Tŵr Grenfell

Mehefin 18, 2017

4221396001_5472223952001_5472215311001-vs

Hunllef y bydd yn amhosibl i’r bobl a’i goroesodd ddod drosto oedd y tân a ddinistriodd Dŵr Grenfell yn Llundain yn oriau mân bore Mercher. Nid oes sicrwydd hyd yma faint o bobl a fu farw wrth i’r tân ruthro trwy’r adeilad. Yn y modd mwyaf dychrynllyd posibl, gwireddwyd ofnau trigolion y tŵr hwn y gallai trasiedi ddigwydd oherwydd cynllun a chyflwr yr adeilad.  Cafwyd rhybuddion y byddai raid wrth drasiedi fawr cyn bod gweithredu gwirioneddol i wneud yr adeilad yn fwy diogel.

Nid dyma’r lle i drafod y rhesymau dros y tân na beth y dylid ei wneud er sicrhau na all peth tebyg ddigwydd yn unman arall yng ngwledydd Prydain. Bydd rhaid i lywodraeth ganolog a llywodraeth leol roi sylw brys i’r holl gwestiynau a godwyd dros y dyddiau diwethaf.  Mae’r gwewyr a’r dicter a fynegwyd trwy feirniadaeth a phrotest yn golygu y bydd rhaid gweithredu er mwyn diogelu preswylwyr tyrrau o’r fath yn Llundain a phobman arall.

Yr hyn y medrwn sôn amdano yw’r holl bobl o grefyddau a modd a statws gwahanol gyda’i gilydd yn cynorthwyo ac yn ymgeleddu’r bobl a ddihangodd o’r tân ac a gollodd anwyliaid. O fewn dim, roedd canolfannau lleol yn derbyn dilladau a blancedi a theganau a nwyddau o bob math a anfonwyd o bob rhan o Lundain a thu hwnt.  Cymaint oedd yr haelioni nes y gorfodwyd pobl i ddweud o fewn ychydig oriau na ellid derbyn rhagor o nwyddau.  Ac eisoes cyfrannwyd miliynau o bunnoedd i’r cronfeydd a agorwyd er budd y bobl a gollodd bopeth.

Rhyfeddwn at yr ymateb parod a hael.  A diolchwn amdano.  Ond ni ddylem synnu fod y cyfoethog a’r tlawd, yr enwog a’r anenwog, y crefyddol a’r digrefydd,  yr hen a’r ifanc yn rhuthro i helpu.  Ni ddylem synnu fod pobl yn ymateb i ddioddefaint cymdogion a dieithriaid. Mae pobl yn ymateb fel hyn am eu bod wedi eu creu ar ddelw Duw. Maent yn cydymdeimlo ac yn cyd-ddioddef, yn caru ac yn tosturio am fod delw Duw arnyn nhw.  Pwy bynnag ydyn nhw, faint bynnag o arian sydd ganddyn nhw, pa mor enwog bynnag ydyn nhw, beth bynnag eu cred, mae pobl a grëwyd ar lun a delw Duw yn medru adlewyrchu Duw ei hun.  Soniwyd y dyddiau diwethaf am ‘ysbryd y Blitz’ a’r ‘ysbryd Prydeinig’. Gwell o lawer fyddai i ni sôn am yr ysbryd dynol.  Oherwydd onid fel hyn yn union y byddai disgwyl i bobl ym mhob man ymateb i ddioddefiadau cymdogion mewn sefyllfaoedd erchyll a dychrynllyd? Duw a’n gwaredo rhag unrhyw sefyllfa debyg, ond fel hyn, gobeithio, y byddem ninnau’n ymateb o weld pobl yn colli’r cyfan.

