Kiev

Hanes dychrynllyd o drist a gafwyd o Wcráin a’i phrifddinas Kiev yr wythnos ddiwethaf.  Lladdwyd oddeutu 100 o bobl yno yng nghanol y protestiadau yn erbyn yr Arlywydd Viktor Yanukovych.  Dechreuodd y protestiadau hynny ym mis Tachwedd y llynedd, a chyrraedd eu penllanw’r dyddiau diwethaf hyn.  Ac er i gytundeb o fath gael ei arwyddo ddydd Gwener rhwng y llywodraeth a’r gwrthwynebwyr, mae’n amlwg nad oedd mwyafrif y protestwyr yn fodlon â hwnnw.  Erbyn ddoe, roeddent wedi meddiannu palas yr Arlywydd yn Kiev a’i orfodi i ffoi i ddinas arall, ac yn dal i alw am ei ymddiswyddiad wrth i’r cyn Brif-weinidog, Yulia Tymoshenko gael ei rhyddhau o gaethiwed mewn ysbyty.

Gobeithio’n fawr y daw heddwch i bobl Wcráin yn fuan, ac y ceir trefn gyfiawn a fydd yn rhoi sefydlogrwydd i’r wlad.

Roedd rhai o’r geiriau a glywyd gan bobl yr eglwysi yn Kiev yn ddigon i’n sobri. Offeiriad Uniongred yw Nikolai Himaylo, a bu’n gweini ar rai o’r bobl a fu farw yn y ddinas ddydd Mercher.  ‘Rwy’n dyst,’ meddai, ‘i’r hyn sydd wedi dod yn wladwriaeth droseddol. Ni ellir maddau i Yanukovych.  Mae’r bechgyn hyn yn marw dros ryddid.’

Ac meddai Alla Gedz, aelod o’r Eglwys Anglicanaidd yn Kiev, ‘Nid wyf yn cael fy nychryn erbyn hyn wrth weld cyrff marw … Rydym yn ddiolchgar iawn am eich gweddïau , oherwydd yng nghanol y chwyldro nid oes gennym heddwch goruwchnaturiol yn ein calonnau.’

Gweddïwn y bydd Duw yn rhoi i bobl Kiev ac Wcráin lonyddwch, ac y caiff cymod a chyfiawnder le amlwg wrth i’r bobl ail adeiladu eu gwlad ar seiliau cadarnach a thecach.

Mae’r geiriau a ddyfynnwyd yn rhoi i ni olwg ar brofiad rhai o Gristnogion y wlad.  Gan fod yr offeiriad Nikolai Himaylo yn credu mai’r Arlywydd ei hun oedd wedi gorchymyn i’w luoedd ymosod ar y protestwyr ni allai feddwl am faddau iddo.  Yn sŵn y bwledi ac yng nghanol y dioddefaint mae’n hawdd deall pam y dywedai’r fath beth, er bod yr Efengyl yn sôn am faddau hyd yn oed i elyn.

Ac mae’n hawdd cydymdeimlo ag Alla Gedz sy’n cyfaddef bod tangnefedd yn y galon yn brin yn y sefyllfa hon.  Er iddi gredu bod Duw gyda hi, realiti pethau yw ei bod yn anodd profi’r  tangnefedd yng ngwres y dydd.

Gall problemau ac anawsterau effeithio arnom.  Ac er i ninnau gredu yn naioni a chariad Duw, nid oes gennym ni chwaith y gallu i wynebu popeth ein hunain.  Ni fedrwn ohonom ein hunain faddau i bobl sy’n gwneud drwg i ni, ac ni ddaw tangnefedd yn rhwydd.  Ni feiddiwn feirniadu’r offeiriad am fethu â maddau, na’r ferch am fod yn brin o dangnefedd, ond cydymdeimlwn â hwy yn eu hymateb gonest i’w dicter a’u poen. Boed i Dduw eu nerthu, a rhoi iddynt y tangnefedd na ddaw ond oddi wrtho ef, a’u galluogi yn y man hyd yn oed i faddau i’w gelynion yn enw Iesu.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 23 Chwefror, 2014

Capel Got Talent 2014

Cynhaliwyd Capel Got Talent yn Capel Coch am yr ail flwyddyn nos Wener, Chwefror 21 a chafwyd eitemau amrywiol a safonol.  Diolch i bawb a gymerodd ran, ac i’r beirniad, Arwel Jones (Hogia’r Wyddfa) am ei sylwadau a’i gymorth.  Yr enillydd eleni oedd Deio Roberts, a ganodd gân ‘Y Chwarelwr’ a chael canmoliaeth uchel gan y beiriniad, a oedd yn canmol pob un a gymerodd ran am eu gwaith.

