Yn ei dyb ei hun

Trydydd ydi Rory McIlroy; Jon Rahm ydi’r ail; ond Scottie Scheffler sydd ar hyn o bryd ar frig rhestr swyddogol golffwyr gorau’r byd. Mae’r hen Tiger Woods cyn ised â safle 983 ar y rhestr honno. Ond dydi enw un o’r golffwyr gorau ddim ar y rhestr, er gwaetha’r ffaith iddo ennill cystadleuaeth o bwys yn ddiweddar iawn. Ac nid unrhyw fuddugoliaeth chwaith gan fod y chwaraewr dawnus hwn wedi dod yn bencampwr er iddo golli rownd gyntaf y gystadleuaeth. Nid colli o ran cael ei drechu, ond colli yn yr ystyr o fod yn absennol ar ddiwrnod cynta’r ornest.

Os gwyddoch unrhyw beth am golff, rydach chi’n deall nad ydi hynny’n bosibl. I gael unrhyw obaith o ennill cystadleuaeth mae’n rhaid i olffiwr chwarae ym mhob rownd, boed un, dwy, tair neu bedair rownd. Chaiff neb ymuno â’r gystadleuaeth ar yr ail neu’r trydydd diwrnod, wedi colli rownd neu ddwy. Ond dyna’n union a wnaeth yr arch-olffiwr Donald Trump. Wedi colli rownd agoriadol yr ornest, ymunodd â’r chwarae ar gyfer yr ail rownd gan nodi sgôr well na neb ar gyfer ei rownd gyntaf trwy honni iddo sicrhau’r sgôr ryfeddol honno ychydig ddyddiau’n gynharach! Aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth. A doedd ryfedd hynny gan fod y cyn-arlywydd yn enwog am ei anonestrwydd ar feysydd golff am ei fod yn gyson yn hawlio sgôr is na’i wir sgôr wrth fynd o dwll i dwll. Rhannodd y newydd da am y fuddugoliaeth gwbl ysgubol ar ei blatfform cyfryngau  cymdeithasol ei hun, TRUTH. A dyna beth ydi eironi o’r radd fwyaf.

Yn ei dyb ei hun, Mr Trump oedd y pencampwr, a chan mai fo oedd pia’r cwrs golff mae’n debyg nad oedd neb am feiddio dweud fel arall. Yn ei dyb ei hun hefyd, fel y ceisiodd argyhoeddi Pwyllgor Breintiau Tŷ’r Cyffredin ddydd Mercher, mae Boris Johnson  yn ddieuog o gamarwain yn fwriadol aelodau’r Tŷ hwnnw. Iddo ef, mae’n gwbl anhygoel y byddai unrhyw bwyllgor nac unigolyn am un eiliad yn meddwl fel arall. Waeth beth y rheolau na beth y dystiolaeth i’r gwrthwyneb, y gwir i’r naill a’r llall yw’r hyn y maen nhw’n dewis ei gredu. Ac nid annhebyg yw’r olwg sydd gan lawer o bobl ar ffydd a chrefydd. Beth bynnag a ddywed y Beibl, beth bynnag yw cred draddodiadol yr Eglwys, beth bynnag a ddywed yr un Cristion, ‘fel hyn yr ydw i’n ei gweld hi!’ Onid dyna ddywed cynifer o bobl?

Mae pawb yn rhydd i gredu’r hyn a fyn wrth gwrs. Ond ni olyga hynny fod pawb yn gywir na bod barn pawb yr un mor ddilys gan fod y fath beth â gwirionedd: gwirionedd gwrthrychol; gwirionedd sydd wedi ei ddatguddio gan Dduw ei hun. Nid beth yr ydw i’n ei gredu am Dduw sy’n cyfrif ond beth y mae Duw wedi ei ddweud ac wedi ei ddangos amdano’i hun. Nid fy syniad i am Iesu Grist sy’n bwysig, ond yr hyn a ddatguddiwyd i ni amdano yn y Beibl. Gallaf anghytuno faint fynnaf â’r hyn a ddywed Duw amdano’i hun ac am ei Fab, ond fydd hynny ddim yn gwneud fy marn i yn gywir. Chaf fi ddim anwybyddu’r dystiolaeth na’i hail lunio yn ôl fy mympwy fy hun.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 26 Mawrth 2023

Neis

Tybed be’ wnai’r ‘Hen Ŵr o’r Coed’ o’r holl newid a fu ers iddo gofnodi ei ‘Atgofion am Blwyf Llandegai’ union ganrif yn ôl yn rhifyn Mawrth 2023 o Y Cyfaill Eglwysig? Mae cymaint wedi newid mewn can  mlynedd.