Mae’n siŵr fod trigolion Tŵr Grenfell wedi bod yng ngweddïau pobl Dduw ers bore Mercher.  Heddiw, byddant  yng ngweddïau miloedd o eglwysi o’r newydd.  Daliwn i weddïo drostynt.  Ac os dymunwn wneud hynny, mae modd cyfrannu at un o’r cronfeydd apêl a agorwyd i’w cefnogi.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 18 Mehefin, 2017

 

Advertisements

Y ffordd anghywir

Mehefin 10, 2017

tm (2)

Ar ddiwedd ‘digwyddiadau teledu’ – boed ddathliad neu drasiedi neu ornest chwaraeon – ceir cyfres o luniau  sy’n crynhoi’r hyn a welwyd dros yr oriau blaenorol.  Roedd sawl delwedd hynod gofiadwy ar ddiwedd y rhaglenni am ganlyniadau’r Etholiad nos Iau a bore Gwener.  Ond i mi, yr olygfa fwyaf damhegol a thelynegol oedd yr un o gar y Prif Weinidog ar ei ffordd yn ôl o Balas Buckingham i Stryd Downing.

Difyr oedd gweld y lluniau a dynnwyd o’r hofrennydd wrth i’r car hwylio trwy draffig Llundain ar ei ffordd i’r Palas i ddechrau. Yn naturiol, ac yn gwbl ddealledig, roedd motor beics yr heddlu ar y blaen ac o’r tu ôl i gar Mrs May, a heddlu ar bob cyffordd a chornel stryd i ofalu nad oedd rhaid i’r gyrrwr arafu na hyd yn oed boeni am yr un golau traffig. Ond roedd y daith nôl i Rif 10 yn fwy difyr fyth gan fod y car, ar fwy nag un achlysur, yn gyrru ar yr ochr anghywir i’r ffordd!  Aeth i’r cyfeiriad anghywir ar hyd ffordd ddeuol, yn gwbl ddiogel wrth gwrs a’r heddlu’n sicrhau’r llwybr mwyaf uniongyrchol iddo. Ond fedrwn i ddim peidio â meddwl bod y lluniau a welwn yn ddameg fechan, â’r Prif Weinidog saith wythnos yn gynharach wedi galw’r Etholiad a fyddai’n mynd â hi a’i phlaid, fel y digwyddodd,  i gyfeiriad cwbl anghywir – o ran eu lles nhw eu hunain beth bynnag. Ac wrth i Mrs May wibio o’r Palas ar ochr anghywir y ffordd, tybed a synhwyrai hithau fod i’r daith fer honno elfen delynegol a damhegol i rai ohonom?

A’r hyn a’m trawodd, wedi iddi ddod nôl i Stryd Downing, oedd na wnaeth hi ymddiheuro (nid am lwybr y car, wrth gwrs, ond) am y daith ffôl y bu arni ers saith wythnos. Yn ei haraith, doedd dim gair am lanast yr Etholiad; dim un gair am fethiant trychinebus ei hymdrech i gynyddu ei mwyafrif; dim un gair am y gefnogaeth gref yr oedd wedi ei cheisio ar gyfer y trafodaethau Brexit a oedd i ddod.  Dim un gair.  Dim ‘Dyna ganlyniad siomedig’. Dim ‘Wnaeth hynny ddim gweithio!’ Dim hyd yn oed ‘Sori’.

Beth bynnag a feddyliwn ohoni hi a’i gwleidyddiaeth, gallwn gydymdeimlo â’r Mrs May a gâi drafferth i gydnabod iddi wneud cawl o bethau.  Oherwydd fe ŵyr pawb yn rhy dda fod cydnabod bai ac ymddiheuro ymysg y pethau mwyaf anodd eu gwneud. Mae hyn yn wir am ein bywydau personol ni yn ogystal â bywyd cyhoeddus ein gwleidyddion. Gwadu; cuddio beiau; gwneud esgusodion; cyfiawnhau ein hunain; yn amlach na heb, unrhyw beth ond ymddiheuro a chydnabod bai yw hi, i ni fel i’r rhelyw o bobl.

