beidio’i lyncu, wrth gwrs.

A wnes i mo’i lyncu yn yr achos arbennig hwn.  Do, yn fy malchder, mi wnes i gnoi cil arno am ychydig, ond wnes i’n bendant mo’i lyncu.  Yn Saesneg oedd y neges, oddi wrth rywun a’i galwai ei hun yn women shoes wholesale, yn ymateb i rywbeth a ddywedwyd ar wefan yr ofalaeth acw.  ‘Mae hyn yn ddiddorol iawn.  Rwyt ti’n flogiwr dawnus iawn. Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen rhagor o dy negeseuon gwych. Rwyf wedi rhannu dy wefan gyda’m ffrindiau.’

Fynnwn i ddim gwneud cam â neb na bod yn anniolchgar am air o werthfawrogiad, ond mae’n amlwg mai llond trol o sebon yw peth felly, neu’n fwy manwl enghraifft o sgwennu gwag ar y we.  Women shoes wholesale yn ymateb i wefan Gristnogol Gymraeg gronyn yn Saesneg?  Amheus iawn!  Ac yn goron ar y cyfan, gredwch chi nad oedd y darn a ‘ganmolwyd’ yn ddim ond ymddiheuriad byr am fethu cyhoeddi Gronyn yr wythnos flaenorol?  Doedd o ddim hyd yn oed yn erthygl!  Sôn am siom!

Ond nôl at yr hyn sydd gen i heddiw. Ydi, mae’n rhwydd iawn seboni ambell un efo gair o ganmoliaeth a thipyn o glod.  Mae rhai wedi meistroli’r grefft er mwyn cael eu maen arbennig i’r wal.  Efo tipyn bach o berswâd, a mwy fyth o glod, mae’n rhwydd cael cydweithrediad rhai pobl.  Mae ’na rywbeth ffals ynghylch seboni; mae’n golygu gor-ganmol rhywun arall; ac yn aml iawn, mae’n golygu cuddio’n diffygion ein hunain.  A dyna pam, er bod rhai’n ceisio’u gorau glas i wneud hynny, nad oes modd seboni Duw.  Fedrwn ni ddim twyllo Duw â’n haddoliad ffuantus.  Fedrwn ni ddim cuddio’n beiau trwy geisio’i berswadio ein bod yn well nag ydym.  Fedrwn ni mo’i gymell i weithredu trwy ein canmoliaeth ffals.  Addoliad diffuant, gonest a glân y mae Duw yn ei geisio, heb arlliw o dwyll.  Nid rhywbeth i’w ddefnyddio er ein mwyn ein hunain yw addoliad, ond rhywbeth i’w gynnig i Dduw er ei glod ef ei hun.  Ni allwn seboni Duw er mwyn cael ein ffordd ein hunain neu er mwyn porthi ein balchder ein hunain.  Ond gallwn hefyd ddiolch nad oes angen sebon, am fod Duw bob amser yn derbyn addoliad cywir a diragrith ei bobl, beth bynnag eu beiau, a beth bynnag hyd yn oed ddiffygion yr addoliad hwnnw.  Wedi’r cyfan, does a wnelo sebon ddim oll â chalon lân.

Medi 28, 2012

Hillsborough

Roedd tair blynedd ar hugain yn amser hir i aros amdano, ond o’r diwedd datgelwyd y gwir am yr hyn a ddigwyddodd y p’nawn Sadwrn erchyll hwnnw y bu farw 96 o bobl yng nghae pêl-droed Hillsborough yn Sheffield, fis Ebrill 1989.  Dangoswyd yn glir a diamheuol bod diffygion yr awdurdodau, yn arbennig yr heddlu, wedi eu cuddio, a gwaeth na hynny bod ymdrech fwriadol wedi ei gwneud ganddynt i feio’r cefnogwyr a bwrw sen ar y rhai a laddwyd ac a ddioddefodd.  Cafwyd ymddiheuriadau cwbl briodol gan y Prif Weinidog, David Cameron, Prif Gwnstabl presennol Heddlu De Swydd Efrog, David Crompton; golygydd presennol papur newydd y Sun, Dominic Mohan, a golygydd y papur nôl yn 1989, Kelvin MacKenzie, a oedd yn bersonol yn gyfrifol am lunio’r pennawd, ‘Y Gwir’, sydd wedi cythruddo ac achosi’r fath boen i filoedd o bobl yr holl flynyddoedd hyn.  Does ond gobeithio bod – ac y bydd – yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf yn rhyw fath o gysur i’r holl bobl a ddioddefodd mewn cymaint o ffyrdd am gymaint o flynyddoedd.

Mae’r celwyddau a’r camgyhuddiadau a’r difrïo ar y byw a’r meirw a gafwyd ynghylch ‘Hillsborough’ yn gwbl, gwbl anesgusodol.  Mae’n gwbl waradwyddus bod y gwir wedi ei gelu tan heddiw, er gwaethaf ymdrechion glew a diflino’r teuluoedd, a’r rhai a fu’n ymgyrchu gyda hwy, i sicrhau bod y gwir yn cael ei ddadlennu a bod enw da’r byw a’r meirw a bardduwyd yn cael ei adfer.  Nid oes modd esgusodi’r hyn a wnaed wrth lunio adroddiad anghywir a chelwyddog am yr hyn a ddigwyddodd, nac am y blynyddoedd digywilydd o gelu’r gwir.  Mae’n anodd deall sut y gallai neb fynd ati i lunio’r celwyddau ac i fwrw sen ar bobl ddiniwed a oedd wedi dioddef cymaint.  Ond nôl yn 1989, pan oedd cefnogwyr pêl-droed yn cael eu hystyried fel un o broblemau mawr cymdeithas wâr, mae’n debyg i rywrai dybio’n fuan iawn y gellid bwrw’r bai ar rai felly yn rhwydd er mwyn achub eu croen y rhai oedd wir ar fai am yr hyn a ddigwyddodd.

Ydi, mae’n anodd deall, ac eto nid yn gwbl amhosibl.  Oherwydd yr hyn a welwyd yn yr achos hwn oedd y duedd honno – sydd mor gyffredin – i bobl fod yn amharod i gyfaddef bai, a chwilio am bob ffordd bosibl i’w hesgusodi eu hunain, hyd yn oed os yw hynny’n golygu beio rhywun arall yn gwbl anghyfiawn.  Unrhyw beth, mewn gwirionedd, ond cydnabod eu pechodau eu hunain.  Mae’n digwydd bob dydd ymhlith pobl a phlant.  Ond weithiau, fel yn achos ‘Hillsborough’, mae oblygiadau ymddygiad o’r fath yn bellgyrhaeddol a difäol.  Does ryfedd bod cydnabod bai yn bodloni Duw.

Medi 21, 2012

Un enw, un arwr

Dau ddiwrnod, dwy stori; un enw, un arwr. Ar y dydd Gwener, Lance Armstrong oedd y newyddion mawr, wedi iddo benderfynu rhoi’r gorau i’r frwydr i’w amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiad o gamddefnyddio cyffuriau yn ystod ei yrfa fel reidiwr beic proffesiynol pan enillodd y Tour de France saith o weithiau.

Drannoeth, ar y dydd Sadwrn, marwolaeth Neil Armstrong oedd yn llenwi’r newyddion, a’r byd yn cofio’i gamp ryfeddol o gyrraedd y lleuad a’i eiriau cofiadwy, ‘Un cam bach i ddyn, un naid enfawr i ddynoliaeth’.

Roedd mwy na chyfenw’n gyffredin iddynt. Bu’r ddau’n arwyr cenedl. Lance Armstrong oedd y gŵr a drechodd gancr y ceilliau cyn ennill ras feics fwya’r byd fwy o weithiau na neb arall.  Fe’i canmolwyd am ei ddewrder a’i gryfder a’i allu, ond bu’r sgandal cyffuriau’n gysgod drosto ers blynyddoedd, a bellach penderfynodd beidio â pharhau’r frwydr i warchod ei enw da na’i statws fel pencampwr.   Mae’r sglein wedi dylu, a’r arwr wedi cwympo.

Parhau’n loyw a wnaeth sglein Neil Armstrong i’r diwedd, er iddo gilio o’r llwyfan cyhoeddus i fyd addysg.  Rhoddai, yn ostyngedig, fwy o sylw i’r gwyddonwyr a’r peirianwyr a fu’n gyfrifol am y daith i’r lleuad nag iddo ef ei hun.  Wedi deugain a mwy o flynyddoedd, roedd yn dal yn arwr cenedl a byd, ac mae’n debyg o bara felly am genedlaethau wedi iddo farw.

I rai, mae penderfyniad Lance Armstrong i beidio’i amddiffyn ei hun yn cadarnhau’r amheuon yn ei gylch. Ac am hynny, mae’n rhybudd i bawb, mor rhwydd yw colli enw da. Ar daith bywyd, fel ar y Tour de France, gall un peth drwg ddryllio enw da a chwalu blynyddoedd o dystiolaeth. Gall hynny fod yn wir am Gristnogion sy’n euog o dwyll neu gelwydd neu bechod amlwg arall.  Dal i wadu iddo dwyllo y mae Armstrong; ond os yw’n euog, tybed a yw’n edifar am yr hyn a wnaeth?

A pha bethau tybed oedd Neil Armstrong yn edifar amdanynt? Yn sicr, nid y daith i’r lleuad na’r yrfa fel addysgwr. Ond tybed, tybed, a fu’n dawel edifar am y bomiau a ollyngwyd ganddo fel peilot rhyfel ifanc yng Nghorea ar ddechrau’r daith.  Byddai’n ddiddorol gwybod.

Ond yn fwy perthnasol, tybed beth ydym ni’n edifar amdano? Beth bynnag ydyw, diolchwn am wahoddiad yr Efengyl i gyflwyno’r cyfan i’r Duw sydd, yn ei Fab Iesu Grist, yn maddau’r cyfan i’r edifeiriol.

Medi 14, 2012

Agor ffenest

 Ar fore oer, gaeaf neu ddau’n ôl, penderfynodd un o ffenestri’r car nad oedd arni fawr o awydd agor.  A wnaeth hi ddim – y bore hwnnw nac unrhyw fore arall wedi hynny.  Er pwyso’r botwm, a’i ailbwyso, a’i bwyso ganwaith ers hynny, wnai’r ffenest ddim agor.  Ond mwya sydyn y dydd o’r blaen, wedi blynyddoedd o segurdod styfnig, fe agorodd!  Does gen i mo’r syniad lleiaf pam.  Wnaeth neb ddim iddi; dim ond pwyso’r botwm, yn union fel a wnaed bob tro arall.  Ond am ryw reswm y tro hwn, fe agorodd.

