Nant Padarn

Eglwys Annibynnol

Nant Padarn, Llanberis

Cyfarfod Eglwys i aelodau Nant Padarn

Nos Lun, Chwefror 16, 2015

Gweinidog:

Y Parchg John Pritchard

Cilfynydd, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd LL55 4HB

Ffôn: 01286 872390

E-bost: john.cilfynydd@btinternet.com

 Oedfaon y Sul

(Cydaddoli yn Capel Coch, Llanberis)

Oedfaon arferol am 10.00 o’r gloch

Ysgol Sul am 11.15 o’r gloch

Gweler y manylion llawn ar gyfer pob Sul ar dudalen ‘Cyhoeddiadau’ y wefan hon

<a href=”http://www.gronyn.org/cyhoeddiadau

 

Yr eglwys a’i gweinidog

Pan ymunodd eglwys Nant Padarn â’r Ofalaeth ym mis Mai 2003 roedd mwy nag un peth anarferol am y trefniant newydd. 

Y peth cyntaf oedd bod yr eglwys, a fu heb weinidog am fwy na 25 o flynyddoedd, yn dod yn rhan o’r Ofalaeth wrth iddi benderfynu rhoi’r gorau i ddefnyddio ei hadeilad ei hun.  Nid pob dydd y digwydd peth felly, mae’n debyg.  Mae’r eglwys yn cydaddoli yn Capel Coch ers hynny.

A’r ail beth oedd bod y gweindiog newydd wedi ei fagu yn eglwys Nant Padarn.  

Cawl Cinio at Apel Haiti 2013-14

(Undeb yr Annibynwyr Cymraeg / Cymorth Cristnogol)

DSCN2249 (2)

Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i’r Cinio Cawl a gafwyd ar ôl yr Oedfa Deulu yn Capel Coch ddydd Sul, Tachwedd 24.  Roedd yn agos i 40 ohonom yno i fwynhau’r cinio a’r sgwrsio dros y byrddau, ac roedd yn braf iawn gweld cymaint o bob oed yno.  Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n helpu mewn unrhyw ffordd i baratoi’r bwyd ac i hwylio’r byrddau a gwneud y festri’n barod ar gyfer y cinio.  Roedd yn gryn gamp cael popeth yn ei le o gofio bod gennym oedfa i’w chynnal yn y festri cyn cinio.  Ond llwyddwyd i gael trefn ar y cyfan.  Rhwng yr oedfa a’r cinio cafwyd cwis a oedd wedi ei baratoi gan bobl ifanc yr Ysgol Sul.  Ffurfiwyd pedwar tim a chafwyd cystadlu brwd wrth geisio ateb y cwestiynau.  Symudwyd o’r cwis at y byrddau bwyd (ac ailafael yn y cwis wedi i bawb orffen cinio).  Diolch yn fawr i’r ieuenctid am baratoi’r cwis.  Trefnwyd y cyfan er budd Apêl Haiti 2013-2014 Undeb yr Annibynwyr a Chymorth Cristnogol.  Gwahoddwyd pawb i gyfrannu at yr Apêl a chafwyd £273.75.  Diolch yn fawr am yr holl gyfraniadau.

Y Cwis'Wyt ti'n siwr bod yr ateb yn gywir?'DSCN2260DSCN2252DSCN2277 DSCN2256 DSCN2287 DSCN2263 DSCN2278 DSCN2262 DSCN2288DSCN2248 DSCN2254 DSCN2267

DSCN2265 DSCN2272 DSCN2285  DSCN2250DSCN2268DSCN2249

Cymanfa Dosbarth Cwm y glo

Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Annibynwyr Cwm y glo yn Capel Coch, Llanberis ddydd Sul, Mai 17.   Arweinydd y Gân oedd Gareth Jones, Llanberis.  Cyfeiliwyd gan Bethan Holding (organ); Falmai Pritchard (piano); Gerwyn Murray a Ceri Murray (gitars); a Dafydd Lake (drymiau).  Cymerwyd rhan gan blant Ysgolion Sul Llanberis, Deiniolen a Phenisarwaun.  Llywyddwyd gan y Parchg John Pritchard.

Oedfa Deulu Sul y Pasg

Cynhaliwyd Oedfa Deulu fore Sul y Pasg ac roedd yn braf gweld cymaint yno unwaith eto.  Falmai Pritchard oedd yn arwain yr oedfa.  Cafwyd stori i’r plant gan Dafydd Pritchard ac anerchiad gan Andrew Settatree.  Darllenwyd gan Sara Jones a Gruffudd Pritchard.  Gareth Jones oedd yr organydd.  Rhoddwyd wy pasg bach i’r plant, gan eu siarsio i beidio eu bwyta cyn cinio!  Ar ôl yr oedfa, cafwyd paned a sgwrs, fel sy’n digwydd bob tro y cawn ni Oedfa Deulu. 
Gyda’r nos, cafwyd oedfa dan arweiniad y Gweinidog.
O Garreg Boeth i Borth yr Aur: Stori Bywyd Hanner Gweinidog
Aeth nifer o aelodau Capel Coch a Nant Padarn i weld cynhyrchiad olaf Cymdeithas y Gronyn Gwenith yn Theatr Seilo, Caernarfon nos Wener, Ebrill 3.  Seiliwyd O Garreg Boeth i Borth yr Aur: Stori Bywyd Hanner Gweinidog ar storiau poblogaidd y Parchg Harri Parri, ac ef wrth gwrs sydd wedi eu haddasu ar gyfer y llwyfan.  Cafwyd noson hwyliog dros ben wrth weld rhai o gymeriadau difyr a chofiadwy’r storiau poblogaidd yn cael eu portreadu ar y llwyfan.  Llongyfarchiadau mawr i’r awdur ac i holl aelodau’r cwmni.  Diolch yn arbennig i Miss Dilys Mai Roberts am drefnu’r ymweliad ar ein cyfer.