Dyna pam fod yr edifeirwch y mae’r Efengyl yn ei hawlio yn dramgwydd mor fawr i bobl.  Mae Duw’n galw arnom i gyffesu pob pechod a bai, ac i gydnabod ein  methiant i’w garu â’n holl galon. Mor anodd yw cydnabod ein bod ninnau’n mynd i’r cyfeiriad anghywir, yn gwneud a dweud pethau nad yw Duw’n fodlon arnynt. Ond anodd neu beidio, dyna alwad Duw i ni.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 11 Mehefin, 2017

 


Dydd y Pentecost

Mehefin 4, 2017

FlameThread-e1337452157264

Heb unrhyw amheuaeth, un o ddyddiau pwysicaf yr Eglwys Gristnogol yw’r Sulgwyn a ddathlwn heddiw.  Nid bod hynny’n amlwg chwaith o’r sylw a roddwn i’r diwrnod. O’i gymharu â’r gwyliau eraill a ddathlwn, tipyn o frawd gwan yw’r Sulgwyn o hyd.  Rhown lawer mwy o sylw i’r Nadolig a’r Pasg a’r Diolchgarwch nag a roddwn i’r Pentecost a’i stori ryfedd am yr Ysbryd Glân yn dod yn rymus ar ddisgyblion yr Arglwydd Iesu Grist. A bod yn gwbl onest, mae’n hawdd iawn anghofio’n llwyr amdani. Mi fentraf ddweud na fydd pob eglwys yn dathlu’r ŵyl  heddiw, a hynny am y rheswm syml na fydd pob eglwys (na phob gweinidog) yn sylweddoli ei bod yn Sulgwyn o gwbl.

Y mae i bob un o wyliau’r Eglwys ei harwyddocâd a’i phwysigrwydd ei hun.  Mae’n anodd iawn dweud fod un yn bwysicach na’r llall. Wedi’r cyfan, mae prif wyliau’r Ffydd Gristnogol yn dwyn i gof y digwyddiadau allweddol ym mywyd a gweinidogaeth Iesu Grist.  Ac y mae i bob digwyddiad a gofir ei ran allweddol yn stori fawr ymwneud grasol Duw â ni trwy ei Fab.  Mae’r gwyliau’n gyfle i ni gofio a diolch am eni Iesu, a’i farwolaeth a’i atgyfodiad a’i esgyniad.  Mae’r cyfan ynghlwm wrth ei gilydd, ac nid yw’r stori fawr yn gyflawn heb yr un o’r digwyddiadau unigol hyn.

Ond nid yw’r stori’n gyflawn chwaith heb yr hyn a ddathlwn ar y Pentecost, a heddiw cawn gyfle newydd i gofio ac i ddiolch am yr hyn a ddigwyddodd pan dywalltodd Duw’r Ysbryd Glân ar y disgyblion yn ninas Jerwsalem saith wythnos wedi i’r Iesu atgyfodi.

Mae Llyfr yr Actau yn sôn am sŵn fel gwynt nerthol yn rhuo a thafodau fel o dân yn disgyn ar y disgyblion cyn i’r rheiny ddechrau siarad mewn ieithoedd dieithr. Mae’r cyfan yn llawn cyffro ac yn swnio’n ddieithr iawn i ni. Ond yr un peth y dylid ei gofio o flaen popeth arall yw mai arwyddion yw’r cyfan o ddyfodiad yr Ysbryd i arwain y bobl  hyn yn y gwaith o gyflwyno’r Efengyl i’r byd. Oherwydd, pe na fyddai’r dydd hwn wedi digwydd, a phe na fyddai’r Ysbryd wedi ei roi ni fyddai Eglwys Iesu Grist wedi dechrau’r genhadaeth  a fyddai’n mynd â’r newydd da am Iesu i bob cwr o’r ddaear.

Yn syml iawn, heb y Pentecost, fyddai dim Eglwys ohoni. Fyddai’r Ffydd ddim wedi ei rhannu a fyddech chi a minnau ddim yn gwybod am Iesu. Yn nerth yr Ysbryd Glân y cyhoeddwyd mai yn yr Arglwydd Iesu Grist yr oedd, ac y mae o hyd obaith a bywyd.  Roedd rhaid wrth y Nadolig, ynghyd â’r Groglith a’r Pasg a’r Esgyniad. Heb y rhain, ni fyddai gan yr Eglwys ddim i’w gyhoeddi. Ond roedd rhaid hefyd wrth y Pentecost, oherwydd hebddo a heb yr Ysbryd a ddaeth y diwrnod hwnnw ni fyddai’r Eglwys erioed wedi medru gwneud ei gwaith; ni fyddai’r tyrfaoedd wedi dod i gredu yng Nghrist; a byddai’r Eglwys wedi bod yn dragwyddol fud.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Y Sulgwyn, 04 Mehefin, 2017