Wir i chi, fedrwn i ddim coelio’r peth gan i mi dderbyn ers talwm nad agorai’r ffenest eto. Ond agor a wnaeth! Ac agor,  lawer gwaith, a wnaeth ffenestri’r nefoedd y sonnir amdanynt yn y Beibl. Trwy’r ffenestri hynny y tywalltodd Duw fendithion mawr ar ei bobl mewn diwygiadau a chyfnodau o adfywiad ar hyd yr oesoedd. A do, fe agorodd y ffenestri uwch ein gwlad ninnau sawl tro.  Gwelwyd pobl yn troi at Dduw ac yn cofleidio Iesu Grist yn Waredwr ac Arglwydd bywyd. Clywyd pobl yn canu ei glodydd dan ddylanwad yr Ysbryd Glân.  Gwelwyd pobl yn cyfnewid bywyd gwag, difudd am lawnder a llawenydd y bywyd newydd yng Nghrist.  Ac ar brydiau, digwyddodd hyn oll ar amrant, fel petai; a gwelwyd degau a channoedd o bobl yn ymateb i gariad rhyfeddol yr Iesu.

Ond erbyn hyn, bu’r ffenestri’n hir ynghau; mor hir, nes i ni gredu nad agoran nhw fyth eto.  Mor aml y dywedwn na welir eto ddiwygiad ysbrydol yng Nghymru.  Mor huawdl y cyhoeddwn nad trwy ddiwygiadau y mae’r Brenin Mawr yn gweithio bellach.  Ac oherwydd hynny, rydym wedi hen roi heibio bwyso’r botwm.  Nid ydym yn disgwyl diwygiad, nac yn dyheu am ddiwygiad, nac yn gweddio am ddiwygiad. Rydym wedi llwyddo i’n hargyhoeddi ein hunain na ddaw’r fath beth fyth eto.  Ond pwy a ŵyr na fydd Duw, yn ei amser ac yn ei ffordd ei hun, yn agor y ffenestri?  Pwy a  ŵyr na ddaw eto ddiwygiad grymus i ysgwyd ac i fywhau ein gwlad?  ‘“Profwch fi yn hyn”, medd Arglwydd y Lluoedd, “nes i mi agor i chwi ffenestri’r nefoedd a thywallt arnoch fendith yn helaeth”’ (Malachi 3:10).

Nid yw dyheu a gweddio am ddiwygiad yn golygu nad ydym yn gweithio a chenhadu.  Mae angen ymdrechu dros Grist hyd eithaf ein gallu.  Ac onid rhan o’r ymdrech honno yw’r weddi ar i Dduw fywhau ei waith?  Daliwn i ‘bwyso’r botwm’ yn y gobaith y bydd Duw’n agor y ffenestri.  A gwnawn hynny gan gydnabod hefyd nad ein pwyso ni a ddaw â’r fendith, ond gras a daioni a thrugaredd Duw.  Pwyswn ar Dduw o’r newydd am wyrth y ffenestri agored.

Medi 07, 2012

Awn i weithio

 Mae mwy nag un flwyddyn o fewn pob blwyddyn.  Mae’r flwyddyn galendr yn dechrau ym mis Ionawr; y flwyddyn dreth ym mis Ebrill; a’r flwyddyn academaidd ym mis Medi.  Mewn rhyw ffordd, mae blwyddyn waith y capel yn dilyn y flwyddyn academaidd gan mai ym mis Medi y bydd llawer o’r gweithgareddau’n ailddechrau cyn dyfod yr hydref.

Os byw ac iach ac os Duw a’i myn, bydd gwaith yr eglwys yn ein haros y misoedd nesaf hyn.  Gall fod yn waith pleserus, a gobeithio’n fawr y cawn ni fendith a mwynhad o’i wneud.  Mae’n sicr yn waith caled, a bydd arnom angen cymorth i’w wneud.  Gall fod yn waith unig, a thrysorwn bob cwmnïaeth a chefnogaeth a gawn gan frodyr a chwiorydd yn y Ffydd.  Mae’n waith pwysig, a mynnwn gofio hynny pan fydd eraill yn ddibris o’r amrywiol bethau y’n gelwir i’w gwneud yn enw Crist.  Ac mae’n sicr yn waith anodd, a ninnau heb obaith i’w gyflawni yn ein nerth ein hunain.

Oes, mae cymaint o waith i’w wneud. Mae’r gweithredoedd sydd i’w cyflawni’n ddiddiwedd wrth i ni gymhwyso galwad a dysgeidiaeth Iesu Grist i bob rhan o’n bywyd ac i bopeth a wnawn bob dydd.  O reidrwydd, gan mai pobl amherffaith ydym, anghyflawn fydd ein hymdrechion ac annigonol fydd y cyfan a wnawn.  Mae ynom duedd i bwysleisio rhai gweithredoedd ar draul eraill; a chan mai pechaduriaid ydym, nid syndod ein bod yn aml yn cyfri’r gweithredoedd a wnawn ni’n bwysicach na’r hyn a wna eraill.  Mae yna wastad beryg i ni uniaethu’r ‘gweithredu Cristnogol’ â’r pethau a wnawn ni ein hunain: boed helpu’r tlodion, hybu cyfiawnder, bwydo’r newynog, pledio heddwch, ymweld â’r cleifion, cefnogi carcharorion, cysuro’r galarus, pregethu’r Efengyl; gwarchod y greadigaeth; amddiffyn y gwan; cysgodi’r amddifad, neu unrhyw beth arall y mae’r Efengyl yn ein cyffroi i’w wneud mewn ufudd-dod a diolchgarwch i’n Gwaredwr am ei gariad rhyfeddol tuag atom.

Ac yn y cyfan, mynnwn weddïo.  Oherwydd gwaith yw gweddi hefyd, a gwaith a ddylai fod yn ganolog i bopeth arall a wnawn. Gellid dadlau mai gweddi yw’r gwaith pwysicaf oll.  Oherwydd trwy weddi y ceisiwn nerth Duw i gyflawni pob dim. Nid hobi na hamdden na hawddfyd i’w hepgor yw gweddi.  Gwaith anhepgor ydyw i bob Cristion ac eglwys.  Fel pob ‘gweithred Gristnogol’ arall, gall gweddi fod yn waith caled, unig ac anodd, ond gall y gwaith pwysig hwn fod yn bleserus hefyd am mai gwaith a ddaw â ni i gymdeithas â Duw ei hun ydyw.

Awst 31, 2012

Y rhai siomedig

Dwi dim yn siŵr ai clod ynteu anghlod oedd y sylw a wnaed amdanaf gan un o’m cyd-amddiffynwyr yn nhîm pêl droed Llanberis am flynyddoedd.  Yn ôl a ddywedodd wrth gyfaill arall i mi, petai bom yn ffrwydro fyddwn i ddim yn symud!  Ai deud oedd o fy mod i’n ddiog ar gae pêl droed, ynteu awgrymu nad oeddwn yn cynhyrfu’n ormodol yn wyneb ymosodwyr milain?  Mi garwn feddwl mai’r ail beth oedd yn wir.  Ond cynhyrfu neu beidio, a pha argraff bynnag a roddwn, un peth a wn ydi bod gas gen i golli’r un gêm.  Doedd fawr o hwyliau arnaf pan fyddem wedi colli.  Doedd hi’n dda felly ein bod yn tueddu i ennill yn amlach na pheidio?

Mae’r siom o golli yn fawr ac yn anodd ei dwyn, yn arbennig wedi oriau a hyd yn oed flynyddoedd o ymarfer.  (Roeddwn i o leiaf yn cael fy arbed rhag y siom arbennig honno gan na fyddwn i byth yn ymarfer!  F’esgus am flynyddoedd dros beidio gwneud hynny oedd fy mod yn chwarae pêl droed ddwywaith yr wythnos yn y coleg yn ogystal â chwarae dros Lanberis ar y Sadwrn.  Roedd hynny, siawns, yn hen ddigon o ymarfer.)  Erbyn i chi ddarllen y geiriau hyn, bydd cannoedd o athletwyr wedi eu siomi yn Llundain am na lwyddon nhw i ennill y fedal yr oeddent wedi gosod eu bryd arni.  Bydd rhai’n gwybod iddynt wneud yn salach na’r disgwyl; bydd eraill wedi gwneud eu gorau ond bod rhywun arall wedi gwneud yn well na hwy a’u curo.  Ac mae’r siom mor fawr, a’r methiant yn brifo cymaint.  Bydd rhai’n teimlo’u bod wedi siomi cyfeillion a theulu a fu’n gefn iddynt.  Bydd eraill wedi cael eu beirniadu am beidio perfformio hyd eithaf eu gallu.  Gweddïwn dros bob un a siomwyd ac sy’n cael trafferth i ddygymod â’r siomiant hwnnw.

Ac ymhell o’r stadiwm a’r maes chwarae, gweddïwn dros bobl a gafodd eu siomi am resymau eraill.  Lle bynnag yr awn ni, fe welwn bobl sy’n gorfod dygymod â siom a methiant; pobl y mae eu breuddwydion wedi eu chwalu a’u gobeithion wedi diflannu; pobl sy’n ymdeimlo â cholled yn eu bywyd personol a theuluol, yn eu gwaith a’u gyrfa, yn yr eglwys a’r byd.  Gweddiwn dros bobl sydd wedi profi colledion mawr ac yn teimlo fod eu byd wedi chwalu’n deilchion.  Cafodd rhai o’r athletwyr hyn sylw mawr cyn y Gemau.  A phe byddent wedi ennill, byddent yn parhau felly. Ond daeth eraill i hawlio’r sylw, a does neb eisiau gair â hwy bellach.  Gofalwn nad felly y byddwn ni’n ymagweddu, ond ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnal pobl sydd wedi eu brifo gan brofiadau chwerw ac amgylchiadau caled.  Gweddiwn am y gras i gynnal ein gilydd.

Awst 24, 2012

Y Bugatti

 Does ‘na lot o bethau’n werth dwy filiwn o bunnoedd y dyddiau hyn?  Fis yn ôl soniais am hen gardiau o chwaraewyr pêl fasged a gafwyd mewn atig yn Ohio oedd werth hynny.  Rhywbeth arall sy’n werth dwy filiwn mae’n debyg yw hen geir Bugatti Teip 51 o dridegau’r ganrif ddiwethaf, tebyg i’r un y cafwyd hyd iddo’n ddiweddar mewn garej yn Swydd Gaerwrangon.  Mae’r stori honno’n f’atgoffa am stori debyg y cofiaf ei darllen dro’n ôl am Bugatti Teip 57S a werthwyd am dair miliwn wedi iddo sefyll yn segur mewn garej am rai blynyddoedd.

Gŵr o’r enw Alan Rilen oedd pia’r Bugatti yn Swydd Gaerwrangon.  Prynodd ef y car yn 1987 a bu’n ei arddangos mewn sioeau ceir am flynyddoedd.  Ond am ryw reswm roedd y car wedi ei adael mewn garej, dan bentwr mawr o sbwriel, ers rhyw ddeng mlynedd erbyn i Mr Rilen farw yn 2010.  Disgwylir iddo gael ei werthu mewn ocsiwn ym mis Medi, nid am ddwy filiwn o bunnoedd chwaith ond am oddeutu can mil yn unig (os medrwch chi ddweud ‘yn unig’ am bris o’r fath!)

