Gwerth gweddi?

Mewn llythyr yn y Daily Post ddydd Mercher roedd Gerard Tobin o Gonwy yn feirniadol o ymateb yr eglwysi Cristnogol i ddioddefaint y ffoaduriaid sy’n ceisio lloches yn ein plith ar hyn o bryd.  Wn i ddim pa gyswllt sydd gan Mr Tobin â’r eglwysi’n gyffredinol nac â’r un eglwys unigol.  Ond yr hyn a wn yw ei fod, wrth gyhuddo’r eglwysi  o wneud dim ond gweddïo dros y bobl hyn, yn gor-gyffredinoli. Wrth wneud hynny mae’n gwneud cam mawr â rhai eglwysi ac yn rhy garedig wrth eraill.

Dros y misoedd diwethaf, nid gweddïo yn unig a wnaeth rhai eglwysi.  Buont hefyd yn codi llais ac yn llythyru â gwleidyddion er mwyn ceisio dwyn perswâd ar y Llywodraeth i groesawu rhagor o ffoaduriaid i wledydd Prydain.  Buont yn gefnogol o ymdrechion   mudiadau fel Cymorth Cristnogol i helpu pobl mewn llefydd fel Syria ac Irac.  Ac mewn aml i dref a dinas bu eglwysi’n croesawu’r ffoaduriaid a ddaeth i’w plith gan roi iddynt gymorth ymarferol o bob math.  Cwbl annheg ar ran yw Mr Tobin yw awgrymu na wnaeth eglwysi o’r fath ddim ond gweddïo.  Ond yn anfwriadol mae’n rhy garedig wrth ambell i eglwys wrth eu cyhuddo o wneud dim ond gweddïo a hwythau o bosibl heb offrymu’r un weddi dros yr un ffoadur.

Pa reswm bynnag sydd ganddo dros feirniadu’r eglwysi, mae beirniadaeth Mr Tobin nid yn unig yn annheg ond hefyd yn amhriodol.  Nid bai’r eglwysi Cristnogol yw’r hyn sy’n digwydd yn Syria a’r gwledydd eraill y mae’r bobl hyn yn ffoi oddi wrthynt.  Ac nid esgus dros beidio â gwneud dim dros eraill yw’r gweddïau dros ffoaduriaid neu unrhyw un arall a gyflwynir i ofal Duw, er bod Cristnogion ar brydiau, mewn rhwystredigaeth yn cydnabod mai gweddïo yw’r unig beth y gallant ei wneud.

Yn aml, mewn gwewyr a dryswch y mae pobl Dduw’n gweddio gan nad yw’n amlwg fod Duw’n clywed nac yn ateb eu gweddïau.  Mewn tristwch mawr y gwnânt hynny hefyd wrth glywed, fel y gwnaethant yr wythnos ddiwethaf, am 71 o bobl yn marw mewn hen fan fwyd yn Awstria a thua 200 arall eto’n boddi oddi ar arfordir Libya.  Ond o gredu yng ngrym gweddi ac o wybod y byddai miloedd o’r ffoaduriaid sy’n ceisio lloches yng ngwledydd Ewrop yn falch o wybod fod rhywrai’n gweddio drostynt mae Cristnogion yn ymdrechu i ddal ati i wneud hynny, er i rai fel Mr Tobin fwrw eu llach ar weddi ei hun gan ei gymharu ag arian diwerth (‘valueless currency’).

Mae gofyn i’r eglwysi fod yn ddigon aeddfed a gostyngedig i ystyried pob beirniadaeth resymol a chyfiawn  Ond  pan fo miloedd yn marw, mae angen i bobl ffydd a phawb arall, yn unigolion a llywodraethau, wneud popeth posibl i leddfu dioddefaint ac achub bywydau. Nid trwy ddirmygu gweddiau diffuant a gonest pobl Dduw y gwneir hynny.

Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 30 Awst, 2015