Ysgol Sul Unedig Deiniolen
Dim Ysgol Sul ar hyn o bryd.
Ysgol Sul Capel Coch, Llanberis
Cynhelir yr Ysgol Sul am 11.15 o’r gloch ar fore Sul.
Cynhelir Oedfa Deulu unwaith y mis am 10.30 o’r gloch
– cyfle i’r plant a’r oedolion addoli gyda’i gilydd
Dydd Sul y Pasg, Ebrill 11 – Ysgol Sul trwy Zoom am 11.15 o’r gloch
I gael y ddolen / cod Zoom ar gyfer yr Ysgol Sul (yr un ydyw bob Sul) anfonwch neges ebost at john.cilfynydd@btinternet.com
Byddwn yn ail ddechrau’r Ysgol Sul a’r Gwasnaethau Teuluol yn y capel mor fuan â phosibl pan fydd yr argyfwng hwn drosodd

Cliciwch yma www.gronyn.org/yr-ofalaeth/capel-coch i weld rhagor o luniau
Ysgol Sul Carmel, Llanllechid
Cynhelir yr Ysgol Sul am 10.30 o’r gloch ar fore Sul.
Dim Ysgol Sul ar hyn o bryd oherwydd argyfwng Coronafeirws
Byddwn yn ail ddechrau’r Ysgol Sul mor fuan â phosibl pan fydd yr argyfwng hwn drosodd
Ysgol Sul Bethlehem, Talybont
Cynhelir yr Ysgol Sul am 10.00 o’r gloch ar fore Sul.
Dim Ysgol Sul ar hyn o bryd oherwydd argyfwng Coronafeirws
Byddwn yn ail ddechrau’r Ysgol Sul mor fuan â phosibl pan fydd yr argyfwng hwn drosodd
‘Capel Got Talent’ 2014
Gwasanaeth Nadolig Capel Coch 2013
Cliciwch yma www.gronyn.org/yr-ofalaeth/capel-coch i weld rhagor o luniau
Cawl Cinio, Tachwedd 24, 2013
‘Capel Got Talent’
Cafwyd noson lwyddiannus iawn yn festri Capel Coch echnos wedi ei threfnu gan ieuenctid dosbarth hynaf yr Ysgol Sul. Eu syniad hwy oedd cynnal y noson er mwyn codi arian at Apêl Guatemala (Eglwys Bresbyteraidd Cymru a Chymorth Cristnogol).
Roedd yn noson hwyliog iawn, a chafwyd 17 o eitemau amrywiol: canu, karate, dawnsio, jyglo, deud stori, gwaith crefft, y Co’ Bach, triciau, troelli plat, canu piano, chwarae gitar, sgets a Sion y ci. Roedd yn braf iawn gweld cymaint o blant ac oedolion yn cymryd rhan, a phawb yn mwynhau gwneud hynny. Roedd yn amlwg bod y gynulleidfa wrth ei bodd.
Wrth feddwl am feirniad ar gyfer y noson, meddyliodd yr ieuenctid ar unwaith am Dafydd Iwan, ac felly roeddem yn ddiolchgar iawn iddo am ddod atom. Cafwyd sylwadau byr ganddo ar ôl pob eitem, a’r cyfan yn ganmoliaeth ac anogaeth. Gobeithio ei fod wedi mwynhau ei hun yn ein plith.
Wedi’r cystadlu, cafwyd paned a bisged , a chyfle i bobl brynu llyfrau o’r stondin yr oedd yr hogiau wedi ei threfnu.
Ac yna, cafwyd yr holl cystadleuwyr a’r trefnwyr at ei gilydd i’r ‘llwyfan’ ar gyfer y dyfarniad. Ac er mor anodd oedd cael enillydd, gan fod pawb mor dda a’r eitemau mor wahanol i’w gilydd, penderfyniad y beiriniad oedd mai Cadi Thomas fyddai’n derbyn y tlws am ddarllen stori yr oedd hi ei hun wedi ei hysgrifennu. Llongyfarchiadau mawr iddi, a diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran, ac i Dafydd Iwan am ei gefnogaeth. Diolch i bawb a ddaeth yno i gefnogi. A diolch wrth gwrs i’r trefnwyr, Aled Gwyn, Iolo, Sion Ifan ac Aled Sion. Gwnaed elw o £170.