Daeth yn amlwg erbyn hyn nad Bugatti go iawn yw’r car, er i Mr Riley gredu bod ganddo gar a enillodd ras grand-prix unwaith.  Fe’i gwnaed yn Llundain ddechrau’r wythdegau gan beiriannydd o’r enw Keith Butti.  A dim ond dau ddarn dilys sydd iddo, y tanc petrol a darn o’r ffrâm cefn.  Ffug yw popeth arall.  Copi yw’r car, ond copi arbennig o dda, wedi’i wneud ar batrwm Bugatti go iawn.  Byddai Mr Riley’n mynd â’r car i ralïau Bugatti, a byddai arbenigwyr wedi sylwi nad oedd yn ddilys oni bai ei fod yn gopi mor dda.

Gellid dadlau bod yna wahaniaeth rhwng car sy’n ‘gopi’ a char sy’n ‘ffug’.  Mae’r ‘ffug’ yn honni mai car gwreiddiol ydyw, ond y ‘copi’ yn cydnabod yn onest mai dyna’n unig ydyw.  Ac er syndod mae’r car arbennig hwn dal werth can mil o bunnoedd.  Does yna ddim byd ffug i fod amdanom fel Cristnogion.  Rydym i fod yn onest a dilys, heb gymryd arnom fod yn rhywbeth nad ydym.  Ac eto, copi yw pob Cristion am iddo gael ei wneud yn debyg i’r Arglwydd Iesu Grist.  Iesu yw’r gwir ddyn, y dyn perffaith, ac mae pawb sy’n credu ynddo’n ymdebygu iddo.  Fe’n gelwir i fod, trwy gymorth Duw, yn fwy a mwy tebyg i Iesu bob dydd.  Ni fynnem ryfygu trwy ymffrostio ein bod yn union fel Crist; ac eto yn wylaidd, gobeithio, at hynny yr ydym yn anelu.  Oherwydd fe’n galwyd i fyw gan efelychu Iesu, dilyn ei esiampl, ac ufuddhau iddo er ei glod.  A’r hyn sy’n gwneud y copi’n bosibl ac yn wirioneddol werthfawr yw’r ffaith fod Duw wedi rhoi ei Ysbryd Glân i ni, yn danc petrol gwreiddiol o’n mewn ar ryw ystyr.

Awst 17, 2012

Tîm GB a Thîm PB

Taith y Fflam, y Jiwbilî, rownd derfynol Wimbledon, Gemau Llundain – fe gafwyd mwy na digon o chwifio baner Prydeindod eleni.  Rhyngddynt, mae Tîm GB a Thîm PB (Palas Buckingham) wedi gwneud eu gorau glas, coch a gwyn i chwifio Jac yr Undeb dros y misoedd diwethaf.  Gallwn ddisgwyl llawer mwy o’r un peth cyn y Refferendwm yn yr Alban yn 2014.

Ond mae’n ymddangos bellach nad digon yw chwifio’r faner hon o fewn y Deyrnas Unedig ei hun.  Ers mis neu ddau, mae’r faner i’w gweld ar bethau fel bwydydd, deunydd addysgol a phympiau dŵr a anfonir dramor i gynorthwyo’r tlawd a’r anghenus dan gynllun Cymorth Llywodraeth Llundain.  Andrew Mitchell, Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol y Llywodraeth a benderfynodd y dylid rhoi logo newydd – sef y geiriau, ‘ukaid from the British people’ dan faner Jac yr Undeb – ar bopeth a anfonir.

Poen mawr Mr Mitchell oedd ‘nad yw Prydain, am rhy hir o lawer, wedi cael y clod y mae’n ei haeddu am y canlyniadau rhyfeddol a gawn wrth fynd i’r afael â thlodi byd eang’.  Mae Mr Mitchell eisiau sicrhau bod pawb sy’n derbyn y cymorth yn deall yn iawn mai o’r Deyrnas Unedig y  daeth hwnnw.  Mae hefyd eisiau sicrhau ‘na fydd Prydain o hyn allan yn swil o ddathlu’r cymorth hwn ac o gymryd y clod amdano’.

Gallaf ddeall awydd Mr Mitchell i bawb wybod o ble daw’r cymorth iddynt.  Wedi’r cwbl, mae o a’i lywodraeth yn cydnabod fod cymorth rhyngwladol hefyd yn fuddsoddiad er lles y sawl sy’n ei roi.  Trwy roi cymorth heddiw, mae llywodraethau’n gobeithio elwa’n wleidyddol ac economaidd yfory.

A bod yn gwbl onest, gallaf i ryw raddau gydymdeimlo ag Andrew Mitchell.  Oherwydd o ran y cymorth y mae Cristnogion yn ei estyn i eraill, mi garwn feddwl fod pawb yn deall mai yn enw Crist y’i rhoddir ac mai cariad Duw sy’n cymell y rhoddi hwnnw.  Wedi’r cwbl, fe ddywedodd Iesu yn y Bregeth ar y Mynydd, ‘Boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd’.

Ac eto, mor bwysig yw cofio’r hyn a ddywed Iesu yn nes ymlaen yn y Bregeth,  ‘Pan fyddi’n gwneud elusen, paid â gadael i’th law chwith wybod beth y mae dy law dde yn ei wneud’. Gwneud elusen ar bob cyfrif, a gogoneddu Duw bob amser; dyna ddymuniad y Cristion.  Ond gwneud hynny heb dynnu sylw ato’i hunan a heb ddymuno cael ei ganmol.

Awst 10

Yn yr Eisteddfod

Dymunwn yn dda i’r Eisteddfod ym Mro Morgannwg yr wythnos nesaf gan obeithio y daw pobl o bob cwr o Gymru i fwynhau’r arlwy yng nghwmni’r bobl leol a fu’n gweithio’n galed i baratoi gweithgareddau’r wythnos.

Ac yn arbennig iawn hefyd, dymunwn yn dda i bawb a fydd yn tystio i’r Ffydd Gristnogol ar Faes yr Eisteddfod eleni.  Dros y blynyddoedd diwethaf daeth UnedIG, pabell yr Eglwysi, yn rhan ganolog o’r Maes.  Mewn mwy nag un Eisteddfod, bu’n anodd meddwl am babell brysurach na hon, wrth i bobl bicio i mewn am sgwrs a phaned, i ymuno â’r addoliad neu i gymryd rhan mewn cyfarfodydd a chyflwyniadau amrywiol. Gobeithio bydd yr un mor brysur eleni eto.  Ac nid pabell UnedIG yw’r unig dystiolaeth Gristnogol ar faes y Brifwyl, wrth gwrs.  Bydd gan Gymorth Cristnogol a Mudiad Efengylaidd Cymru, er enghraifft, eu pebyll arferol ar y Maes a dymunwn bob llwyddiant iddynt hwythau, fel i bob mudiad arall a fydd yn cyfrannu at y dystiolaeth Gristnogol yn ystod yr wythnos.

Trwy’r pebyll hyn a’r gweithgarwch a fydd ynghlwm wrthynt, bydd y dystiolaeth Gristnogol yn amlwg ym Mhrifwyl Bro Morgannwg.  Gweddïwn dros bawb a fydd yn gweithio yn enw Iesu Grist ar y Maes gydol yr wythnos.  Diolchwn am barodrwydd pobl i wasanaethu, a gweddïwn ar i Dduw eu bendithio a rhoi gwir fwynhad iddynt yn y gwaith.  Gweddïwn ar i Gristnogion gael eu calonogi trwy’r gweithgaredd Cristnogol hwn.  A gweddïwn ar i bobl nad ydynt yn Gristnogion, ond a fydd yn ymweld â’r pebyll hyn, brofi cynhesrwydd a chroeso pobl y Ffydd.  A lle bydd cyfle i rannu’r Ffydd honno ag eraill, mewn sgwrs neu mewn cyfarfod cyhoeddus, boed bendith yr Arglwydd ar y rhannu hwnnw fel y gwelwn rai yn dod o’r newydd i gredu yn y Gwaredwr.

Gweddiwn hefyd ar i’r dystiolaeth Gristnogol fod yn amlwg ym mhentrefi a threfi a dinasoedd ein gwlad dros y flwyddyn nesaf.  Mor aml y gofidiwn nad yw’r eglwysi bellach yng nghanol eu cymunedau. Mor aml y teimlwn yn aneffeithiol a di-rym.  Nid felly y dymunwn iddi fod, ac nid felly y mae rhaid iddi fod.  Gweddiwn dros eglwysi ein gwlad, ar i’w haddoliad a’u cenhadaeth fod yn loyw a byw.  Ymbiliwn ar Dduw i gynnal yr eglwysi, a’r amrywiol fudiadau sy’n eu gwasanaethu a’u cefnogi.  Trwy drugaredd, nid oes prinder mudiadau o’r fath na phrinder eglwysi yng Nghymru heddiw.  Mae yma ddegau o fudiadau a channoedd o eglwysi.  Yn llaw Duw, gallant eto fod yn rym bywiol yn y tir.

Awst 3, 2012

Ponciau Olympaidd

 Roeddwn wedi meddwl y byddai gen i ddigon i’w ddweud heddiw a hithau’n ddiwrnod cyntaf y Gemau Olympaidd.  Ond nid felly mae. Oherwydd wrth i’r seremoni agoriadol agosáu, mae’n mynd yn fwy a mwy anodd dweud unrhyw beth newydd.  Mae’r Gemau’n amlwg yn storfa o ddamhegion i bregethwr.  Ond mae eraill wedi achub y blaen – gan fy ngadael ar y llinell gychwyn fel petai – trwy ddefnyddio’r darluniau gwych am ‘redeg yr yrfa’, ‘ennill y wobr’, ‘cadw’r fflam’ a ‘throsglwyddo’r baton’ i gyflwyno neges Gristnogol ar drothwy’r Gemau.

Felly, does dim i’w wneud ond eich gwahodd i ddod am dro ar hyd Charlton Park Lane, ger y Royal Artillery Barracks yn Greenwich, lle cynhelir rhai o gystadlaethau saethu a saethyddiaeth y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.  Mae (neu’n hytrach, roedd) yna naw o bonciau arafu (speed humps) ar y lôn honno.  Ond dros gyfnod y Gemau mae’r ponciau wedi eu codi er mwyn hwyluso taith y cystadleuwyr a phwyllgorwyr y mudiad Olympaidd nôl a blaen rhwng y Barracks a’r pentref Olympaidd.  Caiff y ponciau eu hail osod ddiwedd yr haf, a bydd y cyfan wedi costio £50,000.

