
O’r un stabl wleidyddol y daw Michael Gove a Dominic Raab, ac mae’r ddau mor beryglus â’i gilydd. Nid eu barn am Brexit nac unrhyw un o’r polisïau y maent yn eu cyhoeddi wrth wynebu’r Etholiad Cyffredinol sy’n gwneud i mi ddweud hyn amdanynt ond rhywbeth llawer mwy sylfaenol.
Michael Gove a ddywedodd ym mis Mehefin 2016 ‘bod pobl y wlad hon wedi cael digon ar arbenigwyr’. Mi wnaeth y geiriau hynny ddrwg mawr gan iddynt gyfrannu at wanhau hyder pobl yn yr union rai sydd i fod i ddeall materion gwleidyddol ac economaidd cymhleth. Yn lle gwrando ar rai sy’n gwybod yn well na nhw eu hunain, aeth pobl i gredu bod eu barn nhw, hyd yn oed os nad oedd yn seiliedig ar wybodaeth na dealltwriaeth, cystal pob tamaid â barn yr ‘arbenigwyr’ yr oedd Gove yn eu condemnio. Mae modd priodoli llawer o’r llanast gwleidyddol presennol i’r duedd a ddaeth yn sgil geiriau Gove i anwybyddu’r hyn a ddywed pobl sydd â gwybodaeth arbenigol.
Wedi’r holl sôn a fu dros y misoedd diwethaf am gelwyddau a newyddion ffug, yr oedd yn dda clywed yr alwad, yn y cyfnod Etholiadol hwn, am yr angen i wirio’r datganiadau a wneir gan wleidyddion. Mae mwy nag un gwefan ddefnyddiol y gellir eu defnyddio i weld a yw’r hyn a ddywedir, gan wleidyddion o bob plaid, am bob math o bynciau yn gywir ai peidio. Ond nos Lun, gwelwyd tanseilio hyd yn oed y gwasanaethau ‘gwirio’r gwir’ (neu’r fact checkers) hyn. Yn ystod y ddadl deledu rhwng arweinyddion y Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur newidiwyd enw un o gyfrifon Twitter Pencadlys y Blaid Geidwadol i factcheckUK gan roi’r argraff fod sefydliad annibynnol yn cywiro datganiadau arweinydd y Blaid Lafur. Gweithred dwyllodrus oedd hon heb os, a thrist oedd clywed Dominic Raab yn cyfiawnhau’r twyll hwnnw ar y teledu drannoeth. Nid yn unig y mae o a’i blaid wedi tanseilio hyder pobl mewn gwefannau o’r fath, y maent hefyd wedi llwyddo i leihau gwerth ffeithiau cywir a dibynadwy, gan ei gwneud yn haws i wleidyddion ddal ati i wneud datganiadau ffug a chyflwyno ffeithiau anghywir.
Mi ddylai hyn oll fod yn bryder i bawb ohonom, ac yn arbennig i Gristnogion ac unrhyw un sy’n dal i gredu fod y gwir, ym mhob maes, yn parhau’n bwysig. Yn enw pob rheswm, peidiwn â diystyru barn pobl a ddylai wybod yn well na ni; a daliwn i fynnu fod y fath beth â’r gwir. Ac onid ffrwyth geiriau Gove a Raab a’u tebyg yw’r hyn a glywyd ar Question Time nos Iau pan oedd dyn yn y gynulleidfa yn gweiddi, yn gwrthod gwrando ar neb, ac yn mynnu mai fo oedd yn iawn, er ei fod yn gwbl anghywir ei ffeithiau? Rhaid cydymdeimlo â’r dyn, gan fod Gove a Raab ac eraill wedi rhoi pob hawl iddo gredu ei fod yn gwybod cystal â neb a bod ei ‘ffeithiau’ o mor gywir ag eiddo neb arall. Ac nid gyda gwleidyddiaeth yn unig y mae angen gwerthfawrogi’r gwir a gofalu ei warchod.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 24 Tachwedd, 2019