Gweinidog: Y Parchg John Pritchard
Cilfynydd, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd LL55 4HB
Ffôn: 01286 872390 e-bost: john.cilfynydd@btinternet.com
Wedi ei fagu yn Llanberis, dychwelodd i’r ardal wedi iddo dderbyn galwad i fod yn weinidog yr Ofalaeth gyd-enwadol hon o ddechrau Hydref 1988 ymlaen. Erbyn hyn, felly, mae wedi bod yn weinidog yr Ofalaeth ers dros 27 o flynyddoedd. Cyn hynny, bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr yn ardal Abersoch. Ym mis Ionawr 2015, ehangwyd ffiniau’r Ofalaeth, a’i hail enwi ‘Gofalaeth Fro’r Llechen Las’ wrth i eglwysi Annibynnol Bethlehem, Talybont a Charmel, Llanllechid ddod dan ei weinidogaeth.
Bu’n Olygydd Y Pedair Tudalen, sef tudalennau cyd-enwadol y tri phapur wythnosol, Y Goleuad, Y Tyst a Seren Cymru o ddechrau Hydref 2008 hyd ddiwedd Rhagfyr 2014. Mae wedi cyfrannu colofn fisol (ar wahân i ambell fis pan yw’n anghofio gwneud hynny!) i bapur bro Eco’r Wyddfa ers mis Gorffennaf 1992, ac wedi cyhoeddi taflen wythnosol yr Ofalaeth, Gronyn, ers mis Medi 2001.
Mae ganddo ef a’i briod Falmai bedwar o feibion, Dafydd, Gethin, Gruffudd ac Aled, dwy ferch yng nghyfraith, Gwenno ac Annabel, ac un wyres fach, Ella.
Ers Ionawr 2010, trwy drefniant dros dro rhwng yr Ofalaeth ac aelodau Eglwys Efengylaidd Gwyrfai, mae hefyd wedi bod yn gwasanaethu’r eglwys honno sy’n cyfarfod yng Nghapel Tanycoed, Llanrug. Mae’r trefniant hwnnw’n parhau o hyd.