Y Sulgwyn

Mehefin 8, 2019

Actau 2

Dyfodiad yr Ysbryd Glân

1Ar ddydd cyflawni cyfnod y Pentecost yr oeddent oll ynghyd yn yr un lle, 2ac yn sydyn fe ddaeth o’r nef sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle’r oeddent yn eistedd. 3Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt; 4a llanwyd hwy oll â’r Ysbryd Glân, a dechreusant lefaru â thafodau dieithr, fel yr oedd yr Ysbryd yn rhoi lleferydd iddynt.

Advertisements

Dydd Iau

Mehefin 2, 2019

Mae’n ddydd Iau. Wir i chi. Beth bynnag a ddywed y calendr ar y wal a’r dyddiadur yn eich poced ac ar sgrin eich ffôn, dydd Iau yw hi arnaf yn sgwennu’r geiriau hyn.  Dydd Iau, Mai 29, neu yng Nghalendr yr Eglwys Gristnogol eleni, Dydd Iau Dyrchafael.

Byr iawn yw’r adroddiadau am ‘y dydd y cymerwyd ef i fyny’ (Actau 1:2); y dydd yr esgynnodd Iesu i’r nefoedd ddeugain niwrnod wedi iddo atgyfodi. Dim ond ychydig adnodau ar ddiwedd Efengyl Luc a dechrau Llyfr yr Actau, ac un adnod ar ddiwedd Efengyl Marc, sy’n cofnodi’r digwyddiad. Ond mae’r ychydig yn ddigon. Mae’r manylion yn fwriadol yn brin, rhag i ni o bosibl golli golwg ar y digwyddiad ei hun. Yr hyn a adroddir, ac yn amlwg yr hyn y mae gofyn i ni ei ddeall, yw bod Iesu Grist, a oedd y diwrnod hwnnw yng nghwmni ei ddisgyblion, wedi ei gymryd oddi wrthynt trwy gael ei godi oddi ar y ddaear cyn diflannu o’u golwg mewn cwmwl.

Ar un wedd, yr oedd esgyniad Iesu yn ddiweddglo: diwedd cyfnod a diwedd profiad. Bu’r disgyblion gydag ef gydol ei weinidogaeth. Gwelsant ei wyrthiau a chlywsant ei bregethau. Cawsant eu dysgu ganddo a mwynhau ei gwmni. Ac er ei gymryd oddi wrthynt a’i ladd ar groes, daeth Iesu’n ôl yn fyw, a gwelsant ef fwy nag unwaith yn ystod y deugain niwrnod ers ei atgyfodiad. Ond gyda’i esgyniad daw ei gyfnod ar y ddaear, ac felly ei bresenoldeb gyda’i ddisgyblion, i ben. Mae wedi mynd; mae wedi eu gadael. Ond yn annisgwyl ac yn syfrdanol, er iddynt ddeall hynny mae’r disgyblion yn llawen.  Maent yn addoli a llawenhau wedi i ddau ddyn mewn dillad gwyn ddod atynt a dweud bod Iesu wedi mynd i’r nefoedd ac y byddai’n ‘dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i’r nef’ (1:11).

Yn eu llawenydd tybed a gofient y geiriau hyn a ddywedodd Iesu cyn hynny? ‘Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a’ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle’r wyf fi.’

Y gobaith mawr a rydd esgyniad Iesu  Grist yw ei fod wedi mynd i baratoi lle yn y nefoedd ar gyfer ei ddilynwyr. Cyflawniad llawn y gobaith hwn fydd y dydd y daw Iesu (yn ôl a ddywedodd ef ei hun a’r angylion) i gymryd pawb sydd wedi credu ynddo ato’i hun. Yn ei ailddyfodiad, bydd y credinwyr a fu farw ac sydd eisoes yn y nefoedd a’r credinwyr a fydd yn dal yn fyw, yn cael eu cymryd i’r lle a baratowyd ar eu cyfer gan Iesu Grist. Yr addewid sicr hon sy’n gwared Cristnogion rhag  anobeithio’n llwyr yn wyneb angau. Oherwydd gallwn ninnau gredu mai mynd i’r lle a baratowyd ar eu cyfer yr ydym ni a phawb o’n hanwyliaid sydd wedi credu yng Nghrist. Mynd adref i’r nef a wnaeth Iesu; a mynd adref hefyd a wnaiff pawb sydd yn ‘marw yn yr Arglwydd’.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 02 Mehefin, 2019


