Fel y rhelyw o bobl, rwyf yn y niwl o ran y drafodaeth am S4C. Mae hi’n ffrae go iawn rhwng aelodau Awdurdod S4C a Llywodraeth San Steffan a’i gweinidog diwylliant, Jeremy Hunt. A mwyaf piti, mae tipyn o bawb o bob plaid wedi eu tynnu i’r helynt. Mae’n anodd deall beth sy’n digwydd. Ond un peth sicr yw bod aelodau Awdurdod S4C dan y lach, a bu gwleidyddion ar y radio a’r teledu’n beirniadu’r aelodau hynny’n hallt. Hyd y gwelaf, mae dau beth arbennig yn blino’r gwleidyddion. Yn gyntaf, bod aelodau’r Awdurdod wedi achosi ‘shambles’; ac yn ail, nad oes neb yn gwybod pwy yw’r aelodau hyd yn oed.
Ond dyna’r ddau beth sy’n gwneud i mi fod yn anghyfforddus ac yn amheus o’r beirniaid. Er gwaetha’u holl gwyno, does neb yn dweud yn glir beth yn union yw’r ‘camgymeriadau’ a’r ‘shambles’ y sonnir cymaint amdanynt. Gwaeth na hynny, mae’n anodd deall pam fod y gwleidyddion yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod pwy yw aelodau’r Awdurdod. Oherwydd fe gymrodd hi lai na dau funud i mi ddod o hyd i enwau a lluniau’r naw aelod ar wefan S4C nos Wener. Maen nhw i gyd, ar wahân i un, yn ddieithr i mi’n bersonol. Ond mae’n gwbl amlwg eu bod nhw’n bobl gyfrifol a medrus. Mae’n drueni bod y gwleidyddion yn taflu llwch i’n llygaid trwy ddweud nad oes neb yn gwybod pwy ydynt, gan roi’r argraff i bawb mai criw di-nod a diddeall sy’n methu gwneud dim yn iawn yw’r bobl hyn. Mi fentraf fod yr Awdurdod yn gwybod yn iawn beth mae’n ei wneud, sef ceisio gwarchod annibyniaeth S4C. Mae Jeremy Hunt a’r Torïaid yn ceisio bwlio aelodau’r Awdurdod i dderbyn trefn newydd a fydd yn golygu brwydr i warchod annibyniaeth y sianel. Mae’n debyg bod yr aelodau’n ddigon hirben, ac yn sylweddoli nad oes synnwyr mewn derbyn trefn sy’n eu gorfodi i frwydro i ddiogelu annibyniaeth y sianel pan fo’r drefn bresennol yn sicrhau hynny’n barod.
Y tu cefn i’r drafodaeth wleidyddol a diwylliannol hon mae yna egwyddorion pwysig fel gonestrwydd a geirwiredd. Mewn trafodaeth mor bwysig, sut allwn ni ymddiried mewn pobl sy’n cychwyn trwy ddweud nad ydynt yn gwybod pwy yw’r aelodau? Gan fod yr enwau’n hysbys, mae’r rhai sy’n honni nad oes modd gwybod pwy ydynt un ai’n dweud celwydd neu’n gwbl anwybodus. Ac os gwneud cyhuddiadau, mae’n rhaid wrth sail i’r cyhuddiadau hynny. Fedrwn ni ddim gwneud honiadau mawr am allu (neu anallu) pobl a’r llanast y maent yn ei wneud heb i ni allu cyfeirio at bethau penodol. Mae’r un peth yn wir yn ein bywydau personol, a dylai dilynwyr Iesu Grist ofalu eu bod yn dweud y gwir ac yn sicrhau nad ydynt yn dwyn camgyhuddiadau yn erbyn pobl eraill.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 28 Tachwedd, 2010