Yr Ofalaeth

Yr Eglwysi

Roedd Gofalaeth Fro’r Llechen Las yn cynnwys saith o eglwysi yn hen ardaloedd chwarelyddol Dyffryn Peris a Dyffryn Ogwen: tair ohonynt yn perthyn i Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC), a phedair yn eglwysi Annibynnol (A) sy’n aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Cefnywaun (EBC) ac Ebeneser (A), Deiniolen

Capel Coch a Rehoboth (EBC) a Nant Padarn (A), Llanberis

Bethlehem (A), Talybont

Carmel (A), Llanllechid

Yr Ofalaeth hon oedd un o’r gofalaethau bro hynaf yng Nghymru, gan fod yma eglwysi Presbyteraidd ac Annibynnol a fu’n rhannu gweinidogaeth ers Ionawr 1, 1982.  Un o weinidogion Eglwys Bresbyteraidd Cymru, y Parchg Trefor Lewis, oedd y gweinidog o’r cychwyn hyd at Fehefin 1988.  Ers mis Hydref 1988, un o weinidogion yr Annibynwyr, y Parchg John Pritchard, oedd y gweinidog.  Roedd yr Ofalaeth felly ymhlith yr ychydig o ofalaethau bro a gafodd eu gwasanaethu gan weinidogion o wahanol enwadau.  Byddai’n ddiddorol gwybod sawl gofalaeth arall yng Nghymru a fu’n gweithredu’n ddi-dor dan batrwm gweinidogaeth bro am ddeugain mlynedd a rhagor.  Dros y cyfnod hwnnw, cafwyd cydweithio hwylus a llawen rhwng eglwysi’r ddau enwad yn lleol.

Magwyd John Pritchard yn Llanberis, yn aelod o eglwys Nant Padarn; a dychwelodd i’w fro enedigol yn 1988 wedi cyfnod o bron i 10 mlynedd yn weinidog i eglwysi’r Annibynwyr yn Abersoch, Bwlchtocyn, Llanbedrog a Mynytho.

Bu’r ddwy eglwys yn Neiniolen yn cydaddoli ym mhob oedfa ers oddeutu 1990 (mae’r cof yn pallu!)  Bu’r ddwy eglwys yn Llanberis yn cydaddoli ac yn rhannu’r un adeilad (Capel Coch) ers diwedd 2000.

Ychwanegwyd eglwysi Bethlehem, Talybont  a Charmel, Llanllechid at yr Ofalaeth ddechrau Ionawr 2015, gan fabwysiadu’r enw newydd ‘Gofalaeth Fro’r Llechen Las’ yn lle’r enw blaenorol ‘Gofalaeth Unedig Deiniolen, Llanberis a Nant Peris’.

Wedi gwerthu adeiladau capel Cefnywaun rai blynyddoedd yn ôl bu eglwys Cefnywaun yn rhannu adeilad ag eglwys Ebeneser.  Ond erbyn diwedd 2018 yr oedd adeiladau Ebeneser hefyd wedi eu gwerthu oherwydd eu cyflwr gwael.  Erbyn hyn mae’r ddwy eglwys yn cydaddoli yn Nhŷ Elidir ar y Stryd Fawr yn Neiniolen.  Mae Ty Elidir yn eiddo i Gyngor Gwynedd ond mae gan elusen Menter Fachwen brydles tymor hir ar yr adeilad ac yr ydym yn rhentu ystafell yno ar gyfer ein hoedfaon ers mis Tachwedd 2018.  Gwerthfawrogwn y croeso a gawsom gan reolwyr a staff Menter Fachwen, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu ein cenhadaeth yn ein cartref newydd.

Gwerthwyd prif adeilad Capel Coch ganol 2016, a chadwyd y festri at ddefnydd yr eglwys. Erbyn diwedd 2018 yr oedd eglwysi Capel Coch a Rehoboth wedi penderfynu uno yn Capel Coch.

Mae croeso i unrhyw un ymuno yng nghyfarfodydd yr eglwysi.   Dowch atom i addoli Duw a’i fab Iesu.  Dowch i wrando ar Air Duw.  Dowch i ganu clod i’r Iesu.  Dowch i weddio ar Dduw, ein Tad nefol.  Dowch i ystyried galwad Duw i ni fod yn bobl iddo.  Dowch i ryfeddu at Efengyl Iesu Grist.   Dowch i geisio nerth a bendith yr Ysbryd Glân.   Dowch i ddiolch am y cariad a’r gras sydd wedi ei dywallt arnom trwy Iesu Grist.

