Eglwys Annibynnol
Bethlehem, Talybont
Gweinidog:
Y Parchg John Pritchard
Cilfynydd, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd LL55 4HB
Ffôn: 01286 872390
E-bost: john.cilfynydd@btinternet.com
Oedfaon y Sul
Ysgol Sul am 10.00 o’r gloch
Oedfa am 2.00 o’r gloch
Gweler y manylion ar dudalen ‘Cyhoeddiadau’ y wefan hon
Oedfa Sefydlu
Cynhaliwyd Oedfa Sefydlu’r Parchg John Pritchard yn weinidog yr Arglwydd Iesu Grist i eglwysi Bethlehem, Talybont a Charmel, Llanllechid yng nghapel Carmel, Llanllechid nos Sul, Mawrth 22, 2015.
Cafwyd oedfa fendithiol iawn. Cyn-weinidog Carmel a Bethlehem, y Parchg Geraint Hughes, oedd yn llywyddu’r oedfa ac yn arwain defod y Sefydlu, a chyfeiriodd at y ffaith anarferol mai’r Parchg John Pritchard oedd wedi gwneud y gwaith hwnnw pan gafodd ef ei sefydlu’n weinidog i’r ddwy eglwys ynghyd ag eglwys Jerusalem, Bethesda ar ddechrau ei weinidogaeth yn Nyffryn Ogwen. Go brin fod peth felly’n ddigwyddiad cyffredin iawn.
Diolch i bawb a gymerodd ran yn y gwasanaeth, ac yn arbennig i’r Parchg Euros Wyn Jones, Llangefni am y neges rymus yn ei bregeth a oedd yn seiliedig ar Eseia 52:7. Soniodd am darddiad a chynnwys ac effaith y neges fawr y mae negesydd Duw yn ei chyhoeddi. Fe’n hatgoffwyd mai Duw sy’n teyrnasu a bod gennym Efengyl ogoneddus i’w chyhoeddi i’r byd.
Un peth anarferol arall am yr oedfa oedd cyflwyno i’r Gweinidog newydd ffon gerdded a fu’n eiddo i Edward Stephen, neu Tanymarian, a fu’n weinidog yn Llanllechid yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ers hynny, mae’r ffon wedi ei rhoi yng ngofal pob un o weinidogion Carmel yn eu tro, ac mae’n siwr ei bod wedi atgoffa pob un ohonynt o’r ffaith eu bod yn rhan o waith Teyrnas Dduw sy’n para o oes i oes.
Wedi’r oedfa, cafwyd croeso arbennig a lluniaeth yn y festri. Roedd yn braf iawn cael sgwrs wrth y byrddau bwyd. Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n paratoi’r lluniaeth ac yn ei weini.
Edrychwn ymlaen at gydweithio yng ngwaith yr Arglwydd yn yr eglwysi ac yn yr Ofalaeth.
‘Bwrlwm’
Cynhelir ‘Bwrlwm’ yn festri Bethlehem rhwng 2.00 a 3.45 o’r gloch bob yn ail ddydd Iau. Mae’n gyfle i aelodau a chyfeillion yr eglwys gyfarfod am sgwrs a phaned. Mae croeso cynnes i chi alw heibio unrhyw dro.