Wrth sôn am ysgolfeistr a ymadawodd â Llandegai ym 1863, dywedodd mai ‘hen ŵr nice’ oedd Mr Ffoulkes. Ond mae’n amlwg bod ein dealltwriaeth o’r gair bach Saesneg nice yn wahanol iawn erbyn hyn! Yn ôl yr erthygl, roedd Mr Ffoulkes yn ‘Gymro glân’, ond ni siaradai fyth air o Gymraeg â’r plant, a chosbai hwy â’r Welsh Not ac â ‘smack ar ei law’. Roedd ganddo ‘winnedd miniog, ac arferai binchio’r plant, ac wedi hynny eu gwatwar os wylent. Yn lle cansen roedd ganddo bric blaenfain … â’r hwn yr arferai frathu neu bwnio rhai ohonom mewn lle go   dender, nes y byddem ar lawr yn rhwbio’r dolur, a’r hen sgŵl yn ein gwatwar.’ Go brin y medrwn heddiw dderbyn eglurhad yr awdur mai ‘ychydig yn hen ffasiwn yn ei ffordd oedd yr hen athro’! Ac anodd ydi meddwl y byddai neb am un eiliad heddiw’n ystyried cynnig swydd iddo mewn unrhyw ysgol. Ond yn ei ddydd, roedd yn amlwg yn ddyn neis!

Mae llawer mwy nag ystyr ambell air wedi newid dros y ganrif ddiwethaf wrth gwrs. Ac o feddwl ymhellach nôl i gyfnod Mr Ffoulkes yn Llandegai, nid y lleiaf o ddigon o’r  pethau a newidiodd er gwell yw lle’r Gymraeg ym myd addysg a’r  gwaharddiad ar gosb gorfforol.

Ond pa newidiadau bynnag a welwyd, mae yna bethau sydd yr un ac nad oes  newid arnynt o ganrif i ganrif.  Ac ar drothwy’r Pasg, fe’n hatgoffir mai’r pwysicaf ohonynt yw’r Efengyl a’i chyhoeddiad am y bywyd sydd i bobl trwy farwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Yr un yw’r Efengyl o oes i oes, a’r un yw’r Gwaredwr: ‘Iesu Grist,  yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth’ (Hebreaid 13:8). Yr un yw neges yr Eglwys Gristnogol heddiw ag yn y ganrif gyntaf gan mai Iesu Grist yw’r neges honno. Cyhoeddi Iesu Grist – ei ymgnawdoliad, ei fywyd, ei esiampl, ei ddysgeidiaeth, ei ufudd-dod, ei farwolaeth, ei atgyfodiad, ei esgyniad a’i ail ddyfodiad – a wna’r Eglwys heddiw fel erioed. Mae’r cyfan sydd ganddi i’w ddweud a’i gynnig wedi ei sylfaenu ar Iesu Grist a’r hyn a wnaeth ef tros eraill. Nid syniadau na  delfrydau ond person –person gwir a fu fyw mewn cyfnod a lle penodol, a’r hyn a gyflawnodd ac a ddioddefodd – yw sail y Ffydd Gristnogol. Cyhoeddi Crist a’i groes a’i fedd wag a wna’r Eglwys yn yr unfed ganrif ar hugain, fel yn y ganrif gyntaf, nid am ei bod yn stori dda nac am ei bod yn mynnu glynu wrth draddodiad ond am mai marwolaeth ac atgyfodiad Crit yw’r digwyddiadau a roes fod iddi ac sy’n dal i roi iddi ei phwrpas a’i gobaith. Crist y groes a’r bedd gwag fu ei neges, a’r Crist hwn hefyd yw ac a fydd ei neges. A pheth arall nad yw’n newid yw’r ffaith fod yna lu o bobl ym mhob canrif a chyfnod sydd trwy ffydd a chymorth Duw yn arddel y Ffydd hon.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 19 Mawrth 2023