Deio yn derbyn y tlws oddi wrth Arwel
Deio yn derbyn y tlws oddi wrth Arwel

 Bydd rhagor o luniau i’w gweld ar dudalen Capel Coch ymhen diwrnod neu ddau

 

Sochi’n malio?

Welais i fawr ddim o gystadlu wythnos gyntaf Gemau Olympaidd y Gaeaf o Sochi. A fwy na thebyg na welaf fawr mwy yr wythnos nesaf chwaith. ’Dwyf fi ddim yn siŵr iawn pam.  Fel arfer, ’dwi’n eithaf mwynhau sawl un o’r campau traddodiadol, fel y sgïo lawr mynydd a’r slalom, y naid sgïo a’r hoci ia, y sglefrio a’r dawnsio, y cwrlo a’r bobsledio.  (Mae’r holl neidio trosben ar fyrddau eira’n ymddangos yn fwy o driciau na chwaraeon Olympaidd i mi; ond mae’n siŵr mai arwydd yw hynny mai fi’n sy’n hen ffasiwn!)

Ond dal i feddwl ydw i pam nad yw’r gemau hyn wedi dal fy sylw.  O bosib bod a wnelo’r holl sôn a fu ymlaen llaw am ddiffyg hawliau dynol yn Rwsia rywbeth i’w wneud â’r peth.  O bosib bod cymaint o chwaraeon ar y teledu erbyn hyn fel nad yw hyd yn oed y Gemau Olympaidd mor arbennig ag oedden nhw ers talwm. O bosib mai’r stormydd a gawsom ni yn ystod yr wythnos a wnaeth i mi anghofio am y Gemau. O bosib mai diffyg amser, neu ddifaterwch neu ddiffyg diddordeb gwirioneddol yn y cyfan a fu’n gyfrifol.

A beth wedyn sy’n fy rhwystro rhag gwneud llawer o’r hyn y dylwn ei wneud fel Cristion? Cywilydd fyddai gorfod cyfaddef bod a wnelo difaterwch â’r peth.  Pam nad wyf yn gweddïo mwy?  Pam nad wyf yn myfyrio mwy nag a wnaf yn Y Beibl?  Pam nad wyf yn mynd i’r oedfa mor aml ag oeddwn? Pam nad wyf yn cyfrannu mwy nag a wnaf at waith yr eglwys?  Pam nad yw lluniau’r dioddefaint a welaf yn gwneud i mi frwydro dros gyfiawnder a rhoi o’r hyn sydd gennyf i leddfu poen eraill?  Pam nad wyf yn cyffroi pan glywaf ffrindiau’n cablu enw Iesu Grist?  Pam nad wyf ar dân dros Grist y Gwaredwr?

Dau o elynion sicr y bywyd Cristnogol yw difaterwch, a diffyg diddordeb yng ngwaith yr Arglwydd.  Pa obaith sydd am unrhyw fendith yn y gwaith os yw’r ddau beth hyn yn teyrnasu?  Ond o ble daw’r ddau beth, neu beth sy’n gyfrifol amdanynt?

Ffrwyth y galon sydd wedi oeri yw’r difaterwch difäol sy’n medru bod mor amlwg ym mywyd Cristnogion.  Sut allwn fod yn ddifater ynghylch Efengyl Iesu Grist a’r hyn y mae’r Gwaredwr yn ei ddisgwyl gennym?  Mwyaf tebyg am fod ein calon wedi oeri at Dduw, ac nad yw ein cariad at Iesu Grist yr hyn a fu nac y dylai fod os ydym yn credu ynddo ac yn ei arddel yn Arglwydd a Gwaredwr.  A mwy difrifol fyth yw’r posibilrwydd bod y diffyg diddordeb yng ngwaith Duw yn ffrwyth y galon sydd heb gredu yn yr Arglwydd o gwbl a heb ei goleuo gan oleuni’r Efengyl.  Heb olwg ar fawredd Crist nac unrhyw ddealltwriaeth o gariad Duw, does   ryfedd nad oes gan bobl ddiddordeb yn addoliad a gwaith yr eglwysi.