Swydd Newydd

Mehefin 3, 2017

Mae Cynllun Efe ar y cyd ag Eglwys Caersalem, Caernarfon a ‘Chwaraeon Scripture Union Cymru’ yn hysbysebu’r swydd newydd lawn amser hon.

hysbyseb swydd (2)


O’r galon

Mai 28, 2017

getimage

Dydi Manceinion ddim yn bell oddi wrthym yn y rhan hon o Wynedd.  Ond rywsut, nos Lun diwethaf roedd hi’n nes o lawer.  Fwy na thebyg bod rhai ohonoch wedi bod mewn cyngerdd neu ddigwyddiad arall yn yr union Arena y lladdwyd 22 o bobl a phlant ac yr anafwyd degau’n ddifrifol gan yr hunan fomiwr ar ddiwedd y cyngerdd nos Lun.  Mae’n bosibl iawn fod rhai ohonoch yn adnabod rhywun a oedd yno, neu hyd yn oed eich bod chi eich hun yno.  Pan fo’r erchyllterau hyn yn digwydd o fewn tafliad carreg i ni mae’n naturiol ein bod yn dychryn fwy fyth.  Gweddïwn dros y teuluoedd a gollodd anwyliaid; gweddïwn dros y bobl a’r plant sy’n dal mewn ysbyty, a’u teuluoedd hwythau; a gweddïwn dros bawb a anafwyd a phawb sydd wedi eu hysgwyd a’u dychryn gan yr ymosodiad mileinig diweddaraf hwn.

Nid oes unrhyw gyfiawnhad dros yr hyn a ddigwyddodd y noson o’r blaen.  Mi fyddai pawb a oedd yn yr Arena yn dweud hynny, ac mae pawb ohonom ninnau’n sicr yn cytuno. Ac mae’n sicr fod y gwleidyddion sydd yng nghanol eu hymgyrchu etholiadol yn cytuno nad oes modd cyfiawnhau ymosodiadau annynol sy’n niweidio a lladd plant a phobl ifanc ac oedolion cwbl ddiniwed.  Pa blaid bynnag maen nhw’n perthyn iddi, maen nhw  i gyd yn condemnio’r lladd ac yn datgan nad oes gyfiawnhad drosto. Mae hynny’n wir am Michael Fallon, Ysgrifennydd Amddiffyn  Llywodraeth San Steffan ac am Jeremy Corbyn, Arweinydd y Blaid Lafur, fel ei gilydd; a thros y dyddiau diwethaf clywyd y ddau hyn a llu o wleidyddion eraill yn gwneud yr union beth yna.

Ond nid dyna mae Michael Fallon am i chi gredu.  Wedi condemnio’r lladd, awgrymodd Jeremy Corbyn na ellir anwybyddu’r cysylltiad posibl rhwng y ‘Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth’ mewn gwledydd fel Irac a Lybia a Syria a’r ymosodiadau terfysgol yng ngwledydd y Gorllewin ac yma ym Mhrydain.  Ac awgrymodd hefyd nad yw’r ‘Rhyfel’ hwnnw yn gweithio a bod rhaid wrth ffyrdd newydd o ddelio â’r derfysgaeth sy’n bygwth ein byd. Nid oedd Corbyn yn awgrymu am eiliad fod esgus dros y lladd nos Lun; nid oedd yn awgrymu chwaith mai ar unrhyw beth a wnaeth unrhyw lywodraeth yr oedd y bai, ond ar y dyn a gariodd y bom ac unrhyw un a fu o bosibl yn ei helpu.