Rhyddid

Mwyaf ffŵl fi! Ond mae gen i berffaith hawl i newid pethau. Ac er ei bod yn nos Sadwrn a’r swper yn aros amdanaf, mi ddylai fod gen i amser i sgwennu’r erthygl hon yn lle’r un a orffennwyd ddoe. Mi ddylwn fod wedi ei sgwennu ac wedi bwyta fy swper mewn pryd i weld Match Of The Day, ond gan mai 20 munud o raglen fydd honno heno bydd hen ddigon o amser wedyn os bydd rhaid. A fydd dim rhaid gwared â’r erthygl wreiddiol chwaith gan fod gen i hawl i osod honno hefyd ar wefan Gronyn. Fedr neb fy rhwystro rhag gwneud hynny.

Bydd Match Of The Day yn wahanol iawn heno heb gyflwynydd na phyndit na sylwebydd. Wedi i benaethiaid y BBC benderfynu atal Gary Lineker rhag cyflwyno’r rhaglen am iddo   wrthod ag ymddiheuro am feirniadu Mesur Mewnfudo Anghyfreithlon Llywodraeth San Steffan, gwrthododd pynditiaid a sylwebyddion gymryd rhan yn y rhaglen er mwyn ei gefnogi. Mae ei benaethiaid yn mynnu bod Gary Lineker wedi torri Cod Didueddrwydd y BBC er bod mwy nag un ohonynt hwy yn gefnogwyr i’r Llywodraeth. Does ond wythnosau ers i ni glywed bod Richard Sharp wedi helpu Boris Johnson i gael benthyciad o £800,000 pan oedd y naill yn Brif Weinidog a’r llall yn gobeithio cael ei benodi’n  Gadeirydd y BBC. Afraid dweud y penodwyd Mr Sharp, ac afraid dweud ei fod yn awr yn cyhuddo Gary Lineker o beidio â bod yn ddiduedd. Gobeithio na fydd y gefnogaeth i Gary Lineker yn mynd yn bwysicach na’r hyn yr oedd o’n tynnu sylw ato’n wreiddiol, sef  Mesur annynol Suella Braverman a’r Llywodraeth i atal mewnfudwyr rhag dod i wledydd Prydain. Nid Lineker yw’r dioddefwr ond yr holl bobl y bydd y Mesur yn effeithio arnynt. Un a fu’n feirniadol o Lineker yw’r gŵr busnes John Cauldwell, a gyfrannodd £500,000 i’r Blaid Geidwadol yn 2019. Mae o’n mynnu bod Lineker ‘yn anwlatgarol ac yn niweidio delwedd Prydain’. Mae llawer mwy i’r stori na’r Mesur dadleuol: un enghraifft yn unig yw Mr Cauldwell o’r bygythiad cynyddol i ryddid a hawliau dan y Llywodraeth bresennol sy’n ystyried unrhyw wrthwynebiad i’w pholisïau yn anwlatgar ac annerbyniol. Wrth gwrs bod angen codi llais yn ei herbyn gan nad oes wybod beth fydd pen draw’r fath anoddefgarwch o bob    safbwynt a barn sy’n annerbyniol. 

Nid cwbl annhebyg yw llywodraethau ar draws y byd sy’n anoddefgar o hawliau pobl i arddel argyhoeddiadau crefyddol ac yn rhwystro credinwyr ac eglwysi rhag dwyn eu tystiolaeth i’r Ffydd Gristnogol. Mae’r rhyddid i gredu (ac i beidio â chredu), y rhyddid i fynegi barn a’r rhyddid i gyhoeddi ac i rannu ein ffydd yn bethau i ddiolch i Dduw amdanynt ac i’w trysori a’u gwarchod. Oes, mae gen i hawl heno i arddel y Ffydd, a hawl i gyhoeddi Gronyn ar bapur ac ar y we, a hawl i fynd i bregethu ac addoli yfory. Duw a’m helpo i wneud yn fawr ohono ac i beidio â’i gymryd yn ganiataol.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 12 Mawrth 2023

