Anaml iawn y gwelaf fi unrhyw beth ar y teledu ar fore Sul. Ond wythnos i heddiw, a minnau’n mynd i oedfa erbyn 11 o’r gloch, mi ddigwyddais weld un o raglenni crefyddol y bore. Rhaglen drafod oedd hi, a chan nad oes gen i gof i mi weld yr un hysbyseb rwy’n tybio mai un o raglenni’r BBC ydoedd.
Y cwestiwn a ofynnodd cyflwynydd y rhaglen i’w bum gwestai oedd, ‘Ydi crefydd yn marw ym Mhrydain?’ Cafwyd trafodaeth fywiog, fel y gellid disgwyl o gofio bod dau o’r cyfranwyr yn Gristnogion ( y naill yn aelod o Eglwys Loegr a’r llall yn Bentecostaliad), un yn Rabbi Iddewig, un yn Foslem, ac un yn anffyddiwr.
Nid syndod oedd clywed yr anffyddiwr yn croesawu pob sôn am ddirywiad y grefydd gyfundrefnol a fu mor ddylanwadol yng ngwledydd Prydain ers cenedlaethau. Roedd yn gwbl hyderus y bydd y dirywiad hwnnw’n parhau; ac yn amlwg ddigon, roedd yn gweld hynny’n beth da.
Nid syndod chwaith oedd clywed nad oedd rhai o’r cyfranwyr eraill yn gofidio’n ormodol am ddirywiad y grefydd gyfundrefnol o gofio mai Cristnogaeth fu honno dros y blynyddoedd. Yn naturiol, i’r Iddew a’r Moslem roedd y lleihad yn nylanwad Cristnogaeth ar y gymdeithas yn ddisgwyliedig yn wyneb twf eu crefyddau hwy o fewn y gymdeithas honno dros y blynyddoedd diwethaf.
I bob pwrpas, trafod y sefyllfa yn Lloegr a wnaed, ac yr oedd tuedd i uniaethu’r grefydd gyfundrefnol draddodiadol yno ag Eglwys Loegr. Wrth gwrs, yr oedd cynrychiolydd yr Eglwys honno’n amddiffyn yr Eglwys, a phwy all ei beio am wneud hynny. Roedd hyd yn oed yn dadlau y dylid diogelu cynrychiolaeth esgobion Eglwys Loegr yn Nhŷ’r Arglwyddi. Hyd yn oes os dylai crefyddau eraill gael eu cynrychioli yno, meddai, ni ddylid lleihau nifer presennol yr esgobion.
Pwysleisio a wnâi’r Pentecostaliad nad cyflwyno ‘crefydd’ a wnâi’r eglwysi yr oedd o’n gweinidogaethu iddynt ond cynnig i bobl berthynas real â Duw. I ryw raddau, roedd yn debycach yn hynny o beth i’r Moslem nag i’r un o’r cyfranwyr eraill gan fod hwnnw hefyd yn mynnu mai perthynas â Duw sy’n bwysig, a’r berthynas honno’n llywio’r ffordd y mae pobl yn byw.
Bu’r argyhoeddiad mai perthynas â Duw trwy ffydd yng Nghrist yw’r peth pwysig yn sylfaenol i’n heglwysi anghydffurfiol o’r cychwyn. Ond wrth i’r eglwysi hynny dros y blynyddoedd droi’n sefydliad crefyddol dylanwadol fe gollwyd y pwyslais canolog hwnnw i raddau helaeth iawn. Atgoffwn ein hunain nad adfer sefydliad yw gwaith a chenhadaeth ein heglwysi heddiw ond gwahodd pobl i’r berthynas ryfeddol ac achubol â Duw yng Nghrist sy’n dwyn bywyd i bobl. Nid poblogeiddio crefydd ond bywhau pobl yw ein nod.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 24 Medi, 2017