Mae’n anodd meddwl fod unrhyw dref arall wedi cael enw mwy anaddas na’r un a roddwyd i hon. Gwyddom fod y dref yn hŷn na’i henw gan iddi gael ei hadnabod wrth bedwar enw blaenorol; ond hyd y gwelaf, nid oes modd dweud i sicrwydd pryd na pham y rhoddwyd yr enw hwn iddi. Awgrymodd rhywun fod un o drigolion y dref, ar ddiwrnod neilltuol o braf ganrif a hanner yn ôl, wedi disgrifio’r lle wrth y gair hwn. Ac mae’n debyg y byddai pobl y dref dros y blynyddoedd wedi cytuno â’r gŵr chwedlonol hwnnw bod Paradise yn ‘baradwys o le’ i fyw ynddo.
Hawdd yw credu mai dyna darddiad enw’r dref goediog yng Nghaliffornia y clywsom gymaint amdani dros y pythefnos diwethaf. Oherwydd yn ôl pob tystiolaeth yr oedd yn lle braf iawn. Ac eto, tybed a oedd y sawl a roddodd yr enw i’r dref yn gwybod fod y gair Saesneg ‘paradise’ yn tarddu o un o ieithoedd hynafol Iran ac mai ystyr y gair gwreiddiol oedd ‘parc’ neu ‘ddarn o dir wedi ei amgylchu’? Wedi’r cyfan, dyna oedd Paradise: tref yng nghanol parc coediog; cartrefi a’r holl adeiladau a geir mewn unrhyw dref wedi eu codi’n llythrennol yng nghanol coedwig drwchus.
Beth bynnag yw tarddiad yr enw, mae’n anodd meddwl y bydd neb o hyn allan yn dweud ‘paradwys o le’ am y dref hon a ddifrodwyd yn llwyr gan y tân a gyneuodd yn gynnar fore Iau, Tachwedd 8. Bu Camp Fire (a enwyd felly am mai yn Camp Creek Road y dechreuodd) yn llosgi yn Paradise a’r ardaloedd cyfagos hyd ddiwedd yr wythnos ddiwethaf. Difrodwyd dros 13,000 o gartrefi; lladdwyd o leiaf 83 o bobl; ac er nad oes sicrwydd o’r union niferoedd, ofnir fod cannoedd o bobl eraill ‘ar goll’ o hyd. Mae gweddillion y dref yn fwy o uffern nag o baradwys erbyn hyn.
O’n paradwys gymharol ein hunain, offrymwn ein gweddïau dros y bobl a ddioddefodd yng Nghaliffornia: y rhai a gollodd anwyliaid; y rhai a anafwyd; y rhai a gollodd eu cartrefi a’u holl eiddo; y rhai sydd heddiw heb do uwch eu pen; y rhai a welodd erchyllterau na fydd modd eu hanghofio fyth; y rhai sy’n gweini, yn gofalu, yn ymgeleddu ac yn gweinidogaethu yn enw Iesu Grist yn ardal Paradise. Mewn gair, gweddïwn dros bawb a ddioddefodd ac a fydd yn parhau i ddioddef am amser maith.
Mae’n gwbl amhosibl i ni amgyffred y fath ddistryw a’r fath golledion a ddaeth i ran y bobl hyn. Mae’n anodd iawn amgyffred y fath newid a ddaeth i fywydau miloedd lawer o bobl o fewn ychydig oriau, os nad munudau. Ond y mae’r cyfan yn dangos i ni’n eglur iawn mor frau y gall bywyd fod. Un funud roedd popeth yn iawn, a’r funud nesaf roedd popeth ar chwâl. Mae pob math o bethau eraill yn medru chwalu ein byd ninnau. O gofio hynny, ac oherwydd hynny, diolchwn i Dduw bob dydd am y bywyd sydd gennym, a cheisiwn ei nerth i fyw’r bywyd hwnnw i’r eithaf gan fwynhau’r cyfan a roddodd yr Arglwydd i ni.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 25 Tachwedd, 2018