Carwch

‘Oedd o yn y coleg efo taid yr hogan?’ ‘Oedd hi’n nain i gefnder ei ffrind?’ Yn nhymor yr eisteddfodau, dyna’r math o beth y bydd rhywrai’n ei ddeud am ambell feirniad! ‘Oni fyddai pob un gwerth ei halen wedi gweld mai fy mhlentyn i oedd y gorau o bell ffordd?’ Yn wyneb y fath gyhuddiadau, byddai beirniaid parchus o Fôn i Fynwy’n rhuthro i ddatgan eu bod bob amser yn gwbl deg ac yn hollol ddiduedd.

Fasa fo ddim yn gneud beirniad da. Fasa fo’n sicr ddim yn ddiduedd! A fasa fo ddim yn trio cuddio hynny chwaith. Beth petai o’n nabod un o’r cystadleuwyr? Beth petai un o’i blant ei hun yn camu i’r llwyfan? Fyddai dim pwrpas i neb arall gystadlu (pe byddai wedi ei nabod wrth gwrs!) ‘Y wobr gyntaf i Johnson Junior’ fyddai hi bob gafael. Beth arall ellid ei ddisgwyl oddi wrth ddyn a roddodd sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi i’w frawd ac sy’n awyddus i anrhydeddu ei dad ei hun â’r teitl ‘Syr’ trwy’r rhestr anrhydeddau y clywsom amdani’r wythnos ddiwethaf? Y fath wyneb sydd ganddo! Ond doedden ni’n gwybod hynny p’run bynnag?

Y peth rhwyddaf yn y byd yw ffafrio ffrindiau a châr. Mae’n naturiol i bobl ddymuno’r gorau i’w hanwyliaid, ond mewn byd a betws rhaid gochel rhag ffafriaeth. A ddylid dyrchafu pobl am eu bod yn perthyn i rywun o bwys? A ddylid cyflwyno i gydnabod a theulu gyfleoedd a manteision nad ydynt ar gael i eraill? Mor gyfan gwbl wahanol yw gorchymyn Iesu Grist i’w bobl: ‘Ond wrthych chwi sy’n gwrando rwy’n dweud: carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i’r rhai sy’n eich  casáu, bendithiwch y rhai sy’n eich melltithio, gweddïwch dros y rhai sy’n eich cam-drin’ (Luc 6:27-28). Nid ffafrio câr ar draul eraill ond caru a gwneud daioni i bawb, hyd yn oed bobl sy’n ein cam-drin ac yn bwriadu drwg i ni. Mae’r gorchymyn hwn yn cyfleu’n berffaith y bywyd newydd a gwahanol y galwyd y Cristion iddo: gwasanaeth i Grist a chariad at eraill, pwy bynnag a beth bynnag ydynt. Yn ôl Iesu, ffafrio cyfeillion a charu’r rhai sy’n ein caru ni yw ffordd y byd, ac  ‘Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneud cymaint â hynny’ (6:33). Mae ffordd Iesu’n chwyldroadol o wahanol. Ac am ei bod yn gwbl amhosibl i neb ei dilyn ohono’i hun mae arnom ni, fel ei holl ddisgyblion dros y canrifoedd, angen y gras a’r nerth a geir trwy ffydd yn Iesu Grist ei hun. Yn Efengyl Luc (fel yn y Bregeth ar y Mynydd yn Efengyl Mathew) daw’r gorchymyn hwn i garu wedi’r disgrifiad a geir yn y Gwynfydau o’r Cristion fel y tlotyn ysbrydol sy’n wylo am ei gyflwr ac yn newynu am faddeuant a derbyniad i deyrnas a theulu Duw. Pobl felly sy’n ceisio gras i ufuddhau i orchmynion mawr Iesu i garu fel hyn. Pobl ydyn nhw sy’n sylweddoli nad yw Iesu’n gofyn iddyn nhw wneud dim nad ydi o’i hun wedi ei wneud o’u blaen gan iddo fod yn fodlon i ddioddef a marw ar Galfaria dros bobl a oedd unwaith yn elynion iddo.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 12 Mawrth 2023

