Ar y naill law does dim posib dweud lle mae rhai pobl y dyddiau hyn, ond ar y llaw arall does dim byd cyn hawsed. Anfon neges wnes i at weinidog yr wythnos dwytha i ofyn am erthygl ar gyfer y Pedair Tudalen. Cefais ateb o fewn ychydig funudau yn ymddiheuro na fedrai wneud dim ar hyn o bryd am ei fod yng Nghanada! A minnau’n ofni y byddai fy neges wedi ei styrbio ar ganol ei waith!
Mae mor hawdd teithio heddiw, ac mae pobl yn crwydro i bob rhan o’r byd. Ac mae technoleg fodern y cyfrifiaduron a’r ffonau symudol yn golygu bod modd i bobl gysylltu â’i gilydd yn rhwyddach nag erioed o’r blaen. O fewn munud neu ddwy i anfon y neges roeddwn wedi cael gwybod bod y gweinidog hwn yng Nghanada bell, a mwy na hynny hyd yn oed roeddwn wedi cael neges o’r wlad honno’n addo y byddai’n ymateb i’m cais unwaith y byddai wedi cyrraedd adref.
Ond gallwn sôn am ble mae pobl arni mewn ystyron eraill eraill hefyd. Er enghraifft, lle mae pobl yn eu perthynas â’i gilydd ac yn eu perthynas â Duw. Yn aml iawn, gall fod yn anodd gwybod beth mae pobl yn ei feddwl o’i gilydd. Mae rhai’n medru bod yn wên deg gyda phobl eraill gan ymddwyn fel pennaf ffrindiau, ac eto bod yn wahanol iawn y tu ôl i’w cefn. Gall pobl fod yn oriog eu hymddygiad, yn gynnes a chyfeillgar un funud ond yn oer ac annifyr y funud nesaf. Gall fod mor anodd gwybod lle maen nhw arni go iawn ag ydyw i wybod lle mae dod o hyd i ambell un sy’n hoff o deithio’r byd.
A’r un modd mae’n anodd dweud lle mae rhai pobl yn ysbrydol, o ran eu perthynas â Duw. Oherwydd chewch chi ddim awgrym gan rai o beth maen nhw’n ei gredu am Dduw nac yn ei feddwl o’r Arglwydd Iesu. Mae fel petai peth preifat yw Cristnogaeth yn hytrach na ffydd a gobaith a bywyd sy’n gyffredin i bob un o ddilynwyr Iesu Grist. Ac yna fe gewch eraill sy’n barod i arddel y Ffydd ond sy’n dweud a gwneud pethau na ddisgwyliech oddi wrth yr un Cristion!
Mae’n anodd gwybod lle mae pobl arni am na allwn ddarllen calonnau ein gilydd. Duw yn unig sy’n chwilio ac yn adnabod y galon. Ac eto mae yna bethau sy’n ein helpu i weld lle mae pobl (a ninnau wrth gwrs) arni yn eu perthynas â Duw. Pa flas a gawn ni ar air Duw, er enghraifft? Fyddwn ni’n darllen Y Beibl ac yn myfyrio am ystyr y geiriau a ddarllenwn? Ydym ni’n gweddïo’n gyson? Fyddwn ni’n siarad â Duw am mai oddi wrtho Ef y cawn bob nerth a chymorth? Ydym ni’n gweld gwerth mewn addoli’n gyson gyda’n cyd-gristnogion? Ydym ni’n ymwybodol o’n beiau, yn eu cydnabod ac yn ceisio maddeuant amdanynt? Ydym ni’n dangos awydd i fyw yn well, yn debyg i’r Iesu? Ydym ni’n parchu a charu Iesu ac yn awyddus i’w ddilyn a rhoi’r clod iddo ym mhob peth? Pethau o’r fath sy’n dangos lle mae pawb ohonom arni gerbron Duw.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn 29 Medi, 2013