Rheoli’r tafod

Mai 26, 2019

Y siom i mi oedd na chaed gan Mrs May gân wedi’r cyhoeddiad, a minnau wedi tybio bod David Cameron wedi gosod cynsail i’w olynwyr wedi iddo ganu nodyn neu ddau’n galonnog wrth gamu trwy ddrws 10 Stryd Downing ar ei ymddiswyddiad dair blynedd yn ôl.

Fe dalwyd teyrngedau ddydd Gwener i Theresa May wedi iddi gyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd ar Fehefin 7fed.  Druan ohoni, nid yn unig yn cael ei gwthio o’r neilltu gan ei phlaid ei hun ond yn cael y fraint o aros yn ei swydd ddigon hir i orfod croesawu’r Arlywydd Trump ddechrau’r wythnos olaf wrth y llyw. Halen ar y briw fydd hynny! 

Ond nôl at y teyrngedau.  Cymaint o ganmol, cymaint o edmygedd, cymaint o bethau da’n cael eu dweud am Mrs May.  Ymhlith y mwyaf brwd eu clod yr oedd rhai a fu’n rhannol, os nad yn bennaf cyfrifol am ei chwymp: rhai a ymddiswyddodd o’i Llywodraeth; rhai a wrthododd gefnogi ei Chynllun; rhai a fu’n cynllwynio’r llynedd i’w disodli; rhai a fu’n llafar eu beirniadaeth ers misoedd.  Mor rhwydd yw beirniadu; ond mor rhwydd hefyd yw gwenieithu, a rhagrithio os oes rhaid. Mae mwy nag un o gyfeillion tybiedig Prif Weinidog San Steffan yn feistri ar y grefft.

Ac mor rhwydd i ninnau ymosod yn eiriol ar eraill; a’r geiriau’n niweidio a chlwyfo a lladd. Yn y Beibl, mae Llythyr Iago’n sôn am y drwg yn      ogystal â’r da y medrwn ei wneud â’n geiriau. ’Y mae’r hil ddynol yn gallu rheoli pob math o anifeiliaid ac adar, o ymlusgiaid a physgod; yn wir, y mae wedi eu rheoli. Ond nid oes neb sy’n gallu rheoli’r tafod. Drwg diorffwys yw, yn llawn o wenwyn marwol. Â’r tafod yr ydym yn bendithio’r Arglwydd a’r Tad; â’r tafod hefyd yr ydym yn melltithio’r rhai a luniwyd ar ddelw Duw. O’r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod’ (Iago 3:7-10). Gallwn ganmol a bod yn garedig un funud a sarhau a lladd ar bobl y funud nesaf. Gall geiriau wneud drwg mawr; mwy o ddrwg nag a feddyliwn ni’n aml. Ac fel y dywed Iago, ‘Nid felly y mae pethau i fod’.

Ydi, mae Iago’n siarsio’i ddarllenwyr i ymdrechu i reoli’r tafod am fod eu geiriau’n medru brifo ac achosi pob math o ddrwg.  Mae Iago yn cychwyn efo’n geiriau, ac yn meddwl am yr hyn sy’n deillio ohonynt. Ond mae Iesu Grist fel petai’n cymryd cam yn ôl o’r fan honno. Nid cychwyn efo’n geiriau a wna Iesu, ond efo’n calonnau.  Mae’n ein siarsio i fod yn ofalus o’r hyn a ddywedwn am fod geiriau, fel gweithredodd, yn datgelu’r galon. ‘Y mae’r pethau sy’n dod allan o’r genau yn dod o’r galon, a dyna’r pethau sy’n halogi rhywun. Oherwydd o’r galon y daw cynllunio drygionus, llofruddio, godinebu, puteinio, lladrata, camdystiolaethu, a chablu’ (Mathew 15:18-19). Nid y geg, medd Iesu, yw gwreiddyn y drwg, ond y galon. Er mwyn rheoli fy nhafod, mae’n rhaid trin fy nghalon.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Mai, 2019