Pechod yw problem fwyaf y byd, ac mae’r pechod hwnnw ynom i gyd. ‘O’r galon’ meddai Iesu ‘y daw cynllunio drygionus, llofruddio’ a phob math o bethau drwg eraill. Rydym yn pechu, meddai, am fod ein calonnau’n ddrwg.  Ond mae amgylchiadau a phob math o ddigwyddiadau’n tanio’r pechodau neilltuol y bydd pobl yn eu gwneud.  Mae pob math o bethau hefyd, yn   cynnwys y cyfiawnder a’r daioni a geir mewn cymdeithas, yn atalfa ar bobl rhag gwneud drygioni. Mae Corbyn yn deall hynny ac yn cydnabod nad yw drygioni’n digwydd mewn gwagle. Ac yn gyfan gwbl annheg, mae’n cael ei gondemnio am dynnu sylw at y peth.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 28 Mai, 2017


Dileu’r athrawiaeth?

Mai 21, 2017

image1

Pe na fyddwn yn gwybod yn well, gallwn feddwl fod papurau tabloid Llundain yn fwy cyfarwydd â neges y Beibl nag ydym ni aelodau eglwysig.

Yn dilyn marwolaeth y llofrudd Ian Brady ddechrau’r wythnos roedd mwy nag un o benawdau’r papurau hynny’n udo am ei weld yn pydru neu’n llosgi yn uffern. Un peth na ellir ei wadu yw bod rhai o’r papurau hyn yn cael llai o drafferth na’r rhelyw o’n heglwysi i sôn am uffern.

O weld cyn lleied o sylw a roddir i’r lle hwnnw gan y rhan fwyaf o eglwysi, hawdd iawn y gall pobl gael yr argraff nad oes gan  y Ffydd Gristnogol na’r Beibl ddim i’w ddweud amdano. Ond y gwir yw bod gan y Beibl, a bod gan yr Arglwydd Iesu Grist ei hun, lawer i’w ddweud am uffern a cholledigaeth.

O bosibl mai un o’r pethau annisgwyl a mwyaf syfrdanol am ddysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu Grist yw bod ganddo mewn gwirionedd fwy i’w ddweud am uffern nag am y nefoedd.  Ond go brin y byddai neb yn deall hynny o weld mor anfynych y ceir unrhyw gyfeiriad at uffern ymhlith Cristnogion nac yn eu pregethu a’u dysgeidiaeth.

Mae sawl rheswm dros fudandod yr Eglwys ynghylch uffern heddiw. Mae llawer o’i mewn yn gwrthod credu fod y fath beth neu’r fath le’n bod.  Mae gan eraill gywilydd o’r ddysgeidiaeth.  Mae eraill yn credu’r hyn a ddywed y Beibl ond yn cadw’n dawel am nad oes ganddynt yr hyder i gyhoeddi nac i drafod rhywbeth mor ddychrynllyd ac mor ddifrifol. Heb os, mae’r dirmyg a anelwyd at bregethwyr tân a brwmstan y gorffennol yn rhan o’r rheswm dros amharodrwydd llawer ohonom i ddweud dim am y pethau hyn heddiw.

Am wahanol resymau, byddai llawer o Gristnogion yn cydymdeimlo â’r hyn a ddywed y diwinydd C.S. Lewis am uffern: ‘Nid oes yr un athrawiaeth y byddwn yn fwy parod i’w dileu o’r Ffydd Gristnogol na hon, pe bai’r gallu gennyf i wneud hynny. Ond y mae iddi gefnogaeth lawn yr Ysgrythur, ac yn arbennig felly eiriau ein Harglwydd ei hun. Mae Gwledydd Cred wedi ei harddel erioed; ac mae rheswm o’i phlaid’ (allan o The Problem of Pain).

Ni allai C.S. Lewis ddileu uffern o’r ddysgeidiaeth Gristnogol; ac ni allwn ninnau.  Wrth feddwl am ei chyhoeddi, mae dau gwestiwn, o gael yr atebion  cywir iddynt, a allai fod o gymorth mawr. Beth i’w ddweud? A sut i’w ddweud? Beth?  Mai uffern a fyddai tynged pob pechadur oni bai am waith achubol Iesu Grist ar Galfaria. Sut? Nid trwy fygwth; nid trwy ddychryn. Ond trwy apelio ar bobl i ffoi at Iesu Grist; trwy bwyso ar bobl i gydio yn yr addewid o’r bywyd tragwyddol a’r nefoedd i bawb sy’n credu ynddo; a thrwy gyhoeddi uwchlaw popeth bod cariad Duw tuag atom ni bechaduriaid yn golygu ‘nad yw’n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch’ (2 Pedr:3:9).

