Mae rhai pethau’n gwbl anhygoel, ac un o’r digwyddiadau hynny oedd tranc awyren Airbus germanwings yn yr Alpau yn Ffrainc ddydd Mawrth. O fewn diwrnod, trodd yr ofnau am ddamwain neu ymosodiad terfysgol yn hunllef y sylweddoliad fod Andreas Lubitz, un o’r ddau beilot, wedi hedfan yr awyren yn fwriadol i’r mynydd gan ei ladd ei hunan a chant a hanner o bobl eraill ar amrantiad. Ers hynny, clywyd llawer amdano, a’r cwestiwn na ellir ei ateb yw pam y byddai dyn yn cyflawni gweithred mor erchyll. Mae’n anodd meddwl y bydd unrhyw beth a ddaw i’r amlwg am gefndir a chymeriad a hanes Andreas Lubitz yn medru rhoi esboniad digonol am yr hyn a ddigwyddodd. Mae rhai pethau na fedrwn eu deall.
Yn naturiol, mae’r cydymdeimlad heddiw â theuluoedd y bobl a laddwyd. Bydd miloedd lawer yn gweddïo dros y teuluoedd hynny a thros bobl yr ardal gyfagos i’r man y digwyddodd y cyfan, yn cynnwys y bobl sy’n gorfod gwneud y gwaith digalon o chwilio am y cyrff yng nghanol yr holl ddifrod. Roedd yn dda clywed yn ystod yr wythnos hefyd rywun yn sôn am yr angen i gofio a gweddio dros rieni Andreas Lubitz yn eu poen a’u dryswch a’u colled. Os deallais yn iawn, roedd y dyn a glywais yn galw am hynny wedi colli mab yn y trychineb. Mae’n anodd dychmygu eu poen hwythau heddiw. Gweddïwn dros bawb a ddioddefodd mewn unrhyw ffordd oherwydd y trasiedi diweddaraf hwn yn Ffrainc.
Roedd popeth yn iawn fore Mawrth. Neu felly yr oedd yn ymddangos i’r bobl oedd yn cydweithio â Lubitz. Ond trodd y cwbl yn fwy na chwerw. Roedd yn ymddangos fod popeth yn iawn hefyd wrth i Iesu farchogaeth i Jerwsalem ar gefn asyn. Ond trodd pethau’n fwy na chwerw yno hefyd wedi i Jwdas Iscariot benderfynu ei fradychu i’r bobl a oedd am ei ladd. Diflannodd cynnwrf llawen Sul y Blodau’n fuan iawn.
Derbyniodd Jwdas ddeg darn arian ar hugain yn dâl am fradychu Iesu. Ond nid yw’r trachwant am arian ynddo’i hun yn esbonio pam y gwnaeth Jwdas hyn. Roedd mwy i’r peth na hynny. Sut allai’r dyn fradychu ei gyfaill? Sut allai droi yn erbyn ei arweinydd a’i athro? Bron na ddywedwn eto fod yna bethau na fedrwn eu deall.
Ond yn achos Jwdas mae yna esboniad ac fe geir hwnnw gan Luc: ‘Ac aeth Satan i mewn i Jwdas’ (Luc 22:3). Rhoddodd Jwdas le i Satan, ac roedd canlyniadau dychrynllyd i hynny. Yn y pen draw, gwaith yr Un Drwg yw pob gweithred ddrwg a wneir gan bobl yn y byd hwn. Mae Satan wrth ei waith o hyd yn creu llanast a difrod. Ond mor bwysig yw cofio bod Teyrnas Dduw yn gryfach na theyrnas yr Un Drwg, a bod yr un a farchogai’r asyn ac a fu’n crogi ar groes yn gryfach na Satan. Mewn byd o ddinistr, mor braf yw cofio a hyn gan ymddiried yn yr Un sydd wedi gorchfygu pob drygioni.
Cliciwch yma www.gronyn.org/gronyn i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – rhifyn Dydd Sul y Blodau, 29 Mawrth, 2015