Teilwng yw

ll

Wrth wneud paned mi oedais ennyd i ddarllen y botel lefrith a dysgu o’r newydd mai 2.272 litr ydi 4 peint. Mi deimlais beth cywilydd nad oeddwn wedi cefnogi ffermwyr Cymru gan mai Jac yr Undeb yn hytrach na’r Ddraig Goch oedd ar y botel blastig.  Ac mi ddeallais i mi ‘roi 23 ceiniog yn ôl i ffermwyr’ – pwy bynnag ydynt a lle bynnag y maent – trwy brynu’r botel.

Wyddwn i ddim beth i’w feddwl o’r nodyn am y 23 ceiniog.  Yn amlwg, roedd yr archfarchnad a werthodd y llefrith i mi’n falch o’r nodyn; mor falch nes ei osod ddwywaith ar y botel.  Ond a minnau wedi talu £1.33 am 2.272 litr, mae’n rhyfedd meddwl mai dim ond 23 ceiniog y mae’r ffermwyr yn ei dderbyn (sef 10.12 ceiniog y litr) a hithau’n costio rhwng 25 a 35 ceiniog i gynhyrchu litr o lefrith, yn dibynnu ar system a maint y fferm.  Go brin fod gan yr archfarchnad reswm dros ymffrostio!

Ond nid y pris a’m trawodd gyntaf ond geiriad y nodyn hwn am ’roi yn ôl i ffermwyr’, fel pe byddai’r ffermwyr yn elusen o ryw fath, a ninnau wrth brynu llefrith yn rhoi cildwrn iddynt. Ond dydyn ni’n dda, ni a’r archfarchnad, yn rhoi ein ceiniogau i’r ffermwyr?  Ydw i’n annheg â’r archfarchnad?  Onid yr hyn a ddisgwylir gennym yw ein bod yn talu pris teg i’r ffermwyr am eu holl waith caled yn cynhyrchu’r llefrith ar ein cyfer?  Mae byd o wahaniaeth rhwng hynny a rhoi rhywfaint o arian yn ôl iddynt. Mae’r ffermwr, fel pob gweithiwr, yn haeddu ei dâl

Dyna’r egwyddor a reolai ymateb Iesu Grist pan ofynnwyd iddo a ddylid talu treth i Gesar. Ceisio ei rwydo i roi ateb y gellid ei feirniadu amdano yr oedd y bobl a’i holodd, ond ateb gwych Iesu oedd, ‘Talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw’ (Mathew 22:21). Roedd hyd yn oed yr Ymerawdwr meddai, yn deilwng o gael, trwy’r dreth, dâl am yr hyn yr oedd yn ei ddarparu ar gyfer pobl.  Ond nid oedd hwnnw’n deilwng o gael ei garu a’i addoli. Dim ond Duw sydd yn deilwng o hynny.

Nid yw Cristnogion yn rhoi clod a mawl i Dduw am eu bod yn meddwl ei fod yn syniad da nac am eu bod yn mwynhau gwneud hynny.  Un peth sy’n eu cymell, sef yr argyhoeddiad fod Duw’n deilwng o’r clod a’r mawl a’r diolch.  Nid gwneud cymwynas â Duw yr ydym wrth ei addoli,  Ac yn sicr, nid yw’r Arglwydd Dduw yn elusen sy’n ddibynnol arnom am barch a gwasanaeth ac ufudd-dod.

Yr ydym addoli Duw am ei fod yn gwbl deilwng o’n clod.  Yr ydym yn ei garu am ei fod yn haeddu cael ei garu.  Yr ydym yn ei wasanaethu am mai dyna sy’n iawn i ni ei wneud. Y mae’r Duw a’n carodd ac a roddodd i ni gymaint o fendithion yn deilwng o’r cyfan y medrwn ei roi iddo.  Mwy na hynny, y mae’n deilwng o gael ein calonnau.  Mae’n deilwng o gael y cyfan ydym am ei fod wedi’n caru a’n hanrhydeddu trwy roi i ni, yn ei Fab Iesu Grist, frawd a cheidwad gogoneddus.  Ac ar Ŵyl y Geni, dathlwn ddyfodiad y Mab hwnnw i’r byd, a ninnau’n gwybod ei fod yn deilwng o’r gorau a’r cyfan y medrwn ei gynnig iddo.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 17 Rhagfyr, 2017