Yn y ras

Mai 19, 2019

Tua’r adeg hon o’r flwyddyn yr arferid cynnal y Diwrnod Chwaraeon yn Ysgol Brynrefail.  Wyddwn i ddim ar y pryd, ond mi ddaeth yr uchafbwynt i mi yn fy mlwyddyn gyntaf pan enillais naid hir y lower juniors.   Roedd y naid o 13 troedfedd 8½ modfedd yn ‘record’ ar y pryd! Ar i wared aeth pethau wedyn, gan gychwyn yn Chwaraeon y Sir yr haf hwnnw pan ddeallais fod hogia bach ysgolion eraill Sir Gaernarfon yn neidio o leiaf droedfedd ymhellach na hynny!

Ar gae Nantporth, sef cae pêl droed Bangor erbyn hyn, yr oedd Chwaraeon y Sir bryd hynny. Os cofiaf yn iawn, fûm i ddim yno am ddwy neu dair blynedd wedi hynny, nes dyfod dydd y ‘ras fawr’, yr 800 medr i fechgyn ‘oed canol’. Roedd 800 medr (ynteu 880 llath oedd o tybed?) bron i dair gwaith o amgylch y trac ac yn fwy na digon pell i bawb arall fy ngadael ar ôl. Ac felly, er mwyn osgoi’r fath embaras, mi benderfynais redeg mor gyflym ag y gallwn o’r cychwyn cyntaf rhag bod ymhell ar ei hôl hi cyn gorffen y lap gyntaf. Er syndod mawr, roeddwn ar y blaen ar ddiwedd y lap gyntaf a’r ail, a dal ar y blaen lai na chanllath o’r llinell derfyn. Wn i ddim beth ddigwyddodd nesaf, ai cyffroi gormod, diffygio’n lân ynteu dim ond baglu, ond ar fy hyd ar lawr yr oeddwn wrth i bawb redeg heibio i mi. Diwedd ras a diwedd gyrfa.

Ond daeth ras arall, nid ar drac ond (yng ngeiriau’r emynydd J T Job) ar ’yrfa bywyd yn y byd’.  A blynyddoedd yn ddiweddarach mae’r ras honno’n parhau i mi. Rwyf wedi baglu fwy nag unwaith yn y ras hon hefyd, ond trwy nerth Duw rwy’n dal ynddi ac yn cofio geiriau’r Llythyr at yr Hebreaid: ‘Gan fod cymaint torf o dystion o’n cwmpas, gadewch i ninnau fwrw ymaith bob rhwystr, a’r pechod sy’n ein maglu mor rhwydd, a rhedeg yr yrfa sydd o’n blaen heb ddiffygio, gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd’ (12:1-2). Mae’r geiriau hyn yn f’atgoffa o’r angen i roi heibio’r pethau sy’n fy rhwystro rhag byw i Grist, yn arbennig y pechodau amlwg yr wyf yn dueddol o’u cyflawni. Maent hefyd yn dangos yr angen i gadw fy ngolwg bob dydd ar Iesu Grist sy’n rhoi nerth a gras a ffydd i ddal ati i’w ddilyn ac i’w anrhydeddu â’m bywyd.

Mwyaf yn y byd yr arhosaf yn y ras, mwyaf ymwybodol wyf o’r ffaith fy mod yn diffygio a baglu os nad yw fy ngolwg ar Iesu Grist. Mae’r adnod yn f’annog i edrych ar Iesu ac i ddibynnu arno, yr un sy’n rhoi ffydd i mi a’r un sy’n cryfhau ac yn perffeithio’r ffydd honno. Ond nid yr adnod yn unig chwaith, gan fod yna hefyd ‘dorf o dystion’ sydd yn f’annog i ddal ati heb ddiffygio. Y dorf honno yw’r bobl a ddilynodd Grist o’m blaen. Yn eu plith y mae’r credinwyr y ceir eu hanes yn Y Beibl a Christnogion yr oesoedd â’u ffydd a’u cred. Yn eu plith hefyd y mae’r bobl dduwiol y cefais i’r fraint o’u hadnabod dros y blynyddoedd. Trwy ffydd, fe’u clywaf hwythau’n fy sicrhau o werth dal i redeg yr yrfa hon.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Mai, 2019