Mae’r trigolion lleol yn naturiol yn anhapus ac yn ofni y bydd cerbydau’n goryrru heb y ponciau i’w rhwystro.  Ond o ran y trefnwyr, dyma enghraifft o weld rhwystr a gwared ohono, beth bynnag y gost.  Mae £50,000 yn swm go fawr i’w wario ar rywbeth na fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn gweld fod angen ei wneud p’run bynnag.  Wedi’r cwbl, roedd y ponciau arafu yno i bwrpas.  Ond i drefnwyr y Gemau, roeddent yn rhwystr amlwg i lif y traffig; a byddai’n haws o lawer i bawb gyrraedd y cystadlaethau mewn pryd os byddai’r ponciau’n cael eu codi.  Ac felly, aed i’r drafferth a’r gost o wneud hynny.

Nid yw’r rhelyw o bobl yn gweld bod angen gwneud unrhyw beth ynglŷn ag annuwioldeb a phechod chwaith.  Ond mae’r ffaith fod y pethau hyn yn  rhwystro pobl rhag bod mewn perthynas iawn â Duw o’r pwys mwyaf iddo Ef.  Ac fe ddangosodd hynny trwy drefnu bod y rhwystrau’n cael eu symud.  Mae Duw wedi gwared â’r cyfan sy’n ei gwneud yn amhosib i ni ddod ato.  Ac nid gwared â’r rhwystrau dros dro a wnaeth chwaith, ond delio â’n pechod a’n hanghrediniaeth a’n hanufudd-dod yn llwyr ac yn derfynol.  Fe gostiodd yn ddrud iddo wneud hynny gan mai trwy farwolaeth ei Fab, Iesu, y’i gwnaeth.

Oes, mae yna ffordd glir at Dduw’r Tad trwy Iesu Grist, er gwaethaf pob pechod a bai.

Gorffennaf 27, 2012

Cardiau cudd

Roedd yna gryn hwyl ar raglen gomedi (beth arall fyddech chi’n ei ddisgwyl?) a welais yn ddiweddar pan ddadlennodd dau o’r panelwyr eu bod yn casglu sticeri pêl-droed, a hwythau yn eu hoed a’u hamser.  Cardiau pêl droed, yn hytrach na sticeri, fyddwn i’n eu casglu pan oeddwn yn blentyn, a’r rheiny’n dod mewn pacedi ag ynddyn nhw sgwaryn o gwm cnoi pinc.  Cofiwch chi, mi fûm innau’n casglu sticeri pêl droed ar gyfer sawl albwm y blynyddoedd diwethaf yma, a’m hesgus wrth gwrs oedd mai helpu’r hogiau oeddwn i.  Ond fel y dywedais, cardiau oedd hi ers talwm.  A chyn dyddiau pêl droed y Nintendo a’r X-box, a hyd yn oed cyn dyddiau Subbuteo a gemau tebyg, byddem yn chwarae pêl droed efo’r cardiau hyn gan daro marblen o un pen i’r cae i’r llall.

Dros y blynyddoedd, bu gennym ddegau os nad cannoedd o gardiau. Ond mae’r cyfan wedi mynd.  Tybed pa werth fyddai iddyn nhw heddiw pe byddwn wedi eu cadw?  Cardiau pêl fâs fu plant yn eu casglu yn America ar hyd y blynyddoedd mae’n debyg.  A’r wythnos ddiwethaf, roedd Karl Kissner yn clirio atig ei ddiweddar daid yn Ohio pan ddaeth o hyd i gasgliad gwerthfawr o hen gardiau pêl fasged a wnaed yn 1910, wedi eu cadw’n ofalus mewn hen focs llychlyd.  Yn ôl pob tebyg mae’r cardiau werth o leiaf dwy filiwn o bunnoedd heddiw.

Wyddai Karl Kissner ddim am y cardiau cyn hynny.  Yn anfwriadol y daeth o hyd i’r trysor.  Ac yn anfwriadol y daw rhai pobl o hyd i drysor yr Efengyl.  Heb fod yn ymwybodol beth bynnag eu bod yn chwilio am ddim, bydd rhai’n clywed am Iesu Grist ac yn sylweddoli mawredd yr hyn a wnaeth drostynt ac yn ei dderbyn yn llawen yn Arglwydd a Gwaredwr.  Daw eraill i gredu yng Nghrist ar ôl misoedd a blynyddoedd o chwilio dyfal am atebion i gwestiynau dyrys bywyd.  Ond chwilio neu beidio, y peth pwysig yw ein bod – rywsut neu’i gilydd – yn darganfod y trysor.  Oherwydd y mae’r trysor hwnnw’n werth mwy na’r byd.  Ydi, mae Iesu Grist yn fwy gwerthfawr nag aur ac arian ac yn bwysicach na dim sydd gan y byd i’w gynnig i ni.  Ond ydym ni wir yn credu hynny?  Byddai pob Cristion yn cydnabod nad yw bob amser yn llwyddo i wneud Iesu’n drysor pennaf ei fywyd.  Ond a ydym yn nyfnder ein calon yn credu mai dyna ydyw?  A gawsom ein hargyhoeddi nad oes trysor mwy i’w gael na’r Arglwydd Iesu Grist?  Pe chwiliem holl atigau cudd y byd cyfan, ddeuem ni ddim o hyd i drysor mwy na hwn.  Ai dyna’n profiad?  Ai felly y gwelwn ni hi?

Gorffennaf 20, 2012

Ceiliog glân?

Matt Allwright oedd enw un o gyflwynwyr y rhaglen, ond doedd popeth ddim yn ‘ôl reit’ er hynny.

Dan Penteadoyw cyflwynyddarall Rogue Traders ar deledu’r BBC, ac ers degawd mae’r ddau wedi bod yn tynnu sylw at bobl a busnesau sy’n gweithredu’n anonest ac yn twyllo cwsmeriaid sy’n talu iddynt am wneud job o waith.

Ond yn ddiweddar, cafwyd Dan Penteado’n euog o dwyll gan iddo hawlio budd-dal tai nad oedd ganddo hawl iddo.  Caiff ei ddedfrydu’n ddiweddarach y mis hwn, ac mae’n bosibl iddo gael ei garcharu.  Os digwydd hynny gallaf ddychmygu’r floedd o gymeradwyaeth o du’r amrywiol dwyllwyr a ddinoethwyd ar y rhaglen ganddo fo ac Allwright. Mae angen ceiliog glân i ganu, wedi’r cwbl.

Tybed a welwn ni Rogue Traders eto?  Bydd ar y rhaglen angen cyflwynydd newydd yn sicr.  Neu a gaiff ei chladdu’n dawel bach am fod pob credinedd wedi diflannu ohoni?  I raddau helaeth, mae llwyddiant rhaglen sy’n tynnu sylw at dwyll ac anonestrwydd busnesau neu unigolion yn dibynnu ar fod gwneuthurwyr y rhaglen eu hunain yn onest.

Go brin beth bynnag y gwelir Dan Penteado ar y rhaglen hon eto.  Dydyn ni ddim yn debygol o’i weld yn datgelu twyll rhyw grefftwr neu’i gilydd, ac yna’n ychwanegu bod llys barn wedi ei ddyfarnu yntau’n euog o drosedd debyg.  Ond dyna’n union a wnaiff y Cristion.  Oherwydd nid arddull Rogue Traders sy’n nodweddu dilynwyr Crist.  Nid pwyntio bys at wendidau a phechodau pobl eraill a wnawn, fel pe byddem ni’n ddieuog o’r beiau hynny. Nid bytheirio am bechodau pobl eraill a wnawn gan roi’r argraff ein bod yn berffaith.  Nid ydym lanach na glân.  Ond y mae gennym Geidwad a fu fawr drosom, i’n hachub.  Y mae gennym Arglwydd a gododd o’r bedd, i’n nerthu a’n glanhau.  Ac fe alwn ar eraill i ddod at y Gwaredwr hwn.  Gwnawn hynny, nid fel rhai sy’n eu dwrdio am eu beiau, ac nid gan ein cyfrif ein hunain yn well na hwy.  Galwn ar bobl i gredu yn yr Arglwydd Iesu gan sylweddoli a chydnabod mai’r cwbl ydym yw tlodion sy’n dweud wrth dlodion eraill am y cyfoeth a geir yn Iesu Grist.  Pechaduriaid ydym, yn galw ar bechaduriaid eraill i ddod at yr un sy’n maddau beiau.  Cleifion ydym, yn cymeradwyo’r meddyg i gleifion eraill.    Dyna’r gwir.  A dyna sydd raid i ni ei gyfleu.

Gorffennaf 13, 2012

Ysgwyd llaw

Byddai wedi bod yn gwbl annisgwyl rai blynyddoedd yn ôl.  Ac nid hynny’n unig.  Byddai’n gwbl annhebygol, a byddai pawb wedi credu na ddigwyddai byth.  Ac eto, yn y diwedd doedd dim byd annisgwyl ynddo.  Oherwydd erbyn yr wythnos ddiwethaf roedd pawb yn gwybod y byddai’n digwydd.  Fe gyhoeddwyd ymlaen llaw y digwyddai, ac roedd pawb yn disgwyl amdano.  Dim ond ysgwyd llaw oedd o ar un wedd.  Ond golygfa ryfeddol iawn oedd Martin McGuinness a’r Frenhines yn ysgwyd llaw â’i gilydd.  Roedd yn gadarnhad pellach o’r newid mawr a gafwyd yng Ngogledd Iwerddon dros y blynyddoedd diwethaf.

Gweithred wleidyddol oedd hi wrth reswm.  Fedrai hi ddim peidio â bod felly o gofio bod Is-lywydd Sinn Fein a Dirprwy Weinidog Cyntaf Gogledd Iwerddon yn cyfarfod â Phen y Wladwriaeth.  Roedd y ddau yn amlwg yn rhan o broses wleidyddol bwysig, a’r naill a’r llall, a’r bobl a gynrychiolent, yn sicr yn gobeithio y byddai’r ddrama yn gwneud lles i’w hachos hwy.  Ac eto, roedd yna ddau unigolyn yno’n ysgwyd llaw, a hyd y gellid gweld yn gwneud hynny’n gynnes a chyfeillgar a diffuant.  Ac nid peth bychan na pheth rhwydd oedd hynny i’r naill na’r llall.  I’r gwleidydd o Wyddel, bu Brenhiniaeth Lloegr yn symbol o bopeth y bu’n brwydro yn ei erbyn ers degawdau.  I’r Frenhines, bu Martin McGuiness yn symbol o’r mudiad a laddodd ail gefnder iddi, Louis Mountbatten yn 1979.  Felly, roedd yr elfen wleidyddol a phersonol i’r weithred yn llawn arwyddocâd.