Parti Nadolig 2010
Ar noson o eira …
- … daeth y plant i barti’r Ysgolion Sul …
… a diolch am hynny, cyrhaeddodd Sion Corn hefyd.
Cwpan CIC Dolgellau

Gemau Giamocs – Uts e Nocowt
Noson o gemau hwyliog i blant Ysgolion Sul yr ardal
(Plant Oed Ysgol Blwyddyn 3-6)
yn Y Ganolfan, Llanberis
am 7.00 o’r gloch, nos Wener, Mehefin 18
Penwythnos yng Ngholeg y Bala
Cawsom amser arbennig o dda. “Colli ac Ennill” oedd teitl y cwrs, a chawsom hanes Iesu’n cerdded ar y dwr; Iesu’n iachau gwas y canwriad; Mair a Martha; a Sacheus. Clywsom am bwysigrwydd ymddiried yn Iesu; cael ffydd yn Iesu; gwrando ar Iesu; a gadael i Iesu newid ein bywydau.
Diolch yn fawr i Nia Williams, a Zoe, Gwilym a Steffan am eu croeso ac am ofalu amdanom. Diolch hefyd am y bwyd da a’r hwyl a gawsom ar y cwrs.
NADOLIG 2009

DIOLCH
Diolch yn fawr iawn i Nia Williams, Blaen Cae Isaf, am ei gwaith yn arwain yr Ysgol Sul dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Nia wedi penderfynu rhoi’r gwaith heibio ddiwedd y tymor hwn, a gwerthfawrogwn ei chyfraniad yn fawr iawn. Mae wedi bod yn arweinydd gweithgar a gofalus, ac mae pawb sy’n gysylltiedig â’r Ysgol Sul yn gwybod mor ddyledus ydym iddi am bopeth a wnaeth dros y gwaith a thros y plant. Diolch yn fawr iawn, Nia.
Picnic Ysgolion Sul Llanberis a Deiniolen
Dydd Sul, Gorffennaf 19, 2009
Bu raid cynnal y picnic yn festri Capel Coch oherwydd y tywydd, ond ni wnaeth hynny amharu’n ormodol ar yr hwyl. Cafwyd digon o hwyl wrth chwarae gemau (a diolch i Andrew Settatree am ei help efo’r gemau. Diolch hefyd am gael benthyg y parasiwt o Noddfa, Caernarfon). Diolch i’r plant a’r rhieni am eu cefnogaeth.
TRIP YSGOL SUL I SW CAER
MEHEFIN 27, 2009
Aeth dros 70 ohonom ar y Trip Ysgol Sul i Sw Caer, a chafwyd diwrnod arbennig o dda. Roedd y tywydd yn braf, ond heb fod yn rhy boeth. Fe wnaeth pawb fwynhau ei hun, yn ôl pob sôn. Cawsom swper yn y McDonalds yn Nhreffynnon ar y ffordd adref.
Na! – nid yr un ohonom ni oedd yn gyfrifol am helpu 30 mwnci i ddianc, nes bod raid anfon pawn allan o’r Sw am gyfnod. Yr wythnos ar ôl i ni fod yno y digwyddodd hynny. Doedd o ddim byd i’w wneud efo ni. Fe wnaeth pawb ohonom ni fyhafio.
Cystadleuaeth y Pasg
Diolch i bawb a anfonodd luniau i’r gystadleuaeth. Mae’r beirniaid, y Parchg Robert a Mrs Cath Townsend, wedi penderfynu ar y drefn hon ar ôl edrych yn ofalus ar yr holl luniau.
1af – Ella
Bedd Iesu Grist – Ella, Deiniolen
2il – Alis
Sul y Blodau – Alis, Deiniolen
3ydd – Emma
Y Swper Olaf – Emma, Deiniolen
Da iawn chi, a llongyfarchiadau i bawb ohonoch
Diolch yn fawr iawn i’r beirniaid – roedd y gwaith o ddewis enillydd yn waith anodd iawn.