Gwobr

Canmolwyd Rishi Sunak i’r cymylau ddydd Llun diwethaf am y ‘Fframwaith Windsor’ a gyhoeddwyd ganddo ar y cyd ag Ursula von dêr Leyen, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Ym Melffast drannoeth, wrth  annog pawb o bob perswâd i gofleidio’r Fframwaith mynnodd y byddai Gogledd Iwerddon o’i gweithredu ‘mewn safle unigryw trwy’r byd i gyd, a chanddi fynediad i farchnad fewnol y Deyrnas Unedig – pumed  economi fwyaf y byd – ac i Farchnad Sengl yr Undeb Ewropeaidd. Does gan neb arall hynny; neb o gwbl. Dim ond chi, “guys”; dim ond yma! Dyna’r wobr!’ Byddai’r byd cyfan am fuddsoddi a sefydlu busnesau yn ardal economaidd fwyaf cyffrous y byd!  

Un ai mae Mr Sunak yn dwp neu mae’n credu bod y gweddill ohonom yn dwp. Ofni ydw i fod y ddeubeth yn wir gan mai’r union beth y mae’r Prif Weinidog yn ei ganmol a ddilëwyd gan y Brecsit yr oedd o mor frwd o’i blaid. Ar Fawrth 26, 2016, meddai, ‘Dyma o bell ffordd y penderfyniad anoddaf i mi ei wneud fel Aelod Seneddol, ond ar Fehefin 23 byddaf yn pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd’. Roedd y breintiau hyn a wna i’r byd cyfan ‘genfigennu wrth Ogledd Iwerddon’ yn eiddo i’r Deyrnas Unedig cyn iddo fo a’i debyg fynnu eu taflu ymaith. Mae’n anhygoel ei fod bellach, heb owns o gywilydd na’r awgrym lleiaf o eironi, yn cymeradwyo’r union freintiau hyn.

Ar un wedd, roedd hyn yn f’atgoffa o’r ffordd y bydd llawer yn gofidio am ddirywiad a thranc cynifer o gapeli ac eglwysi yng Nghymru, a hwythau yn aml yn aelodau na wnaethant ddim i’w diogelu nac i gyfrannu at eu gwaith. Gweld eu gwerth wedi eu colli; gweld eu gwerth wedi eu gwrthod.

Ond gwaeth na phwysicach na hynny yw gwrthod yr Efengyl. Y neges am groes Iesu Grist a’i fedd gwag a roes i’r Eglwys ei gwerth a’i hystyr ar hyd y  canrifoedd. Braint yr Eglwys fu credu’r neges; a’i bri fu bod yn offeryn i gyhoeddi’r neges honno. Ond aeth aberth ac atgyfodiad yn annerbyniol ac atgas i lawer ers blynyddoedd. Ac er pob dyhead am lewyrch a llwyddiant i’r Eglwys, mae’r union beth a rydd obaith i hynny wedi ei hen wrthod. Mae pobl am weld y byd yn cofleidio Crist ond ar yr un pryd yn gwadu’r Crist hwnnw eu hunain.

A rhag pwyntio bys at eraill yn unig, gwyliwn rhag annog eraill i gofleidio’r neges a ninnau hefyd, os nad yn ei gwrthod, yn ei dibrisio. Mor rhwydd yw cymeradwyo’r Efengyl i eraill, a’n calonnau ein hunain yn oer a chaled. Mor rhwydd yw pwyso ar eraill i droi at Grist, a ninnau’n euog o beidio ag ymddiried ynddo. Mor rhwydd yw cyfeirio eraill at fywyd o wasanaeth ac ymgysegriad i Grist, a’r ymdrech a’r ddisgyblaeth yn brin yn ein bywydau ein hunain. Gwyliwn rhag mawrygu’r bywyd Cristnogol yr ydym hefyd yn ei wrthod, ‘rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy’ (1 Cor.  9:27).

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 5 Mawrth 2023