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 21 Mai, 2017

 

 


Gweithredu ffydd

Mai 14, 2017

_85757180_85757179

‘Adluniad Cristnogol yn Ewrop’ oedd yr enw gwreiddiol yn 1945 ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Dair blynedd yn ddiweddarach, yn 1948, wedi iddo ddod yn rhan o waith Cyngor Eglwysi Prydain cafodd enw newydd, ‘Adran Gwasanaeth  Cymorth a Ffoaduriaid Rhyngeglwysig’.

Yn 1957, trefnodd yr ‘Adran’ wythnos gyfan i godi arian dan yr enw ‘Wythnos Cymorth Cristnogol’.  Daeth yr wythnos honno yn ‘ddigwyddiad’ blynyddol wedi hynny.  Eleni, felly, mae Wythnos Cymorth Cristnogol yn drigain oed.

Wedi’r Wythnos gyntaf honno, byddai saith mlynedd arall yn mynd heibio cyn i’r ‘Adran’ newid ei enw yn swyddogol i ‘Cymorth Cristnogol’ yn 1964.

A hithau felly yn drigain mlynedd ers y cynhaliwyd yr Wythnos hon gyntaf nid rhyfedd bod yr elusen yn ein hatgoffa mai rhan ganolog o’i gweledigaeth wreiddiol oedd y dymuniad i estyn cymorth i ffoaduriaid ar ddiwedd y Rhyfel.  Mae’n naturiol i fudiadau o bob math edrych yn ôl wrth gyrraedd cerrig milltir arbennig yn eu hanes.

Ond tristwch pethau yw bod angen cynyddol heddiw am gymorth tebyg.  Am flynyddoedd, tueddwyd i uniaethu Cymorth Cristnogol a’i waith gyda chymorth i’r tlawd a’r newynog, ac yn arbennig felly bobl a fyddai’n dioddef oherwydd trychinebau fel sychder, daeargrynfeydd, llifogydd neu hyd yn oed ryfeloedd.  Ond y blynyddoedd diwethaf, daeth dioddefaint miloedd ar filoedd o ffoaduriaid yn graith hyll ar ddynoliaeth.  Mae Cymorth Cristnogol yn un o’r mudiadau sy’n estyn cymorth ymarferol heddiw i bobl sydd ar ffo o’u cartrefi mewn gwledydd fel Syria, Afghanistan a Swdan.

Un person sy’n deall yn union beth yw gwerth y cymorth hwn yw Theodor Davidovic a orfodwyd i ffoi o’i wlad enedigol yn Serbia yn ystod y brwydro mewnol a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd.  Treuliodd ddwy flynedd a hanner mewn gwersyll ffoaduriaid.  Mae’n cofio’r parseli bwyd a anfonwyd i’r gwersylloedd hynny gan Gristnogion o wledydd eraill, ac oherwydd hynny ers dod i fyw yng ngwledydd Prydain mae wedi casglu arian yn enw Cymorth Cristnogol yn ystod yr Wythnos hon.

Mae’n ein herio fel Cristnogion nid yn unig i ganu emynau a gweddïo ond i ‘weithredu ein ffydd’ trwy estyn help i rywun sydd angen ein help. Mae’r apêl honno mor berthnasol ac mor bwysig heddiw ag erioed.  Yn enw Iesu Grist, braint fawr yr Eglwys a braint pob unigolyn o Gristion yw estyn cymorth a gweithredu’r cariad sydd wrth wraidd y Ffydd.

Y ffaith iddo brofi cymorth a barodd i Theodor Davidovic estyn cymorth i eraill.  Ac onid y ffaith ein bod ni wedi cael ein caru gan Dduw sy’n ennyn cariad ynom ninnau at eraill?

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 14 Mai, 2017