 

Gem beryglus

Jerusalem---36-hours---cityscape-xlargeCaf fy nghyhuddo o godi bwganod os byddan nhw’n darllen y geiriau hyn.  Ond a ninnau yn nhymor y pantomeim mi atebaf, ‘O na dwi ddim!’ Ac er y gellid dadlau eu bod nhw’n gweddu i’r dim i bantomeim, does dim byd doniol ynghylch yr hyn a wnaethon nhw nac a ddywedon nhw’r wythnos ddiwethaf.

Roedd y Brexiteers yn fodlon peryglu’r berthynas rhwng Iwerddon a’r Gogledd trwy fod mor annelwig ynglŷn â ffin bosibl ar yr Ynys Werdd.  Oedden nhw wedi anghofio’r cyfnod pan oedd ffin gadarn, a heddlu a milwyr yn rheoli’r croesfannau?  Oedden nhw’n fodlon gwneud rhywbeth a allai gyfrannu at ddadwneud yr holl glosio a fu?  Ydyn nhw’n benderfynol o greu rhwygiadau newydd trwy roi cyfle i wleidyddion y DUP gyhuddo Llywodraeth Iwerddon o gynllwynio i fanteisio ar drafodaethau Brexit i hyrwyddo Iwerddon unedig?  Oes ots ganddyn nhw be ddigwydd ar yr ynys cyn belled â’u bod nhw’n cael y maen i’w wal trwy gefnu ar yr Undeb Ewropeaidd?  Ac er bod rhyw lun o gytundeb wedi ei sicrhau echdoe mae o hyd ansicrwydd ynghylch union fanylion y berthynas rhwng Iwerddon, Gogledd Iwerddon, gweddill gwledydd Prydain ac Ewrop.

Ond os yw Brexiteers Mrs May yn rhyfygus o annoeth, can gwaith gwaeth ydi Donald Trump a gyhoeddodd ddydd Mercher fod yr Unol Daleithiau yn cydnabod Jerwsalem yn brifddinas Israel. Cafodd y cyhoeddiad ei ganmol i’r cymylau gan Brif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu.  Nid syndod hynny wrth gwrs, ac roedd Trump ac yntau’n mynnu bod y penderfyniad yn gam tuag at sicrhau heddwch yn y rhan hon o’r byd.  Ond nid syndod chwaith mai condemnio’r cyhoeddiad a wnaeth gweddill arweinwyr byd oherwydd yr ofn gwirioneddol y bydd hyn yn gwaethygu’r tensiynau rhwng Israel a’r Palestiniaid ac yn esgor ar ragor o drais. Gwaetha’r modd, mae’r ofn hwnnw eisoes wedi ei wireddu.

Tristwch pethau yw bod y Brexiteers a Trump yn fodlon gweithredu heb boeni am y canlyniadau.  Pa ots os bydd y tensiynau yn Iwerddon ac Israel yn dwysau?  I’r Brexiteers a Trump, pris bychan i’w dalu fyddai hynny er mwyn i Brydain gael ei rheoli ei hun ac i fuddiannau America ddod yn gyntaf.  Erbyn hyn, y mae o leiaf addewid na cheir ffin gadarn yn Iwerddon, a does ond gobeithio na newidir hynny yn nes ymlaen. Ond anos yw bod yn obeithiol ynghylch Israel, gan ei bod yn debygol y gwelir llawer mwy o dywallt gwaed oherwydd datganiad Trump.

Trueni a chywilydd pethau yw bod carfan gref o Gristnogion America yn cefnogi Trump, er ei bod yn amlwg y bydd ei ddatganiad yn sicr o arwain at waethygu’r trais a’r ymladd yn Israel a’r Dwyrain Canol. ‘Dyma’r peth iawn i’w wneud er mwyn America’ yn ôl yr Arlywydd. Oni all Cristnogion ei wlad weld fod lles pobl a chyfiawnder i bawb o bob cenedl yn bwysicach hyd yn oed na lles eu gwlad nhw?