Prydain Fach

Mai 12, 2019

‘Gwlad fechan iawn mewn byd mawr ydi Prydain.’  Wedi deg o’r gloch neithiwr y clywais hynny ar y radio. (Oedd, roedd hi mor hwyr â hynny arnaf yn meddwl am rywbeth i’w ddweud yn Gronyn heddiw!) Yn y Saesneg gwreiddiol, y geiriau oedd, ‘Britain is a tiny country in a big world’.  Ie, ‘a tiny country’.

A phwy feddyliech ddywedodd y fath beth? Rhywun o ben draw’r byd? Rhywun o un o’r gwledydd ‘mawr’? Rhywun sy’n wrthwynebus i’r holl syniad o Brydeindod?  Y syndod mawr oedd mai cynrychiolydd UKIP, Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig, a ddywedodd y geiriau.  Dyma’r blaid sydd dros y blynyddoedd wedi clodfori a dyrchafu ‘Prydain Fawr’ fel un o wledydd cyfoethocaf y byd; y blaid sy’n mynnu bod Prydain yn ddigon cryf a phwerus i ffynnu ac i arwain gweddill y byd. Sawl gwaith y clywyd cynrychiolwyr y blaid hon yn bytheirio yn erbyn unrhyw un a oedd yn eu tyb hwy’n bychanu Prydain ac yn siarad yn ddifrïol amdani? Ond neithiwr, i un o gynrychiolwyr UKIP, nid oedd y  Brydain hon ond gwlad fechan wan; ‘a tiny country’, a dim mwy.

A beth feddyliech a barodd i ddyn UKIP o bawb ddweud y fath beth?   Yn syml iawn, Newid Hinsawdd. Ymateb i gwestiwn ynghylch yr hyn y gall   Prydain ei wneud er mwyn ymateb i’r argyfwng Newid Hinsawdd oedd o.  Roedd o fwy neu lai’n dweud na all Prydain wneud dim o gwbl am nad yw ond gwlad fach iawn.  Beth all un tiny country wan ei wneud?

Gwn fod cyd-destun penodol i’r hyn a ddywedodd y dyn hwn neithiwr. Ond os yw Prydain mor bwerus ag y mae UKIP yn honni, oni fedr ddylanwadu ar wledydd mwy na hi ei hun mewn meysydd fel Newid Hinsawdd?

Ond anghofiwch y wleidyddiaeth y tu cefn i’r geiriau.  Ac anghofiwch UKIP.  Sylwch yn hytrach mor rhwydd yw dweud pethau gwahanol pan yw’n ein siwtio i wneud hynny. Gweniaith; rhagrith; hanner stori; celu’r gwir neu hyd yn oed gelwydd noeth: mor rhwydd y daw’r pethau hyn i’n baglu wrth i ninnau ddweud beth bynnag sy’n ein siwtio ar wahanol adegau ac mewn gwahanol amgylchiadau.

Yr un na ellid ei gyhuddo o’r un o’r pethau hyn yw’r Arglwydd Iesu Grist. Mynnai ef gyhoeddi’r gwir ym mhob sefyllfa ac wrth bwy bynnag yr oedd yn eu cyfarch. Ni newidiai ei neges, ac nid ataliai rhag dweud pethau pan wyddai na fyddai croeso i’w eiriau. Mynnai ddweud y gwir wrth bawb, beth bynnag a olygai hynny iddo ef ei hun.  Bod yn debyg i Iesu yw’r nod i ninnau os ydym yn credu ynddo. Ac un ffordd o fod yn debyg iddo yw ymatal rhag dweud pethau dim ond am ei bod yn ein siwtio ni i’w dweud: ymatal rhag dweud llai na’r gwir er mwyn cael yr hyn a dybiwn ni sy’n fywyd rhwydd a didrafferth.  I fod felly, mae arnom angen gras a nerth Duw.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 12 Mai, 2019


