O greadur sy’n hoff o chwaraeon o bob math, mae’n rhaid i mi gyfaddef nad ydw i’n ddyn rygbi. Hyd at neithiwr, welais i’r un eiliad o gemau Cwpan Rygbi’r Byd. Nid mod i’n fwriadol wedi osgoi’r gystadleuaeth cofiwch, ond rywsut aeth yr wythnos heibio heb i mi weld na chic na daliad na thafliad. Welais i mo gem gyntaf Cymru hyd yn oed am fy mod mewn cymanfa ym Mhenisarwaun bnawn Sul diwethaf. Ond roedd neithiwr yn wahanol.
Roedd criw rhaglen bêl droed Ar y Marc ar y radio fore ddoe yn holi beth oedd y term Cymraeg am ‘bandwagon’. Beth bynnag ydyw, dwi’n fodlon iawn cydnabod mod i wedi neidio ar y gert honno neithiwr! Roedd yn boenus am ran helaethaf y noson wrth i Loegr fynd ar y blaen, ac aros ar y blaen hyd at y munudau olaf. I rywun mor ddiddeall â mi, roedd pethau’n ymddangos mor anobeithiol. Gyda phob anaf cas i chwaraewyr Cymru, roedd yn edrych yn fwy a mwy tebygol mai’r Saeson fyddai’n clochdar yn uchel ar ddiwedd y gêm. Roeddwn wedi digalonni, a bu bron i mi roi’r gorau iddi ac ail afael yn y dasg o baratoi’r golofn hon! Wnes i mo hynny, ond fy ngorfodi fy hun i ddal i wylio. Ac yna mi ddechreuodd popeth newid, ac fe ddaeth y cais a’r trosiad i wneud y sgôr yn gyfartal. Ac yna’r gic gosb. Ond roedd honno o bellter. Braidd yn rhy bell oddi wrth y pyst i Dan Biggar? Ddim o’r fath beth, a Chymru 3 phwynt ar y blaen! Roedd y chwe munud dilynol yn fwy poenus fyth. Ond o’r diwedd daeth y chwiban olaf, a minnau erbyn hynny ar ben fy nigon, reit ar dop y gert. Erbyn y gêm nesaf, beryg iawn y bydd gen i glamp o gennin pedr ar fy mhen, fel cefnogwr rygbi gwerth ei halen.
Bydd cefnogwyr pybyr yn wfftio’r fath Philistiaeth. Ac mi allaf ddeall peth felly. Ond gallaf gyfiawnhau neidio ar y gert arbennig hon. Onid oes gan bob Cymro a Chymraes hawl i neidio ar y bandwagon pan fydd Cymru’n trechu Lloegr mewn unrhyw gamp?
Mae gan Iesu ddameg am bobl yn cael eu cyflogi i weithio mewn gwinllan ar wahanol adegau o’r dydd (Mathew 20:1-16). Mae rhai’n gweithio am un awr yn unig, ac yn cael yr un tâl a’r rhai a fu’n gweithio trwy’r dydd. Mae’r rhai a fu’n gweithio trwy’r dydd yn cwyno ac yn edliw hynny i’r meistr, ond mae hwnnw’n mynnu bod ganddo hawl i roi’r un cyflog i bawb, faint bynnag o oriau y buont yn gweithio. Yn nheyrnas nefoedd, mae croeso i bobl neidio ar y gert. Bydd rhai wedi bod ar gert y deyrnas am ran helaethaf eu bywyd, ac eraill yn neidio arno yn hwyr y dydd. Ond mae Iesu’n dangos nad oes gan neb reswm dros gwyno am hynny. Bydd rhai wedi dilyn Iesu am flynyddoedd, gan ddal pwys a gwres y dydd. Daw eraill i gredu ynddo yn ddiweddarach yn eu bywydau. Ond rhyfeddod y deyrnas yw na fydd neb yn edliw hynny gan nad ein hymdrech ni ond gras Duw sy’n dod â phawb ohonom i mewn iddi.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 27 Medi, 2015