Cefnywaun, Deiniolen
Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Gweinidog:
Y Parchg John Pritchard
Cilfynydd, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd LL55 4HB
Ffôn: 01286 872390
E-bost: john.cilfynydd@btinternet.com
Ysgrifennydd:
I’w b/phenodi
Trysorydd:
Mr Irfon Thomas
6 Tai Marian, Deiniolen, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR
Ysgrifennydd Cyhoeddiadau’r Sul:
Miss Marian Jones,
Minallt, 7 Bro Elidir, Dinorwig, Caernarfon, Gwynedd LL55 3ET
Blaenoriaid
Miss Marian Jones
Oedfaon y Sul yn Nhŷ Elidir ar Stryd Fawr Deiniolen (ar y cyd ag eglwys Ebeneser)
Oedfaon arferol:
Oedfa am 3.30 neu 5.00 o’r gloch bob Sul.
Gweler y manylion llawn dan ‘Cyhoeddiadau’ ar y wefan hon.
https://wordpress.com/page/gronyn.wordpress.com/10
Yr Ysgol Sul: Nid oes Ysgol Sul ar hyn o bryd
Cyfarfodydd eraill:
Colled fawr
Mrs Margaret Cynfi Griffith
Bu farw Mrs Margaret Cynfi Griffith yng Nghartref Nyrsio Penisarwaun, yn hwyr nos Lun, Rhagfyr 5, 2016, ychydig funudau’n brin o’i phen blwydd yn 84 oed. Cydymdeimlwn ag Emyr a Rhiannedd, Iola a Rhys, a Glyn a Nia a’u teuluoedd yn eu colled fawr. Rhoddodd Margaret oes o wasanaeth i eglwys Cefnywaun, fel athrawes Ysgol Sul, organyddes, blaenor (ers 1992), ysgrifennydd cyhoeddiadau’r Sul am dros 40 o flynyddoedd ac ysgrifennydd yr eglwys ers dros ugain mlynedd. Bu hefyd yn ysgrifennydd Pwyllgor yr Ofalaeth ac yn Ysgrifennydd Cymdeithas Undebol Deiniolen. Bu’n gefn mawr i’r eglwys a’i haelodau, ac yr oedd ei gofal am yr eglwys yn eithriadol. Yr oedd yn wraig ddiwylliedig, ac yn ddarllenwraig frwd. Roedd yn athrawes boblogaidd, a daeth yr yrfa a ddechreuodd yn Hwlffordd ac yna ym Motwnnog i ben gyda’i hymddeoliad o Ysgol Brynrefail. Bu’n gefn eithriadol i bob gweinidog y bu’n cydweithio â hwy yn yr eglwys, a thros gyfnod o 28 o flynyddoedd ni chefais ond y gefnogaeth gadarnaf ganddi bob amser. Mae’n gadael bwlch anodd os nad amhosibl ei lenwi o fewn yr eglwys. – John Pritchard
Teyrnged
Mr Eifion Williams – Colled fawr i’r eglwys oedd marwolaeth Mr Eifion Williams, nos Sul, Ionawr 30, 2011. Bu’n flaenor am yn agos i 50 mlynedd, gan iddo gael ei ordeinio yn 1962. Gwasanaethodd yn ffyddlon ar hyd y blynyddoedd. Bu’n gofalu am adeiladau’r capel am flynyddoedd hefyd. Roedd ei gyfraniad i fywyd yr eglwys yn fawr, a bu’n aelod ffyddlon a gwerthfawr o bwyllgorau’r eglwys a’r Ofalaeth. Bu’n gyfaill da, yn gydweithiwr ffyddlon, ac yn gefn mawr i mi fel ei weinidog am dros 22 o flynyddoedd, a byddaf yn gweld ei golli yn fawr. Diolch am ei gyfraniad at waith yr eglwys mewn cyfnod a fu’n ddigon anodd ar lawer cyfrif, ac yn arbennig felly yn ystod y trafodaethau a’n harweiniodd i adael capel Cefnywaun a pharhau’r Achos trwy i eglwys Cefnywaun rannu adeilad Ebeneser. Wedi cyfnod o waeledd mawr, roedd yn benderfynol o ail ymuno â ni yn yr oedfaon, a llwyddodd i wneud hynny mor ffyddlon ag erioed hyd at y Sul olaf un cyn iddo gael ei daro’n wael a’i gipio i’r ysbyty.