Ond gall Duw drechu ein difaterwch a rhoi i ni ddiddordeb ysol yng ngwaith ei Deyrnas.  Gweddïwn y bydd yn gwneud hynny er mwyn ei ogoniant.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 16 Chwefror, 2014

Dwy wers

Clywais sôn yr wythnos ddiwethaf am Yr Alban, yr International Standards Organisation, Streic y Glowyr a gwarth cam-drin plant o fewn Eglwys Rhufain.  A David Cameron.

Gwrthododd Mr Cameron ymddiheuro am yr hyn a wnaeth y Llywodraeth Geidwadol adeg Streic y Glowyr yn 1984-85 pan oedd hi a’r Bwrdd Glo yn mynnu mai 20 o byllau y bwriedid eu cau.  Roedd Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn honni bod y Llywodraeth yn bwriadu cau dros 70 ohonynt.  Ond fe ddangosodd dogfennau’r Llywodraeth a ryddhawyd ddechrau’r wythnos bod y Llywodraeth yn wir wedi bwriadu cau  75 o byllau o’r cychwyn.  Gwrthododd Mr Cameron ystyried ymddiheuro am y celwydd a ddywedwyd gan Lywodraeth Mrs Thatcher 30 mlynedd yn ôl, er bod hwnnw’n amlwg yn rhannol gyfrifol am y streic a’r holl helynt a’i dilynodd.  Petai Mr Cameron yn gwylio Newsnight ar BBC2 ba noson, byddai wedi dysgu rhywbeth gan Babydd amlwg o Ganada a fu’n trafod cam-drin plant a phobl ifanc o fewn Eglwys Rufain.  Ar derfyn y drafodaeth, pan ofynnwyd iddo beth oedd ganddo i’w ddweud wrth y dyn ifanc yn y stiwdio a oedd wedi ei gam-drin, atebodd ar unwaith ei fod yn ymddiheuro iddo ar ran yr Eglwys ac ar ei ran ei hun fel un o offeiriaid yr Eglwys honno. Roedd yn ateb diffuant, ac yn wers i Mr Cameron a phawb ohonom, bod ymddiheuro am gelwyddau a chamdriniaeth a phob pechod arall yn beth anrhydeddus a chywir.

Dwi ddim am gyhuddo Mr Cameron o ddweud celwydd, ond gelid dadlau bod mwy nag un anwiredd yn yr araith a gafwyd ganddo ddydd Gwener ynglŷn â’r Refferendwm sydd i’w gynnal yn yr Alban ym mis Medi.  Mynnai bod ‘ansicrwydd mawr ynghylch dyfodol y Deyrnas Unedig’ a bod gan bobl ‘saith mis i achub y wlad fwyaf rhyfeddol a fu erioed’, a ‘bod canrifoedd o hanes yn y fantol’.  Anwiredd yw dweud mai un wlad yw’r Deyrnas Unedig neu ‘Brydain’.  Gwladwriaeth o fwy nag un wlad yw hi, a dylai Mr Cameron wybod hynny. Gwlad yw’r Alban.  A gwlad yw Cymru, fel y cadarnhawyd y dydd o’r blaen gan yr International Standards Organisation, a ddatganodd mai ‘gwlad’ ac nid ‘tywysogaeth’ yw hi.  A byddai llawer o haneswyr a mwy nag un genedl arall, yn barod i  herio’r datganiad mai Prydain yw’r ‘wlad fwyaf rhyfeddol a fu erioed’. Un o’r rhesymau dros geisio annibyniaeth yw bod cymaint yn amau’r honiad hwnnw ac yn croesawu’r ffaith bod ‘canrifoedd o hanes yn y fantol’.

