Capel Coch, Llanberis
Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Côd Post: LL55 4SN
Gweinidog:
Y Parchg John Pritchard
Cilfynydd, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd LL55 4HB
Ffôn: 01286 872390
E-bost: john.cilfynydd@btinternet.com
Oedfaon y Sul
Oedfaon arferol:
Bore: 10.00 o’r gloch
https://wordpress.com/page/gronyn.wordpress.com/10
Yr Ysgol Sul:
11.15 o’r gloch ar fore Sul. Gweler y manylion llawn ar http://www.gronyn.org/yr-ysgolion-sul
Cyfarfodydd eraill:
CIC (Clwb Ieuenctid Cristnogol): 7.00–8.30 o’r gloch bob pythefnos ar nos Wener
Gweler y manylion llawn ar http://www.gronyn.org/cyhoeddiadau
Bore Coffi: 10.45 – 12.00 o’r gloch ar ail ddydd Mawrth y mis
Gweler y manylion llawn ar http://www.gronyn.org/cyhoeddiadau
Cymdeithas Undebol: 7.00 o’r gloch ar ail nos Fawrth y mis
Gweler y manylion llawn ar http://www.gronyn.org/cyhoeddiadau
Y festri ar ei gorau!
Capel Coch yn hardd iawn ar gyfer priodas yn ddiweddar!
Capel Coch yn ennill Cwpan CIC eto!
Ewch i dudalen CIC
Capel Got Talent
Nos Wener, Chwefror 21, 2014


Gwasanaeth Nadolig yr Ysgol Sul 2013
Blaenor newydd
Nos Fawrth, Hydref 22, 2013 mewn oedfa a gynhaliwyd dan nawdd yr Henaduriaeth Arfon yng Nghapel y Rhos, Llanrug cafodd Mrs Falmai Pritchard ei hordeinio yn flaenor yn Capel Coch.

Mr Bert Parry
Nos Sul, Mawrth 3, 2013 bu farw Mr Bert Parry, un o flaenoriaid Capel Coch. Cydymdeimlwn ag Anne, ei briod, a’i ferched, Gwawr a Delyth a’u teuluoedd. Mae colli Bert yn ergyd fawr i bawb ohonom yng Nghapel Coch. Diolchwn i Dduw amdano, ac am ei holl wasanaeth i’r eglwys. Cynhaliwyd ei wasanaeth angladd yn Capel Coch fore Sadwrn, Mawrth 9.
Americanwyr yn MOLI
Yn oedfa MOLl yn Capel Coch nos Sul, Gorffennaf 8, cawsom gwmni côr o bobl ifanc o’r Immanuel Baptist Church yn Highland, Califfornia.
Cafwyd oedfa arbennig iawn yn eu cwmni. Cyflwynnodd y côr ran o’r ddrama gerdd, ‘The Question’, ac roedd safon y canu a’r action’n arbennig. Ond pwysicach na hynny oedd y brwdfrydedd amlwg a’r diffuantrwydd anlwg yn eu perrfformiad. Roeddent yn cyflwyno’r sioe gyfan yn Galeri yng Nghaernarfon echnos, ac fe gawsom ragflas ohoni ganddynt nos Sul. Roedd y rhan a gyflwynwyd nos Sul yn mynd i’r afael â chwestiwn mawr bodolaeth Duw trwy ddangos un bachgne ifanc yn herio Cristnogion ifanc am yr hyn yr oeddent hwy yn ei gredu am Dduw ac am Iesu Grist.
Cafwyd sgwrs wedyn gan y Parchg John Robinson a roddodd i ni neges syml am yr angen i gyflwyno’r Efengyl – y newyddion da am Iesu Grist – i bobl yn eu hiaith eu hunain. Roedd y neges hon yn arbennig o drawiadol pan gofiwn mai Americanwr a ddysgodd Gymraeg oedd yn ein hannerch yn Gymraeg. Mae’n amlwg fod y Parchg John Robinson yn byw yr hyn y mae’n ei ddweud!


Casgliad Efe
Mae Capel Coch wedi cyfrannu £1,000 y flwyddyn at Gynllun Efe dros y tair blynedd ddiwethaf, a gobeithiwn allu gwneud hynny eto dros y ddwy flynedd nesaf. Gwahoddwn aelodau’r eglwys i’n helpu i gyrraedd y nod hwnnw. Ers i ni rannu amlenni casglu ganol Tachwedd, yr ydym wedi derbyn £380 at y nod hwn hwn. Byddwn yn falch ac yn ddiolchgar o dderbyn eich cyfraniadau.
Ffair Nadolig 2010
Cynhaliwyd Ffair Nadolig yn y festri b’nawn Mercher, Tachwedd 25 er budd Cynllun Efe. Gwnaed elw o £530.85, a diolchwn i bawb am eu cefnogaeth. Diolch yn arbennig i bawb a fu’n helpu i baratoi ar gyfer y Ffair. Diolch am y nwyddau a’r bwydydd a baratowyd, a diolch i bawb a fu’n gweithio mewn unrhyw ffordd er sicrhau llwyddiant y Ffair.
Cwis Cymorth Cristnogol
Gwesty’r Dolbadarn, Nos Wener, Mai 15, 2009

Dafydd yn holi’r cwestiynau anodd!
Oedfa Deulu Sul y Pasg
Cynhaliwyd Oedfa Deulu fore Sul y Pasg ac roedd yn braf gweld cymaint yno unwaith eto. Falmai Pritchard oedd yn arwain yr oedfa. Cafwyd stori i’r plant gan Dafydd Pritchard ac anerchiad gan Andrew Settatree. Darllenwyd gan Sara Jones a Gruffudd Pritchard. Gareth Jones oedd yr organydd. Rhoddwyd wy pasg bach i’r plant, gan eu siarsio i beidio eu bwyta cyn cinio! Ar ôl yr oedfa, cafwyd paned a sgwrs, fel sy’n digwydd bob tro y cawn ni Oedfa Deulu.
Gyda’r nos, cafwyd oedfa dan arweiniad y Gweinidog.
O Garreg Boeth i Borth yr Aur: Stori Bywyd Hanner Gweinidog
Aeth nifer o aelodau Capel Coch a Nant Padarn i weld cynhyrchiad olaf Cymdeithas y Gronyn Gwenith yn Theatr Seilo, Caernarfon nos Wener, Ebrill 3. Seiliwyd O Garreg Boeth i Borth yr Aur: Stori Bywyd Hanner Gweinidogar storiau poblogaidd y Parchg Harri Parri, ac ef wrth gwrs sydd wedi eu haddasu ar gyfer y llwyfan. Cafwyd noson hwyliog dros ben wrth weld rhai o gymeriadau difyr a chofiadwy’r storiau poblogaidd yn cael eu portreadu ar y llwyfan. Llongyfarchiadau mawr i’r awdur ac i holl aelodau’r cwmni. Diolch yn arbennig i Miss Dilys Mai Roberts am drefnu’r ymweliad ar ein cyfer.