Cyfrinair

Mai 5, 2019

Mi ges i drafferth tanio’r cyfrifiadur heno. Doedd dim byd yn bod arno. Ond fedrwn i yn fy myw â datgloi’r sgrin agoriadol. Doedd y peiriant ddim yn derbyn y cyfrinair yr oeddwn yn ei deipio’n ofalus.  Mi rois ail a thrydydd cynnig arni, a mwy  na hynny eto, gan ofalu nad oeddwn yn camdeipio’r un llythyren. Ond yr un oedd y stori bob tro: ‘cyfrinair anghywir’ – a minnau’n gwybod yn iawn ei fod yn gywir! Yn gam neu gymwys, yr un cyfrinair sydd ar waith ers talwm: mae’n haws felly gan fod pawb yn ei dro’n mynd at y cyfrifiadur hwn.

Mi ddechreuais amau fy hun; a dechrau meddwl mod i’n defnyddio’r cyfrinair anghywir. Ond fedrwn i ddim meddwl beth allai’r un cywir fod. Felly, doedd dim i’w wneud ond galw am help. “Aled! Be di cyfrinair y peiriant ’ma?”

Wedi cael yr ateb, mi sylweddolais fy mod wedi ceisio datgloi’r sgrin gyda chyfrinair fy negeseuon e-bost. Rwy’n defnyddio’r ddau sawl gwaith y dydd, bob dydd ers blynyddoedd. Ond am ryw reswm heno, mi oedd y cyfrinair cyntaf wedi mynd yn gwbl angof. 

Mae’n debyg fy mod yn defnyddio’r cyfrinair heb feddwl amdano gan mor gyfarwydd ydyw. Ond unwaith yr oedd rhaid meddwl, roeddwn ar goll ac yn methu’n glir â’i gofio. Fedrwn ni fod mor gyfarwydd â phethau eraill fel ein bod yn eu gwneud hwy hefyd bron yn ddifeddwl?  Sawl gwaith, wrth adael y tŷ, y bu raid i chi droi nôl er mwyn gwneud yn siŵr eich bod wedi cloi’r drws am nad oedd gennych gof o wneud hynny?  Sawl gwaith, wrth deithio mewn car, yr aethoch drwy ddau bentref neu dri heb gofio i chi wneud hynny? 

Mor gyfarwydd ydym hefyd â chadw oedfa fel bod modd gwneud hynny hefyd yn ddifeddwl ar brydiau. Bron nad oes raid i ni feddwl o gwbl am yr hyn a wnawn gan ein bod wedi hen arfer â dod ynghyd i oedfa. Ond beth yn union a wnawn? Dod i’r capel? Cefnogi’r gwaith? Cynnal traddodiad? Gwarchod treftadaeth? Gwrando ar bregeth?  

Yng nghanol y cyfan, a oes perygl i ni anghofio’r prif ddiben?  Oes posib i ni golli golwg ar y ffaith mai addoli Duw sydd wraidd y cyfan a wnawn yn ei hoedfaon? Un o’r peryglon mwyaf sy’n wynebu pob cynulleidfa o bobl Dduw yw’r posibilrwydd o fynd trwy’r mosiwns: canu emynau, darllen y Gair, dweud gweddïau, traddodi a gwrando pregethau, ond gwneud y cyfan rywsut yn beirianyddol. Gwneud o arferiad heb wir feddwl beth a wnawn na pham y gwnawn y cyfan.

Arhoswn. Ystyriwn. A gweddïwn am y gras i addoli Duw trwy’r cyfan a wnawn yn ein hoedfaon, heddiw a phob amser. Ond nid yn unig yn ein hoedfaon chwaith.  Gweddïwn am nerth a gras i ogoneddu Duw ym mhopeth a wnawn bob dydd.  Dyna, wedi’r cyfan, holl bwrpas ein bod.    