Roedd yr ysgwyd llaw’n arwydd o’r cymod a gafwyd yng Ngogledd Iwerddon ac yn ein hatgoffa o’r angen am gymod ym mhle bynnag y ceir anghydfod a rhaniad.  Tueddwn i feddwl am yr angen am gymod rhwng cenhedloedd, ond ni allwn anghofio’r angen am gymod rhwng unigolion a’i gilydd.  Ac er mor rhyfedd yw dweud hynny, gall hwnnw fod mor anodd ei sicrhau â chymod rhwng cenhedloedd.  Mor rhwydd y gall cymdogion neu deulu neu gyfeillion ffraeo a pheidio siarad â’i gilydd am flynyddoedd.  Mor rhwydd y gall dadlau am wrych neu ewyllys neu blant greu rhwyg rhwng pobl a pheri iddynt droi cefn ar ei gilydd.  Mae Cristnogion mor dueddol â neb i weithredu felly.  Ond mae’r Duw a’n cymododd ag ef ei hun trwy farwolaeth Iesu yn mynnu ein bod yn cymodi â’n gilydd.  Ac er mor anodd a phoenus y gall hynny fod, diolchwn am ras ein Harglwydd Iesu Grist sy’n galluogi pobl i wneud hynny.  ‘Yn gyntaf, cymoder di â’th frawd,’ meddai’r Iesu.  Fwy na thebyg na fydd camerâu’r teledu yno i gofnodi’r digwyddiad, ond bydd llygaid Duw yn gweld pob cymod sy’n digwydd yn ei enw ac er ei glod.

Gorffennaf  06, 2012

Trwy ddŵr a thân

Lluniau gwirioneddol ddychrynllyd oedd y rhai a welsom o Ysgol Gynradd Betws, Llangeinor wedi iddi losgi’n ulw’r wythnos ddiwethaf.  Diolchwn nad anafwyd neb gan gydymdeimlo hefyd ag unrhyw un ohonoch sy’n gysylltiedig â’r Ysgol. Dim ond ychydig ddyddiau cyn hynny yr oeddem wedi gweld lluniau digalon eraill o’r difrod a achoswyd gan y llifogydd yng Ngheredigion.  Roedd gweld pentrefi cyfarwydd dan ddŵr yn ddychryn i bawb ohonom, a chydymdeimlwn â phawb a ddioddefodd oherwydd y llifogydd hefyd.  Ond wrth ddweud hynny, rwy’n sylweddoli mor hawdd yw dweud y pethau hyn ac mor annigonol yw geiriau yn y fath amgylchiadau.

Mae gweld, er o bell, y difrod a achosir gan lifogydd a thannau yn gwneud i mi ryfeddu at ddewrder rhai o awduron y Beibl ac at eu hyder yng ngallu a ffyddlondeb Duw.  Meddai’r Salmydd, er enghraifft, ‘Aethom trwy dân a dyfroedd; ond dygaist ni allan i ryddid’ (Salm 66:12).  Ac meddai Eseia, ‘Dyma’r hyn a ddywed yr Arglwydd … “Pan fyddi’n mynd trwy’r dyfroedd, byddaf gyda thi … Pan fyddi’n rhodio trwy’r tân, ni’th ddeifir, a thrwy’r fflamau, ni losgant di”’ (Eseia 43:2).  Tebyg mai’r adnodau hyn a roddodd i ni’r priod-ddull, ‘mynd trwy ddŵr a thân’, sydd yn ôl fy mhrifathro yn Ysgol Gynradd Dolbadarn, y diweddar R.E. Jones, yn golygu ‘goddef eithafion o anghysur neu berygl neu ddioddefaint’ (Idiomau Cymraeg: Yr Ail Lyfr).

Ydi, mae geiriau’n dod yn rhwydd.  Ond mae yna rym a gwirionedd yng ngeiriau’r Beibl, ac mae’r geiriau hyn uchod yn dangos sicrwydd pobl Dduw fod gofal yr Arglwydd amdanynt ym mhob math o amgylchiadau.  Er iddynt fynd trwy ddŵr a than, y mae Ef gyda hwy, yn eu hamddiffyn a’u gwarchod.  Yn amlach na heb, darluniau o beryglon a thrafferthion gwahanol yw’r dŵr a’r tân, a ninnau’n tystio i ofal Duw trwy’r cyfan.  Ond byddai awduron y Beibl yr un mor sicr o ofal Duw amdanynt pe byddai’r dŵr a’r tân yn real.  A mentrwn ddweud, er pob poen a cholled, bod yna rai a ddywedodd wrth y Brenin Mawr er gwaethaf llifogydd a thannau’r dyddiau diwethaf, ‘Yr wyt ti gyda ni’.  Oherwydd Duw felly ydyw.  Mae gyda ni bob amser.  Mae’n gwylio drosom.  Mae’n darparu ar ein cyfer.  Mae’n ein harwain trwy’r cyfan sydd raid i ni ei wynebu.  Daw â ni trwy’r stormydd garwaf.  Ymddiriedwn ninnau, felly, ynddo, beth bynnag ddaw.  A meiddiwn ganu gyda Phantycelyn,

Gyda thi mi af trwy’r fyddin,

gyda thi mi af trwy’r tân;

’d ofnaf ymchwydd llif Iorddonen

ond i ti fynd yn y blaen.

Mehefin 29

Colbio Murdoch

Mae Ed Miliband o’r farn bod gan Rupert Murdoch a’i ymerodraeth ormod o ran o’r farchnad papurau newydd yng ngwledydd Prydain.  Cwmnïau Murdoch sy’n berchen ar 34% o’r farchnad honno.  Ac wrth roi tystiolaeth gerbron Ymchwiliad Leveson i ddiwylliant, arferion a moeseg y Wasg, mynnodd arweinydd y Blaid Lafur y dylid gorfodi Murdoch i leihau’r gyfran honno.

Erbyn hyn, mae colbio Rupert Murdoch yn ffasiynol.  Ac o gofio’r holl golbio a wnaeth ef a’i bapurau ar bobl dros y blynyddoedd, mae’n anodd peidio teimlo mesur o fodlonrwydd a llawenydd o weld hynny.  Peth diweddar yw’r ymosod hwn ar Murdoch, oherwydd amharod fu’r rhan fwyaf o wleidyddion i wneud hynny dros y blynyddoedd.  Roedd Murdoch yn ffrind rhy dda, neu’n elyn rhy beryglus, a’r awydd i’w blesio, neu o leiaf i beidio’i groesi, yn rheoli llawer o’r hyn a wnâi ac a ddywedai pobl.  Ond i ryw raddau, mae pethau wedi newid a phobl yn fwy parod i fod yn feirniadol ohono.

Mae’n sicr ei bod dipyn haws beirniadu Murdoch heddiw nag oedd hi flwyddyn neu ddwy’n ôl.  Bu dylanwad Murdoch a’i bapurau’n fawr ers blynyddoedd. Tystiodd y cyn brif-weinidog, John Major, i hynny pan ddywedodd wrth yr Ymchwiliad bod Murdoch wedi ei rybuddio i newid polisi ei Lywodraeth ar y Gymuned Ewropeaidd os oed am gadw cefnogaeth ei bapurau!  Ai teg awgrymu bod Mr Miliband yn datgan ei farn am ei fod erbyn hyn yn teimlo’i bod o fantais iddo ymosod ar Murdoch?

Ond fel Cristnogion, ni chawsom alwad i dystio yn unig pan yw’n ddiogel neu’n fanteisiol i wneud hynny.  Galwodd Duw ni i dystio i’r Efengyl ‘mewn amser, allan o amser’; pan yw’n gyfleus ac anghyfleus; pan yw’n fanteisiol ac anfanteisiol; pan yw’n ddiogel neu’n beryglus.  Galwodd ni i gyhoeddi Crist yng ngŵydd credinwyr ac anghredinwyr; gerbron cyfeillion a gelynion; yn y betws a’r byd fel petai.    

Ond nid yw hynny’n hawdd o bell ffordd.  Ac oherwydd hynny, mae ein hedmygedd yn fawr o bawb sy’n sefyll yn gadarn ac yn cyhoeddi’n glir ac eofn fawredd Crist a’r angen i bobl ymateb iddo mewn ffydd ac ufudd-dod llawn, beth bynnag y sefyllfa a phwy bynnag sy’n gwrando.  Gwyddom fod gennym Efengyl odidog, ond gall dirmyg byd anghrediniol beri i ni ar brydiau betruso rhag tystio amdani.

Ceisiwn felly’r gras i fod yn ffyddlon i Grist yn ein geiriau a’n gweithredoedd, beth bynnag a ddywed neb amdanom a beth bynnag a wnêl neb i ni.

Mehefin 22

Y tri lliw

Cafwyd Eisteddfod yr Urdd lwyddiannus yn Eryri. Does gen i mo’r syniad lleiaf faint gerddais i o amgylch y Maes yng Nglynllifon, ond gwn i mi gerdded pedair milltir i gyrraedd yno ddydd Llun! Ond stori arall yw honno.

Wyddwn i ddim hyd yn ddiweddar fod arwynebedd y tri lliw ar fathodyn yr Urdd yr un faint â’i gilydd. Mae hynny’n fwriadol er mwyn dangos fod yr hyn y mae’r gwyrdd a’r coch a’r gwyn yn eu harwyddo – ffyddlondeb i Gymru, i gyd-ddyn ac i Grist – mor bwysig â’i gilydd i’r mudiad. Ond mae’r Urdd yn cydnabod nad yw’n mynnu bellach fod ei aelodau’n addo ffyddlondeb i Grist. Gallaf ddeall hynny’n iawn. Gan fod y mudiad yn cynnwys plant o wahanol gefndiroedd diwylliannol a chrefyddol mae’n anodd gweld sut y gellir disgwyl i bawb addo bod yn ffyddlon i’r Arglwydd Iesu, yn unig am eu bod yn dymuno bod yn rhan o fudiad plant ac ieuenctid Cymraeg ei iaith.

Ond y gwir yw nad lle’r Urdd yw gwneud pobl yn ffyddlon i Grist. I’r Eglwys Gristnogol y rhoddwyd y comisiwn i wneud disgyblion o’r holl genhedloedd. Hi, a hi’n unig drwy nerth yr Ysbryd Glân, sy’n galw ar bobl o bob oed i gredu yn Iesu Grist a’i wasanaethu. Nid gwaith yr Urdd na’r ysgolion na neb arall mo hwn, ond gwaith yr Eglwys.  Ofer ac afresymol disgwyl i neb arall ei wneud. Mae’r Urdd yn hybu Cymreictod ac yn annog ei aelodau i barchu eraill a byw’n gytûn ac yn heddychlon â’i gilydd, sy’n amlwg yn beth da. Ond i’r Eglwys yr ymddiriedwyd y fraint o gyhoeddi i bobl a phlant o bob oed y waredigaeth sydd yn Iesu Grist. I’r Eglwys yr ymddiriedwyd yr Efengyl a’r rheidrwydd i alw ar bobl i edifarhau a chredu yn y Gwaredwr. I’r Eglwys y rhoddwyd y gwaith o ddysgu pobl i garu Crist a dilyn ei esiampl a byw er ei glod. Ac i’r Eglwys y rhoddwyd y cyfrifoldeb o gyhoeddi bod ffyddlondeb i Grist yn bwysicach na dim arall. Ni all yr Urdd wneud hynny. Ni wnaeth hynny erioed. Ac nid oes disgwyl iddo’i wneud. Mae bathodyn y mudiad yn dangos bod Cymru a chyd-ddyn a Christ yn gyfartal yng ngolwg yr Urdd.  Ond nid dyna ddywed yr Eglwys! Ei hymffrost hi yw na all y tri fod yn gyfartal gan fod Crist yn rhagori ar bopeth arall. Caru Crist a dilyn Crist yn ffyddlon sy’n dod gyntaf, medd yr Eglwys. Ac nid syndod hynny o gofio bod Iesu wedi mynnu ein teyrngarwch eithaf. Mae pob dim arall – yn cynnwys ein cariad at gyd-ddyn a’n cariad at iaith a gwlad – yn deillio o’r cariad sydd gennym at Dduw a’i Fab, Iesu Grist. Os na roddwn y lle cyntaf i Grist, ni roddwn le o gwbl iddo! Dyna ddywed yr Eglwys. Ac yn naturiol, dim ond hi a fyn ddweud hynny heddiw, fel erioed, yng Nghymru a phob man arall.

