Yn ei yrfa hir a disglair fel gohebydd, newyddiadurwr a cholofnydd, mae Gwilym Owen wedi gofyn cannoedd o gwestiynau. Mae wedi holi a stilio; mae wedi procio a phryfocio pob math o bobl am bob math o bynciau pwysig a dibwys, difrifol a doniol. Mae wedi tyrchu, wedi codi gwrychyn ac wedi mynd dan groen. Mae wedi diddanu a goleuo; mae hefyd wedi cynddeiriogi a diflasu, yn arbennig felly pan fyddai pobl yn gweld peth o’r holi a rhai o’i sylwadau yn annheg ac afresymol. Ond mae bob amser wedi mynnu mynd at wraidd stori a cheisio’r atebion i gwestiynau pwysig y byddai llawer o’i gydweithwyr o bosibl yn ofni eu gofyn.
Yn ei golofn wythnosol yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Golwg mae Mr Owen yn gofyn un o’r cwestiynau pwysicaf y gall neb ei ofyn sef, “Be’ ydy Cristion go-iawn?” Hysbyseb a osodwyd ar dudalennau Y Cymro a sbardunodd y cwestiwn; hysbyseb gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru am swydd Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yng Ngofalaeth Bangor a nodai fod angen i’r sawl a fyddai’n ymgeisio am y swydd ‘fedru siarad Cymraeg a [bod] yn Gristion’. Dywed Mr Owen ei bod yn ‘hollol dderbyniol’ mynnu bod yr ymgeiswyr yn medru siarad Cymraeg er mwyn gwasanaethu mewn eglwysi Cymraeg. Yr hyn sydd ‘yn annisgwyl a dweud y lleiaf’ iddo yw’r ail gymal sy’n nodi fod angen i unrhyw ymgeisydd fod yn Gristion. Ond yn ôl pob rheswm, os yw’n dderbyniol (neu fel y dywed Mr Owen, ‘yn gwbl hanfodol’) cael gweithiwr sy’n siarad Cymraeg ar gyfer eglwysi Cymraeg, onid yw’r un mor rhesymol mynnu mai Cristion sydd ei angen mewn eglwysi Cristnogol? Yn enw pob rheswm, pam ddylai’r fath ofyniad fod yn annisgwyl i neb? Beth arall a ddisgwylid?
Mae Mr Owen yn mynd yn ei flaen i gwestiynu defnydd y Presbyteriaid o’r termau ‘Cristion’ a’r ‘dystiolaeth Gristnogol’ ac i golbio pobl a glywyd ar raglen grefyddol ar Radio Cymru yn eu galw eu hunain yn Gristnogion. Ond nid ymffrost ar ein rhan, na chwaith feirniadaeth ar neb arall, yw i ni arddel yr enw ‘Cristion’. Ac yn ei sylwadau clo, sy’n cymharu’r hysbyseb arbennig hwn ag un a welwyd mewn papur lleol yn Belffast yn 1968 (a ddywedai, Baker’s Roundsman required. Christians only need apply) mae Mr Owen yn annheg ac yn anghyfrifol. Eglwys, nid becws, oedd yn hysbysebu yn Y Cymro!
Mae’n werth nodi er hynny fod Gwilym Owen yn ateb ei gwestiwn ei hun. Ac rwy’n falch o ddweud fy mod yn cytuno ag ef! Yn ei farn ef, Cristion yw’r person sy’n ‘credu yn yr Arglwydd Iesu Grist’. Dyna, am ei gwerth, fy marn innau. Ond wedi dweud hynny, mae’n rhesymol ac yn hanfodol fod y geiriau hyn yn ystyrlon i’r naill a’r llall ohonom, a bod y ddau ohonom – a phawb arall – yn dweud yn syml beth yw ystyr y ‘credu’ hwn a phwy yw’r ‘Arglwydd’, yr ‘Iesu’, y ‘Crist’ hwn. Fel arall, onid ystrydeb wag fydd ein holl eiriau o gyffes?
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 27 Tachwedd, 2016