A’r ail wers i Mr Cameron a phawb arall yw bod gostyngeiddrwydd yn beth da a bod y gwirionedd yn bwysig.  Peth digon hyll yw ymffrostio ynom ein hunain a’n cyfrif ein hunain yn well na phawb arall, boed yn bersonol neu’n genedlaethol.  Ac mae’r gwir, am gau pyllau glo ac am statws gwlad, fel am bopeth arall yn holl bwysig.  Pan yw gostyngeiddrwydd a gwirionedd yn brin, mae edifeirwch ac ymddiheuriad mor angenrheidiol.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 09 Chwefror, 2014

Mumbai

 

Petaech chi yn ninas Mumbai yn India heddiw, byddai cyfle i chi fod ymhlith y teithwyr cyntaf ar drên un gledren (monorail) newydd y ddinas a fydd yn cario teithwyr am y tro cyntaf heddiw.  Ynghyd â’r metro (a fydd yn cynnwys trenau tanddaearol cyntaf y ddinas), a’r briffordd newydd, Eastern Freeway, a’r terminws newydd ym mhrif faes awyr y ddinas, mae’n arwydd amlwg o ffyniant newydd a datblygiad cyflym y ddinas a’r wlad.  Mae’n amlwg bod arian mawr yn cael ei wario ar foderneiddio system  drafnidiaeth y ddinas, a bod y wlad yn prysur ddatblygu ac yn dod yn rym economaidd o bwys yn y byd.

Ond mae’n amlwg hefyd nad yw’r budd economaidd wedi cyrraedd pob rhan o’r ddinas, a bod miloedd o bobl ymhellach o lawer oddi wrth fywyd cyfforddus na thaith yr un trên na char nac awyren.  Rhan o ddinas Mumbai yw slymiau Dharavi, lle mae rhwng hanner miliwn a miliwn o bobl yn byw mewn cytiau a thai annigonol mewn amgylchiadau  dychrynllyd.  Un peth sy’n dangos cymaint o dlodi sydd ym Mumbai yw’r ffaith bod Dharavi’n cael ei chydnabod yn un o slymiau mwya’r byd, er nad hi  o bosibl yw’r slym fwyaf yn y ddinas erbyn hyn.  Mae tlodi a chyfoeth yn gymdogion amlwg ym Mumbai.

Ac o heddiw ymlaen bydd y trên un gledren yn gwibio dros Dhavari.  Bydd yr hyn a wêl llawer o’r teithwyr danynt yn wahanol iawn i’w byd moethus hwy eu hunain.  Ac eto, os bydd eu trwyn yn nhudalennau papur newydd neu lyfr neu dabled electroneg mae’n bosibl na fyddant hyd yn oed yn sylwi ar drueni Dhavari.  A phetai hynny’n digwydd a thrigolion Dhavari yn aros yn eu tlodi am fod cymdeithas ffyniannus newydd India yn eu hanwybyddu, byddai’n drasiedi o’r mwyaf.

A gofalwn nad awn ninnau heibio i dlodi a chynni’r byd  Gwyliwn rhag i ni edrych, o sedd y trên fel petai, ar helbulon pobl heb gael ein cyffwrdd o gwbl gan y dioddefaint hwnnw.  Mor hawdd yw troi ymaith a dewis peidio â gweld angen pobl na’r cyfle sydd i ninnau weithredu drostynt.  Mae dilyn yr Arglwydd Iesu Grist yn ein gorfodi i garu ac i dosturio wrth bobl mewn anghenion o bob math. Gan mai felly’n union y gwnaeth ef.

Oherwydd Efengyl sydd gennym am Un nad aeth heibio, ond a ddisgynnodd i ganol y byd a’i helyntion.  Daeth Iesu i lawr o’r trên.  Daeth i ganol tlodi’r byd, i ganol ei fudreddi a’i ddrewdod; a mwy na hynny hyd yn oed, fe’i gwnaeth ei hun yn dlawd gan uniaethu â phobl yn eu dioddefaint.  Mae’n gwybod yn union beth yw newyn gan iddo ymprydio am ddeugain niwrnod yn yr anialwch.  Mae’n gwybod beth yw bod yn ddigartref gan nad oedd ganddo ef ei hun le i roi ei ben i lawr.  Mae’n gwybod beth yw bod yn unig ac yn wrthodedig gan iddo fynd i’r Groes.  A thrwy ei ddioddefaint a’i angau mae’n delio â’n tlodi gwaethaf ac yn galluogi methdalwyr ysbrydol i fod yn gyfoethogion yng ngolwg Duw.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 02 Chwefror, 2014