Mehefin 15

Canon tafodrydd

Hyd y gwn i, mae’r Parchg Ddr Paul Shackerley, sy’n ganon yng Nghadeirlan Doncaster yn Swydd Efrog, yn ddyn digon call.  Byddai’n rhesymol meddwl hynny ac yntau’n ddoethur ac mewn swydd gyfrifol.  Ond pan gyll y call, fe gyll ymhell.

Bu raid i’r Canon ymddiheuro’r wythnos ddiwethaf am rywbeth a ysgrifennodd ar ei dudalen ‘facebook’ beth amser yn ôl.  Roedd wedi cyhoeddi un nos Sadwrn mewn geiriau anllad nad oedd wedi gwneud fawr ddim yn ystod y dydd.  Aeth yn ei flaen i gwyno bod rhaid iddo fynd i’r Eglwys drannoeth, ond diolchai nad oedd rhaid iddo bregethu’r Sul hwnnw.

Mae’n anodd deall pam nad oedd y Canon yn sylweddoli y byddai’r rheg yn cythruddo pobl.  Cafodd ei feirniadu’n hallt, a phenderfynodd yntau (neu fe’i gorfodwyd) i ddileu’r geiriau oddi ar ‘facebook’.  Roedd y feirniadaeth yn gwbl ddilys, a gallaf ddeall pam y byddai ei esgob ac eraill o fewn Eglwys Loegr yn mynnu ei fod yn ymddiheuro am ddefnyddio’r fath iaith.

Ond un peth yw’r iaith aflednais; peth arall yw’r cyfaddefiadau a gafwyd ganddo.  Mae’n debyg mai fel sylwadau ysgafn, doniol y bwriadai Paul Shackerley’r geiriau, ond mae’n debyg fod yna hefyd onestrwydd annisgwyl yn ei gyfaddefiadau.  Oherwydd, a fedr pob gweinidog a phregethwr ddweud yn berffaith onest bob amser ei fod yn edrych ymlaen gydag afiaith at y Sul a’i orchwylion?  Ac a fedr pob un ohonom ninnau ddweud yn gwbl onest ein bod yn hiraethu am gael mynd i’r capel bob bore Sul yn ddi-feth?

Gallwn ganmol y Canon am ei onestrwydd (er nad am lendid ymadrodd!)  Mae ganddo hawl i gyfaddef ei wendidau a’i bechodau’n gyhoeddus, os yw’n dewis gwneud hynny.  Mae arnom angen gonestrwydd.  Ac yn sicr mae’n rhaid gwylio rhag rhagrithio trwy roi’r argraff ein bod ar dân dros y Ffydd, â’n calonnau’n galed ac oer.  Mor hawdd yw smalio bod popeth yn iawn yn ein perthynas â Duw a bod y bywyd Cristnogol yn felys o hyd.

Gall fod o fewn ein heglwysi bobl sy’n debyg i Dr Shackerley, am fod addoliad wedi mynd yn fwrn a hwythau wedi colli blas ar gymdeithas yr Eglwys.  Ac yn hytrach na’u condemnio, dylem wneud popeth posibl i’w cefnogi a’u cynorthwyo i ail afael yn y wefr o berthyn i deulu’r Ffydd a bod yn rhan o addoliad a gwaith y teulu hwnnw.  Ac os oes rhaid cyfaddef fod geiriau’r Canon yn taro tant yn ein profiad ninnau, gallwn gydnabod hynny a cheisio maddeuant Duw o’r newydd am golli golwg ar fawredd ei gariad tuag atom yn Iesu Grist.

Mehefin 8

Mrs Baylis

Bydd llawer o ddarllenwyr Y Goleuad beth bynnag yn gyfarwydd ag enw Dilys Baylis, Llanberis gan iddi gyfrannu erthyglau a cherddi, ac yn arbennig lythyrau niferus, i’r papur hwnnw dros y blynyddoedd.  Cyhoeddwyd llawer llythyr arall o’i heiddo ym mhapurau’r Herald a’r Daily Post.  Ond prin fu’r llythyrau’r blynyddoedd diwethaf hyn.  Ac nid syndod hynny o gofio iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed ym mis Mehefin 2002.

Bu farw Mrs Dilys Baylis ar Fawrth 22 eleni yn 99 mlwydd oed, dri mis felly’n brin o’r 100.  Er iddi yn ferch ifanc dreulio chwe blynedd yn gweithio mewn ysbyty dan nawdd cartrefi Dr Barnado yn Essex, dychwelodd i Lanberis yn 23 mlwydd oed i weithio yn siop groser y teulu ym Meirionfa.  A chyda’r siop honno y cysylltwyd ei henw wedi hynny.  Magodd bedwar o blant.  Bu’n athrawes Ysgol Sul yng nghapel Gorffwysfa, ac yn aelod ffyddlon yno ac yn Capel Coch yn ddiweddarach.  Bu’n arwain oedfaon yng nghapeli’r fro am rai blynyddoedd.  Ac wrth gwrs, byddai’n ysgrifennu llythyrau ar bob math o bynciau, nid yn unig i’w cyhoeddi mewn papur newydd ond hefyd at arweinwyr crefyddol a gwleidyddol, yn cynnwys gweinidogion, archesgobion, pabau, prif-weinidogion ac arlywyddion!  Yn rhai ohonynt, byddai’n mynegi gwerthfawrogiad o rywbeth a ddywedwyd neu a wnaed gan y bobl hyn, ac mewn eraill yn datgan anghytundeb.  Ond byddai’n gynnes a chwrtais bob amser, a hynny mae’n debyg a olygai ei bod yn derbyn ateb oddi wrth y mwyafrif ohonynt.

Un o’i geiriau mawr yn sicr oedd ‘ideas’, a byddai’n llawn brwdfrydedd yn rhannu’r syniadau y byddai wedi myfyrio drostynt.  Cyfansoddodd nifer o emynau, ac mor braf yw cofio iddi, ychydig wythnosau’n ôl, weld cyhoeddi Pawb i Ganu, cyfrol o’i hemynau hi a thonau ei diweddar frawd, Edwin Lloyd Jones.  Roedd ganddi hefyd ddawn arbennig i gyfieithu emynau, a chofiaf yn dda iddi gyfieithu’r emyn ‘Dros Gymru’n gwlad’ ar gyfer y rhaglen Songs of Praise mewn awr neu ddwy, a hithau erbyn hynny dros 90 oed.

Roedd yn wraig annwyl a charedig a diffuant.  Gwerthfawrogai weddi, a gwyddai’n dda beth oedd ymddiried yn Nuw ym mhob math o amgylchiadau.  ‘Nesáu at Dduw sydd dda i mi’ oedd ei chyffes mor aml.  Roedd ganddi galon gynnes a dymuniad dwfn i weld Cymru’n

troi’n ôl at y Duw byw.  A mwy na’r cerddi a’r llythyrau a’r ‘ideas’ i gyd oedd y tystio agored a naturiol i’w ffydd ymysg cyfeillion a chymdogion, ar lafar a thrwy benillion neu adnodau a osodai’n gyson yn ffenestr ei siop a’i chartref.

Mehefin 1

Y Fflam

Honiad y trefnwyr yw y bydd y Fflam Olympaidd wedi bod o fewn deng milltir i 95% o drigolion gwledydd Prydain erbyn iddi gyrraedd y Stadiwm Olympaidd yn Llundain.  Heddiw (ddydd Gwener, Mai 25) daw’r Fflam i Gymru, trwy’r Fenni a Phontypŵl a Chasnewydd i Gaerdydd.  Yfory bydd yn teithio trwy’r Barri a Merthyr a Phen-y-bont i Abertawe.

Ac yna, ddydd Sul, wrth i’r fflam fynd trwy Lanelli a Chaerfyrddin a Hwlffordd ac Aberteifi i Aberystwyth, bydd yr Eglwys Gristnogol yn dathlu fflam arall a ymledodd i bob cornel o’n gwlad fach ni ac i gynifer o wledydd eraill y byd.  Ar y Pentecost, fe gofiwn ddyfodiad yr Ysbryd Glân ar y disgyblion, a’r tafodau tân a ddisgynnodd arnynt yn arwyddo o’r Ysbryd hwnnw.  Ac yn nerth a gwres yr Ysbryd Glân aeth y disgyblion ati i gyhoeddi Efengyl Iesu Grist. Ymledodd eu cenhadaeth yn fuan ymhell y tu hwnt i ffiniau eu gwlad eu hunain.  A thros y canrifoedd, gwelwyd yr Efengyl yn cartrefu mewn ffordd ryfeddol yma yng Nghymru.  Cawsom y saint cynnar.  Cawsom genadaethau.  Cawsom ddiwygiadau.  A thrwy’r cyfan, dros ganrifoedd meithion, daeth fflam yr Efengyl, nid o fewn deng milltir i 95% o bobl y wlad, ond o fewn llai o lawer na hynny i’r boblogaeth gyfan.

Ac i raddau helaeth, er gwaethaf diflaniad cymaint o’n capeli a’n heglwysi dros y blynyddoedd diwethaf, mae canran uchel iawn o bobl ein gwlad yn dal o fewn llai na deng milltir i gapel ac eglwys.  Gweddïwn o’r newydd dros y dystiolaeth Gristnogol sy’n aros ar hyd ac ar led ein gwlad.  Gweddïwn y caiff y fflam ei chryfhau lle mae’n llosgi’n wan.  Gweddïwn y caiff ei hailgynnau lle mae wedi hen ddiffodd.  Gweddïwn y bydd Duw’n trugarhau ac yn bendithio’r capeli a’r eglwysi, gan dywallt ei Ysbryd Glân o’r newydd ar ei bobl.  Gweddïwn y bydd yn ein cryfhau a’n tanio a’n cymell i gyhoeddi Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist i’n cyd-gymry. Gweddïwn y bydd bendith yr Hollalluog ar holl waith ei Eglwys yn ein gwlad, ac y bydd y cyfan yn dystiolaeth i’w gariad a’i dosturi.