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 05 Mai, 2019


Sul Quasimodo

Ebrill 27, 2019

Dau neu dri enw sydd gan y mwyafrif ohonom.  Mae gan eraill bedwar, ac ambell un fwy na hynny.  Mae gan y Sul cyntaf wedi’r Pasg fwy o enwau nag a feddyliais i. Glywsoch chi alw’r diwrnod hwn yn Wython y Pasg neu Ddydd Octaf y Pasg; Pasg Bach neu Basg Bychan; Pasg Gwyn; Sul Thomas; Sul Adnewyddiad; neu hyd yn oed Sul Quasimodo? Defnyddir y gwahanol enwau gan wahanol draddodiadau’r Eglwys Gristnogol, megis yr Eglwys Babyddol neu Eglwys Uniongred y Dwyrain. Ond o fewn y traddodiad Protestannaidd y perthynwn ni iddo, ac yn arbennig draddodiad anghydffurfiol ein capeli, mae’r cyfan yn ddieithr. 

Yr unig un o’r enwau hyn a ddeallaf yn ddidrafferth yw ‘Sul Thomas’ gan mai cyfeiriad ydyw at Thomas yn gweld Iesu wythnos wedi atgyfodiad Iesu (Ioan 20:24–29). Am ryw reswm, doedd Thomas ddim efo’r disgyblion eraill pan ddaeth Iesu atynt nos Sul y Pasg; a phan ddywedwyd wrtho eu bod wedi ei weld, gwrthododd Thomas â chredu. Mynnodd na fyddai’n credu fod Iesu’n fyw os na chai weld ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a hyd yn oed roi ei fys yn yr olion hynny.  Ymhen yr wythnos, felly, daeth Iesu atynt eto, a’r tro hwn roedd Thomas yno hefyd.  Ac er i Iesu ei wahodd i roi ei fys yn ôl yr hoelion ni ddywedir ei fod wedi gwneud hynny. Roedd gweld Iesu’n ddigon i Thomas gredu ei fod yn fyw.  Un o’r pethau mwyaf cofiadwy o’r hanes hwn am yr amheuwr Thomas yw geiriau Iesu Grist, ‘Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu?Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld’ (adnod 29). Wrth ddweud hyn, roedd Iesu’n cyfeirio at y miliynau o bobl dros  y canrifoedd a ddeuai i gredu ynddo er na fyddent yn ei weld â’u llygaid naturiol. Ond trwy ras Duw, byddent yn ei weld trwy ffydd ac yn credu’r hyn a ddywed Y Beibl am ei fywyd, ei farwolaeth, ei atgyfodiad, ei esgyniad a’i ailddyfodiad. 

Ond beth am yr enwau eraill? Un peth a ddangosant yw bod dathliadau’r Pasg, i rai traddodiadau eglwysig, yn para mwy nag un dydd. ‘Wython (neu Octaf) y Pasg’ yw’r wyth niwrnod o Sul y Pasg hyd y Sul canlynol; a ‘Dydd Octaf y Pasg’ yw’r Sul hwnnw, y Sul wedi’r Pasg. Mae rhai traddodiadau ac eglwysi Cristnogol yn dathlu’r Pasg dros wythnos gyfan. Sul y Pasg yw dydd atgyfodiad Iesu wrth gwrs, ond rhoddwyd yr enw ‘Pasg Bach’ i’r Sul dilynol sy’n cloi’r dathliadau.

Ond ‘Sul Quasimodo’? Geiriau cyntaf gweddi agoriadol gwasanaeth Lladin ar gyfer y Sul hwn oedd: ‘Quasi modo geniti infantes’ (‘Fel babanod newydd eu geni’, 1 Pedr 2:2). Ystyr ‘quasi modo’ felly yw ‘fel’ neu ‘mewn modd tebyg’. Roedd ‘Sul Quasimodo’ yn bod cyn y cymeriad ffuglennol o’r un enw yn nofel Victor Hugo am y Dyn Crwbi o Notre Dame.  Yn y nofel, dywedir i’r enw gael ei roi iddo un ai am iddo gael ei ganfod ar y Sul arbennig hwn, neu am ei fod ‘fel’ neu ‘bron â bod’ yn ddyn.    

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 28 Ebrill, 2019