Y Cyfarfod Sefydlu

Nos Sul, Mawrth 29, 2015

Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n trefnu ar gyfer yr Oedfa Sefydlu a gynhaliwyd yng nghapel Carmel, Llanllechid nos Sul, Mawrth 22 i sefydlu’r Parchg John Pritchard yn weinidog i’r Arg;wydd Iesu Grist yn eglwysi Carmel a Bethlehem, Talybont. Roedd yn braf iawn gweld cymaint ohonoch yno, yn aelodau’r ddwy eglwys, aelodau eglwysi eraill yr Ofalaeth, a chyfeillion a oedd wedi ymuno â ni ar gyfer yr oedfa. Tipyn o syndod oedd deall bod eglwys Salem, Caernarfon wedi penderfynu peidio â chynnal oedfa er mwyn i rai o’r aelodau ddod atom. Gwerthfawrogwn y gefnogaeth a gafwyd gan bawb a oedd yno a chan eraill a fethodd â dod yno ond a anfonodd eu dymuniadau gorau i ni.

Cafwyd oedfa fendithiol iawn. Cyn-weinidog Carmel a Bethlehem, y Parchg Geraint Hughes, oedd yn llywyddu’r oedfa ac yn arwain defod y sefydlu, a chyfeiriodd at y ffaith anarferol mai’r Parchg John Pritchard oedd wedi gwneud y gwaith hwnnw pan gafodd ef ei sefydlu’n weinidog i’r ddwy eglwys ynghyd ag eglwys Jerusalem, Bethesda ar ddechrau ei weinidogaeth yn Nyffryn Ogwen yn 1997.  Go brin fod peth felly’n ddigwyddiad cyffredin iawn.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn y gwasanaeth, ac yn arbennig i’r Parchg Euros Wyn Jones, Llangefni am y neges rymus yn ei bregeth a oedd yn seiliedig ar Eseia 52:7. Soniodd am darddiad, cynnwys ac effaith y neges fawr y mae negesydd Duw yn ei chyhoeddi. Fe’n hatgoffwyd mai Duw sy’n teyrnasu a bod gennym Efengyl ogoneddus i’w chyhoeddi i’r byd.

Un peth anarferol arall am yr oedfa oedd cyflwyno i’r Gweinidog newydd ffon gerdded a fu’n eiddo i Edward Stephen, neu Tanymarian, a fu’n weinidog yn Llanllechid yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ers hynny, mae’r ffon wedi ei rhoi yng ngofal pob un o weinidogion Carmel yn eu tro, ac mae’n siwr ei bod wedi atgoffa pob un ohonynt o’r ffaith eu bod yn rhan o waith Teyrnas Dduw sy’n para o oes i oes.

Wedi’r oedfa, roedd lluniaeth wedi ei baratoi yn y festri a chafwyd croeso arbennig yno.  Roedd yn braf iawn cael sgwrs wrth y byrddau bwyd.  Diolch yn fawr i bawb a fu’n paratoi’r lluniaeth ac yn ei weini.

Mae’r Gweinidog a’r aelodau’n edrych ymlaen at gydweithio yng ngwaith yr Arglwydd yn yr eglwysi ac yn yr Ofalaeth.

Taflen Fedydd – Gwybodaeth i Rieni

Cyfrannu’n ariannol

Aelodau eglwysi’r Ofalaeth hon sy’n gyfrifol am gynnal holl waith yr eglwysi yn ariannol.  Mae hynny’n cynnwys costau cynnal y Weinidogaeth a’r adeiladau a’r holl weithgarwch.  Mae’r daflen “Arian Duw – Cyfrannu at yr eglwys heddiw” (cliciwch isod) yn nodi’r angen ynghyd â’r egwyddorion sy’n sail i gyfrannu at waith yr eglwysi. 

Byddwn yn ddiolchgar am bob cyfraniad a fydd yn ein helpu i gyflawni gweinidogaeth yr eglwysi. 

taflen arian yr ofalaeth