Caiff y fflam Olympaidd ei throsglwyddo o un rhedwr i’r llall dros y ddeufis nesaf.  Mae’r Testament Newydd yn ein hannog ninnau i drosglwyddo’r Efengyl i eraill, o genhedlaeth i genhedlaeth.  A gwnawn ein gorau i wneud hynny.  Ac eto, mor bwysig yw cofio nad trwy ein hymdrechion ni y bydd fflam y Ffydd yn dal ynghyn.  Duw gyneuodd y fflam.  Duw a’i cynhaliodd byth ers Dydd y Pentecost.  A Duw yn unig all eto wneud i’r fflam hon losgi’n eirias i oleuo a chynhesu’n gwlad o’r newydd.  Peidiwch â gweddïo ar i’r fflam hon ddod o fewn deng milltir i’n pobl.  Gweddïwch ar iddi ddod i’n calonnau oer a thywyll er gogoniant i’n Gwaredwr, Iesu Grist.

Mai 25

O’r asid

Towyr yw Martin Davis a Rob Nuckols.  Roedden nhw’n gweithio ar ben to ffatri yn Clifton, New Jersey yn yr Unol Daleithiau’r wythnos ddiwethaf.  Ffatri tiwbiau metal oedd hi.  Llithrodd Martin Davis oddi ar do 40 troedfedd o uchder, a syrthio dros ei ben i gafn asid citrig a ddefnyddid yng ngwaith y ffatri.  Roedd mewn perygl enbyd, nid yn unig oherwydd yr anafiadau i’w asen a’i ochr, ond am fod yr asid yn ei losgi’n ddrwg.  Mae’n debyg y byddai wedi ei ladd oni bai fod ei gydweithiwr, Rob Nuckols, wedi neidio i’r cafn er mwyn ei dynnu allan ohono.

Hyd y gwyddys, mae Martin Davis yn dal yn fyw, er yn ddifrifol wael, ond mae’n gwbl amlwg y byddai wedi marw oni bai am ddewrder ac aberth Rob Nuckols, a neidiodd i mewn i’r asid er mwyn ei achub.  Fe losgwyd ei goesau a’i stumog yntau gan yr asid, er nad oedd ei anafiadau hanner mor ddrwg â rhai ei gyfaill.  Yn gwbl naturiol, fe gafodd ei ganmol am ei ddewrder a’i barodrwydd i wneud popeth a allai dros ei gyfaill.  Roedd dyfnder o dair troedfedd o asid yn y cafn, ond heb gyfri’r gost iddo’i hun neidiodd Rob Nuckols i’w ganol er mwyn ei gyfaill.

Mae’n anodd i’r Cristion ddarllen y fath stori heb feddwl am barodrwydd yr Arglwydd Iesu Grist i ddioddef dros eraill.  Gwyddai mai cafn asid o fyd oedd yr un y deuai iddo, a bod pechod a drygioni’r byd yn peryglu pawb sydd ynddo.  Ond i ganol y byd hwnnw y daeth Iesu, er gwaetha’r dioddefaint y byddai’n ei brofi.  Gwelai bobl mewn trybini, a mynnai ddod i’w cynorthwyo.  Gwyddai am y gwawd a’r gwrthodiad, gwyddai am y groes a’r gwaed, a mynnodd wynebu’r cyfan er mwyn ei gyfeillion.

Gwnaeth Rob Nuckols beth prydferth iawn, er nad oedd wrth gwrs ddim byd prydferth yn y cafn asid a’r llosgiadau a’r boen.  A gweithred brydferth oedd yr hyn a wnaeth Iesu Grist, er nad oedd dim byd prydferth yn y goron ddrain a’r groes bren a’r hoelion dur.  Mae ei phrydferthwch yn ei haberth ac yn y cariad rhyfeddol sy’n sail i’r aberth honno.  Gwyddai ein Gwaredwr nad oedd modd achub pobl syrthiedig heb iddo ef ddod i lawr atynt.  Gwyddai mai’r unig obaith oedd ei fod ef ei hun yn fodlon dioddef yn ein lle.  A golygai hynny fwy hyd yn oed na neidio i’r cafn.  Dioddefodd Rob Nuckols dros Martin Davis; ond daeth o’r cafn wedi iddo achub ei ffrind.  A diolch am hynny.  Ond er mwyn ein hachub ni roedd rhaid i Iesu aros yn y cafn.  Roedd rhaid iddo farw drosom.  A bu’n fodlon gwneud hynny am ei fod yn ein caru â’i holl galon.

Mai 18

Rhoi parch i Roy

O ran pêl droed, y stori fawr yn ddiamheuol nos Lun, Mai 30 oedd y sôn mai Roy Hodgson fyddai rheolwr newydd tîm Lloegr.  Hyd y cofiaf, dyna’r unig beth o bwys a ddigwyddodd ym myd y bêl gron y noson honno!

Dyma ddechrau newydd eto i’r Saeson, gwta fis cyn Pencampwriaeth Ewrop.  Dylai Mr Hodgson fod yn ddiogel rhag llach y wasg pe digwyddai’r annisgwyl arferol fod y tîm yn boddi yn ymyl y lan (neu’n bell oddi wrthi) unwaith eto.  Byddai raid i’w feirniaid mwyaf llym gydnabod na roddwyd digon o amser iddo baratoi ar gyfer y gystadleuaeth, ac yntau wedi ei benodi ar y funud olaf.

Diddorol oedd gweld chwaraewyr fel Steven Gerrard, Gareth Barry a Jack Wilshire yn canmol y rheolwr newydd yn frwd.  A pha ryfedd hynny o gofio’u bod yn gobeithio cael eu dewis i’r tîm ganddo?  Fyddech chi ddim yn disgwyl i’r chwaraewyr awgrymu nad ydynt o blaid Roy Hodgson (er i amryw ohonynt ddweud ers tro mai Harry Redknapp oedd yr unig ddewis synhwyrol ar gyfer y swydd!)

Canmol y rheolwr newydd yw’r peth doeth i’w wneud.  Pwy all eu beio am ddweud a gwneud y pethau a fydd yn eu gwneud yn gymeradwy yn ei olwg?  Gwell hynny na’i feirniadu a cholli pob gobaith o le yn y tîm.  A does dim o’i le o reidrwydd pan fydd Cristnogion yn dymuno bod yn gymeradwy yng ngolwg pobl eraill.  Mewn gwirionedd, fe ddylem wneud pob ymdrech i fyw mewn ffordd a fydd yn ennyn parch pobl atom.  Galwodd Iesu am i’n goleuni ‘lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd’ (Mathew 5:16).  Mae bywyd glân a gonest y Cristion i fod i’w wneud yn fwy na derbyniol yng ngolwg eraill.  Does dim rhinwedd mewn bod yn amhoblogaidd ac anghymeradwy er ei fwyn ei hun.

Ac eto, fe ŵyr y Cristion am yr elfen honno i neges yr Efengyl sy’n annerbyniol i bobl.  Fe ŵyr yn dda nad yw pobl yn croesawu llawer o’r pethau a ddywed yr Arglwydd Iesu Grist ei hun.  ’Does fawr o groeso, er enghraifft, i’w haeriad nad oes ‘neb yn dod at y Tad ond trwof fi’.  Oherwydd mae pobl yn credu fod ganddyn nhw eu hunain y gallu i ddod at Dduw heb help y Gwaredwr, neu’n credu fod sawl ffordd arall at Dduw heblaw’r Arglwydd Iesu Grist.  Ond nid yw’r ffaith nad oes croeso i’r neges yn rheswm dros beidio â’i chyhoeddi.  Ni ddylai’r perygl o fod yn amhoblogaidd ac anghymeradwy atal pobl Dduw rhag cyhoeddi neges Duw.  Ond nid bod yn anghymeradwy yw’r nod.  Yn hytrach, anelwn at ennill parch pobl eraill yn ein gwasanaeth ffyddlon i’r Duw byw.

Mai 11

Wali

Dowch o hyd i’r sbectol a’r cap, a fydd Wali ddim yn bell.  Nid Walter Tomos o Fryncoch, er bod hynny’n wir  am yr hen Wali a’i sbectol a’r beret hefyd.  Sôn wyf am y cymeriad bach hwnnw y mae’n rhaid chwilio amdano yn llyfrau ‘Lle mae Wali?’  Llyfrau difyr dros ben ydi’r rhain, sy’n gosod Wali mewn pob math o wahanol sefyllfaoedd, a’r gamp yw dod o hyd iddo ym mhob llun.  Mae’r dwsinau o gymeriadau eraill sydd yn y lluniau, ynghyd â’r defnydd celfydd o liwiau, yn golygu bod Wali wedi ymdoddi i’r llun rywsut, ac nid gwaith hawdd yw ei weld.  Dyna gyfrinach llwyddiant y gyfres, wrth gwrs, gan fod oriau o hwyl i’w gael yn chwilio am y dyn bach yn y siwmper streipiog goch a gwyn.

Mae Wali ym mhob llun.  Ei stori o, ei hanes o, ei lyfrau yw’r cyfan.  Heb Wali, does dim pwrpas na gwerth i’r llyfrau.  Ond nid Wali mo’r un ohonom yng ngwaith yr Eglwys, er mor rhwydd y’n temtir i feddwl felly ar brydiau.

Yng ngwres y frwydr ac ym mhrysurdeb gwaith yr Efengyl mae’n rhwydd iawn ein gosod ein hunain yng nghanol y darlun.  Mor hawdd yw cyfyngu gwaith yr Efengyl i’n heglwys ni a’n gweithgareddau ni, a hyd yn oed i mi fy hun.  Gellir deall sut mae peth felly’n digwydd. Mae’r Efengyl yn hawlio ein hymateb a’n hufudd-dod, a ninnau’n ceisio ei gwasanaethu yn unol â galwad Duw.  Mae’n hawlio’r cyfan gennym o ran amser ac ymroddiad ac egni a doniau a theyrngarwch.  Ond gallwn yn rhwydd iawn ymgolli yn y gwaith gan weld dim ond yr hyn yr ydym ni ynglŷn ag ef yn ein cylch bach ein hunain.  Ac os na fyddwn ofalus, rydym ni ein hunain rywsut yn mynd i ganol y darlun, ac yn meddwl am y cyfan yn nhermau ein gwaith ni, ein heglwys ni, ein lles ni, ein cysur ni a hyd yn oed ein henw da ni.

Mae’r llun, diolch am hynny, yn ehangach o lawer nag unrhyw un ohonom ni.  Yr Arglwydd Iesu Grist sydd yn ei ganol: ei stori o, ei hanes o yw’r cyfan.  Mynnwn ninnau gydnabod hynny o’r newydd ac ildio’r lle canolog iddo bob dydd, yn ein bywyd ac yng ngwaith y Deyrnas.  Un fendith amlwg o wneud hynny yw’r rhyddhad o sylweddoli nad arnom ni y mae’r gwaith yn dibynnu ond ar Dduw ei  hun.  Rhan fechan iawn yn unig o stori’r Efengyl yn ein bröydd a’n gwlad yw pob un ohonom.  Y mae i ni ein rhan yn y darlun mawr, a diolchwn am hynny gan fynnu cyflawni’r rhan honno hyd eithaf ein gallu yn nerth yr Arglwydd.