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 10 Rhagfyr, 2017

Campbell a Welby

welby (2)

Mi wrandewais y dydd o’r blaen ar gyfweliad diddorol a wnaeth Alastair Campbell â Justin Welby, Archesgob Caergaint ar gyfer cylchgrawn o’r enw GQ. Gellir darllen a gweld y cyfweliad ar wefan GQ.  Yno, yn hytrach nag ar dudalennau’r cylchgrawn, y gwelais ac y darllenais i sgwrs y ddau.

Ac ie, sgwrsio fu’r ddau, er gwaetha’r pennawd pryfoclyd Alastair Campbell vs Archbishop of Canterbury.  Rwy’n deall yn iawn y byddai’r cylchgrawn am sicrhau’r gynulleidfa fwyaf bosibl i’r cyfweliad, a pha ffordd well i wneud hynny na chyflwyno’r cyfweliad fel rhyw fath o gystadleuaeth rhwng y Cristion o Archesgob a’r anffyddiwr o holwr.  Wedi’r cwbl, mae gwrthdaro a dadlau wrth fodd y cyfryngau.

Cafwyd trafodaeth dda. Dysgwyd cryn dipyn am y naill ddyn a’r llall, a hynny o bosibl am na chafwyd y dadlau poeth a awgrymwyd gan y pennawd. Nid Campbell yn erbyn yr Archesgob oedd hi mewn gwirionedd, ond Campbell a’r Archesgob yn trafod ac ymddiddan.  Roedd gan yr holwr a’r un a holwyd barch at swyddogaeth ei gilydd, a pharch hefyd at y naill a’r llall. Yn amlwg, fe gafwyd cwestiynau heriol, ond oherwydd ei allu a’i bwyll fe lwyddodd yr Archesgob i osgoi dadl boeth, ac fe gadwyd y drafodaeth yn adeiladol a chall.

I mi, y ddau beth a oedd yn nodweddu cyfraniad Justin Welby i’r drafodaeth hon oedd ei ffydd a’i onestrwydd. Wrth gael ei holi am grefydd ac am ‘doing God’, roedd yr Archesgob yn mynnu mai ymateb personol i’r Arglwydd  Iesu Grist a’r hyn a wnaeth ef drosom yw’r peth sylfaenol. Ac yr oedd yn fwy na pharod i herio Alastair Campbell yntau i ymateb i’r Iesu.

Ac yr oedd gonestrwydd yr Archesgob wrth geisio ateb rhai cwestiynau yn beth iach.  Ni honnai wybod yr ateb i bob cwestiwn sy’n wynebu’r Eglwys heddiw. Roedd yn cydnabod ei fod ef fel llawer o bobl eraill yn holi Duw, er enghraifft wrth weld dioddefaint mawr o’i gwmpas.  Ac yr oedd yn onest a gostyngedig wrth sôn amdano’i hun, heb unrhyw ymffrost nac arlliw o hunan bwysigrwydd, fel dyn na fel archesgob.

Ac oherwydd ffydd a gonestrwydd yr Archesgob (ynghyd â mesur go dda o allu a doethineb) fe gafwyd cyfweliad sy’n gallu bod yn wers i bob Cristion ac eglwys. Yn aml iawn, awn i ddadlau ymhlith ein gilydd a chyda phobl eraill ynghylch pethau’r Ffydd. Gwell na dadlau fyddai i ninnau dystio i Iesu Grist a’i waith trosom.  Ond os dadlau, gwnawn hynny fel Justin Welby, mor gwrtais a gonest â phosibl, gan barchu pobl y byddwn yn trafod â hwy.  Mae modd glynu wrth yr hyn a gredwn, ac wrth y gwirionedd a ddatguddiwyd yn yr Arglwydd Iesu Grist, heb fod yn amharchus o bobl sy’n anghytuno â ni neu’n credu’n wahanol i ni, a heb roi’r argraff chwaith ein bod ni’n gwybod ac yn deall y cyfan.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 03 Rhagfyr, 2017