Fel Ioan Fedyddiwr gynt, boed i ni ddyheu am i’r Iesu gynyddu ac i ninnau leihau.

Mai 4

Gwagio’r cwpwrdd

Waeth i ni wagio’r cwpwrdd!  Dim ond mapiau, llyfrau coginio a lluniau sydd ynddo.  A does fawr o werth mewn petha felly.  Peth digon diflas yw map a’i we o linellau amryliw’n gymysg â channoedd o enwau a rhifau.  Gallaf edrych arno trwy’r dydd heb symud modfedd.  Mae llyfr coginio a’i restr diddiwedd o nwyddau a chyfarwyddiadau’n rhy fanwl o’r hanner at fy nant i.  Gallaf ddarllen degau ohonynt heb gael fy nigoni.  A digon di-lun a difywyd yw’r llyfrau llawn lluniau.  Gallaf syllu’n hir ar wynebau teulu a ffrindiau heb dorri gair â neb.  Allan â nhw i gyd am nad yw map yn mynd â chi i unman, am nad yw llyfr coginio’n porthi chwant, ac am nad oes cymdeithas mewn llun.

Does dim synnwyr mewn dadl o’r fath, wrth gwrs.  Ac eto, digon tebyg yw dadl pobl sy’n mynnu dweud nad oes angen canllawiau i’r hyn a gredwn fel Cristnogion.  Ni all ffeithiau a dysgeidiaeth ddod â ni at Dduw, meddir.  A gwir hynny.  Ond nid yw’n rheswm dros gael gwared â gwirioneddau mawr y Ffydd Gristnogol chwaith.  Nid dysgeidiaeth sy’n achub enaid ond yr  Arglwydd Iesu Grist.  Yr hyn a wna’r ddysgeidiaeth Gristnogol yw egluro pwy yw Iesu Grist a sut y mae’n gwneud y gwaith holl bwysig o’n dwyn at Dduw.  Map a llyfr coginio a lluniau’r Ffydd Gristnogol yw ei dysgeidiaeth a’i chanllawiau cred.  Eu diben yw dangos i ni’r ffordd at Dduw trwy Iesu Grist, a chyflwyno i ni’r wledd sydd ar ein cyfer yn yr Efengyl, a rhoi i ni ddarlun clir ac effeithiol o’r gwir a’r bywiol Dduw.

Nid ymddiried mewn ffeithiau a wnawn, felly, ond yn y person y mae’r ffeithiau hynny’n ei gymeradwyo.  Y person sy’n bwysig, y Gwaredwr Iesu Grist.  Iesu sy’n achub; Iesu sy’n dod â ni at Dduw; Iesu yw ein cysur a’n cymorth; Iesu yw ein goleuni a’n gobaith.  Iesu a garwn ac a addolwn ac a wasanaethwn.  Y ffordd sy’n dod â ni i ben y daith, nid map.  Y bwyd sy’n digoni, nid llyfr.  Y person sy’n gwmni, nid llun.  Ond mae’r map a’r llyfr a’r llun yn gymorth amhrisiadwy er hynny.  Oherwydd hebddynt, wyddon ni ddim sut i gychwyn teithio, a does gennym mo’r syniad lleiaf pa wleddoedd sy’n bosibl, a gall wynebau fynd yn angof.  Heb eiriau’r Beibl, heb y datguddiad sydd ynddo o Dduw a’r iachawdwriaeth, a hyd yn oed heb y ddysgeidiaeth Gristnogol (nad yw, ar ei gorau beth bynnag, ond ymdrech i egluro’r gwirioneddau Ysgrythurol) pa obaith sydd i ninnau wybod dim am y Duw byw?  Diolch am bob dysgeidiaeth ac athrawiaeth iach sy’n help i ni ganfod y ffordd a phrofi’r wledd a gweld wyneb yr Anwylyd.  Ac o weld hynny, caiff y cwpwrdd aros heb ei wagio.

Ebrill 27, 2012

Titanic

Ar y We y darllenais i rifyn Ebrill 16, 1912 y New York Times.  Y diwrnod wedi’r ddamwain roedd pennawd y ddalen flaen yn adrodd bod 1250 o bobl wedi marw.  Roedd hynny’n agos ati wrth gwrs, ond bod y nifer terfynol oddeutu 250 yn uwch na hynny eto.

Ar wahân i’r hysbysebion, hanes y Titanic oedd yn llenwi tudalennau cyntaf y papur y diwrnod hwnnw.  Yng nghanol yr adroddiadau am y trychineb roedd yr hysbysebion arferol am Hetiau John David, Ceir Garford, Dillad Saks a Dodrefn Harlem.  Yn ddiddorol iawn, ar dudalen 20 roedd hysbyseb am fordaith o Efrog Newydd ar un arall o longau trasig y byd, y Lusitania.  Dair blynedd yn ddiweddarach, byddai 1195 yn marw pan ymosododd un o longau tanfor yr Almaen ar y llong honno a’i suddo.

Ond hysbyseb arall, a welwyd ar dudalen 4, yw’r un mwyaf diddorol.  Byddwn wrth fy modd yn gwybod pryd y penderfynodd y Travelers Insurance Company osod yr hysbyseb hwn.  ‘Ar Fôr a Thir – Gartref neu oddi cartref, nos a dydd, mae damweiniau’n digwydd.  Weithiau, mae pobl yn dianc rhag anafiadau difrifol neu farwolaeth, ond mae hyn yn dangos yr angen am Yswiriant Damwain.  Oes gennych chi beth felly?  … Y Wers – Yswiriwch gyda Travelers’.  Tybed oedd yr hysbyseb hwn wedi ei drefnu ymlaen llaw, neu ai gweld cyfle i ddenu busnes newydd a wnaeth y cwmni wedi clywed am y Titanic?

Amau ydw i mai ymateb i’r trychineb a wnaeth y cwmni yswiriant y diwrnod hwnnw er mwyn rhybuddio pobl i drefnu yswiriant, gan gyhoeddi’r un pryd mai’r Traveler oedd prif gwmni’r America ac mai ganddo fo’r oedd ‘y polisïau damwain gorau y medrwch eu prynu’.  Fel y digwyddodd, fe dalodd y cwmni hwn, sy’n dal mewn bodolaeth heddiw, dros filiwn o ddoleri i deithwyr y Titanic oedd wedi eu hyswirio ganddo, neu i deuluoedd y rhai a laddwyd.

Trwy’r Efengyl, mae’r Eglwys hefyd yn rhybuddio ac yn cyhoeddi.  Mae’n rhybuddio nid rhag rhywbeth a all ddigwydd, ond rhag rhywbeth sy’n sicr o ddigwydd.  Ac mae’n cyhoeddi mai ganddi hi, yn yr Arglwydd Iesu Grist, y mae’r diogelwch pennaf yn wyneb y peth hwnnw na all yr un ohonom ei osgoi.  A ninnau newydd ddathlu’r Pasg, diolchwn o’r newydd mai’r Iesu a gododd o’r bedd – ie, yr Iesu a fu farw, ac a ddaeth yn ôl yn fyw yn gorfforol – sy’n cynnig i ninnau ganmil gwell na’r yswiriant gorau.  Oherwydd y mae’n addo’r un fuddugoliaeth dros farwolaeth i bawb sy’n credu ynddo.

Ebrill 20, 2012

Arlwy

Does dim prinder o gaffis yn y pentra’ ’ma erbyn hyn, efo dau newydd eto’n agor erbyn gwyliau’r Pasg.  A da gweld mai Cymry lleol sy’n gyfrifol am y ddau fusnes newydd ac mai enwau Cymraeg sydd i’r ddau.  Fydd dim rhaid i neb ddaw am dro eleni lwgu gan fod yma amrywiaeth o lefydd bwyta o un pen i’r pentra’ i’r llall.  Caiff pawb eu gwala, gobeithio.

A gobeithio mai felly y mae hi hefyd yn ein capeli a’n heglwysi ym mhob pentref a thref trwy Gymru.  Llefydd i dorri syched ac i borthi chwant ysbrydol ddylai ein capeli a’n heglwysi fod wrth i ‘laeth’ a ‘bwyd cryf’ (Hebreaid 5:12-14) Gair Duw gael ei ddarparu yn ôl angen pawb a ddaw i’n hoedfaon a’n cyfarfodydd amrywiol.

Mae’r gegin yn orlawn, a bwydlen yr Efengyl yn nodi’n glir beth sydd gan yr Eglwys i’w gynnig i fyd newynog a sychedig.  Ein cysur mawr, a’n hysgogiad dros dynnu sylw pobl at y fwydlen, yw bod ar y byd angen yr union bethau sydd arni.  Mae ar bobl angen cariad a chwmnïaeth; mae arnynt angen cymod a maddeuant; mae arnynt angen gobaith a sicrwydd.  Mae ar bobl angen Iesu Grist yn Waredwr ac yn Arglwydd, yn ffordd at Dduw ac yn ffordd i’r bywyd tragwyddol.

Pan nad yw pobl yn gwerthfawrogi’r fwydlen, mae’n demtasiwn i newid yr arlwy.  Ond ni allwn, ac ni fynnwn newid arlwy’r Efengyl.  Mae wedi bodloni pobl ar hyd y cenedlaethau.  Mae’n dal i wneud hynny ar draws y byd.  A bydd yn gwneud hynny eto.  Yr un yw’r arlwy o oes i oes: yr Arglwydd Iesu Grist yn ddŵr bywiol ac yn fara’r bywyd.  Cyhoeddi’r Crist a fu farw ac a atgyfododd yw ein braint a’n gwaith o’n hyd.  Ond fe allwn addasu ac amrywio’r ffordd o gyflwyno’r arlwy honno ar gyfer y bobl a wasanaethwn heddiw wrth geisio eu hargyhoeddi mai’r union beth sydd gennym i’w gynnig yn yr Efengyl yw eu hangen mwyaf hwythau.

Nid oes dim o’i le ar yr arlwy y bu’r Eglwys yn ei chynnig ar hyd y blynyddoedd.  Mae angen bod yn gwbl sicr o hynny.  Arlwy’r Efengyl yw’r union beth y mae pobl ei angen heddiw fel erioed.  Nid oes angen newid yr arlwy hon, ac ni allwn ei newid chwaith heb gefnu ar y Ffydd ei hunan.  Ond mynnwn gyflwyno’r Arglwydd Iesu Grist yn y ffordd orau y gallwn, gan wneud pob ymdrech i berswadio pobl bod yr hyn a wnaeth trwy ei fywyd a’i farwolaeth a’i atgyfodiad yn gwbl berthnasol iddynt hwy.  Gwnawn bopeth posibl i ddenu pobl ato gan gredu nad oes dim byd yn fwy pwysig na’u bod yn credu ynddo ac yn gwledda ar yr hyn a wnaeth drostynt.

Ebrill 13, 2012

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s