Neb tebyg iddo

Ddydd Mercher diwethaf cafodd yr Arlywydd Trump ei uchel gyhuddo gan aelodau Tŷ’r Cynrychiolwyr.  Roedd hyn i’w ddisgwyl. Mae o’n gandryll wrth gwrs; ac roedd hynny hefyd i’w ddisgwyl. 

Wedi fy siomi wyf fi.  Wedi i mi dybio na allai dim ynglŷn â Mr Trump fy siomi bellach, mae ymateb dau o’i gefnogwyr i’r uchel gyhuddo wedi llwyddo i wneud hynny. Mae’r hyn a ddywedwyd gan Barry Loudermilk a Fred Keller yn hynod drist o gofio bod y ddau’n arddel ffydd yn Iesu Grist. Ar drothwy’r Nadolig, mae’n waeth na thrist: mae’n gableddus.

Cymharu’r achos yn erbyn Trump ag achos llys ein Gwaredwr a wnaeth y  Cyngreswr Loudermilk gan fynnu bod Crist wedi cael gwrandawiad mwy teg na’r Arlywydd: ‘Yn ystod yr achos ffals hwnnw, caniataodd Pontus Pilat fwy o hawliau i Iesu nag a ganiataodd y Democratiaid i’r Arlywydd hwn’.

Dyfynnu geiriau’r Gwaredwr ar Galfaria a wnaeth y Cyngreswr Keller, ‘O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud’ (Luc 23:34), gan fynnu mai dyna ei weddi yntau dros y rhai sy’n cyhuddo’r Arlywydd.

Cabledd llwyr yw honiad Loudermilk i Trump gael ei drin yn waeth ac yn fwy anghyfiawn na’r Arglwydd Iesu Grist.  Cabledd yw awgrym Keller bod Trump rywsut ar yr un gwastad â Christ a bod cyhuddwyr y ddau mor euog â’i gilydd. A chabledd i bob pwrpas yw’r modd y mae’n dibrisio gweddi fawr Iesu.

Un o’r pethau a ddathlwn ar Ŵyl y Geni yw bod babi bach Bethlehem yn gwbl unigryw. Y mae wrth reswm yn debyg i ni gan iddo ddod yn blentyn ac yn ddyn go iawn. Ond y rhyfeddod mawr yw mai Duw ei hun oedd y dyn hwn. Gan ei fod yn ddyn a Duw, roedd yn wahanol i ni ac yn unigryw. Ond yr oedd yn wahanol fel dyn hefyd am ei fod yn ddyn perffaith.

Fe’i ganed yn berffaith, ac arhosodd yn gwbl ddibechod ar hyd ei oes. Ac felly roedd pob erlid arno a phob cyhuddiad yn ei erbyn yn ddi-sail ac anghywir. Ni ellir dweud hynny am yr un person arall. Mae’r gorau o bobl y byd, o bob cenedl a chenhedlaeth, yn euog o ryw bechodau neu’i gilydd. Neges y Nadolig yw bod Crist wedi ei eni i fyw bywyd perffaith fel y gallai, ar Galfaria, ddwyn y gosb nid am ei bechod ei hun ond am bechod pobl eraill.

Y mae’r awgrym lleiaf fod un ohonom ni mewn unrhyw fodd yn well na Iesu Grist yn wrthun. Nid amarch â Mr Trump yw i ni bwysleisio nad yw o gystal â’r Gwaredwr. Nid amarch yw i ni atgoffa cyfeillion yr Arlywydd na chafodd hwnnw ei drin yn salach na Iesu Grist. Ac nid amarch yw i ni ddweud na chafodd Trump chwaith fwy o gam nag a gafodd ein Harglwydd. 

Ar drothwy’r Nadolig, mae’n weddus i bawb ohonom gydnabod ein beiau. Ond gallwn yr un pryd lawenhau fod Iesu Grist wedi dod i sicrhau i ni faddeuant am yr holl feiau hynny. Rhyfeddwn wrth gofio’i eni; dotiwn wrth sylweddoli iddo gael ei wneud yn un ohonom ni.  Fe brofodd ein gwendid a’n breuder; fe’i darostyngodd ei hun ac fe’i temtiwyd. Ond ni fu’n euog o’r un bai, fel plentyn nac fel dyn. Ni fu, nid oes ac ni fydd neb tebyg iddo. Ac oherwydd hynny dim ond ffŵl neu gablwr a feiddiai awgrymu bod unrhyw un ohonom ni bechaduriaid wedi cael mwy o gam nag a gafodd Mab Duw.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 22 Rhagfyr, 2019

Dechrau gwella

Wedi unrhyw anaf neu afiechyd, mor braf gweld pobl yn dechrau gwella.  Wedi pob ffrae ac anghydfod, mor dda gweld pobl yn llyfu clwyfau a dechrau byw’n gytûn.  Diolch am feddygon a nyrsys a phawb sy’n helpu i wella cleifion. Diolch hefyd am bawb sydd ag unrhyw beth i’w wneud â chymodi teulu a ffrindiau pan fo angen hynny.  Y fath groeso all fod i’r geiriau, ‘Mae’n bryd dechrau gwella’.  Boed gysur y meddyg neu anogaeth y cymodwr, mor werthfawr geiriau o’r fath sy’n cynnig gobaith mewn pob math o sefyllfaoedd.

Ond mewn rhai amgylchiadau, gall y geiriau hynny fod yn amddifad o gysur ac unrhyw anogaeth. Pe bai meddyg yn ymosod arnoch ac yn eich anafu’n ddrwg, pa gysur fyddai ei glywed yn dweud mewn llais melfedaidd ei bod ‘yn bryd dechrau gwella’? Pa anogaeth i gymodi a fyddai’r un geiriau o geg rhywun a fyddai newydd eich cam-drin a’ch brifo a pheri loes fawr i chi?

Mor rhwydd y daw geiriau. Ac mor ddiystyr ydynt ar adegau. Mor aml y mae geiriau’n ddiwerth am nad yw’n briodol eu dweud. Os wyf fi’n achosi loes i rywun, pa hawl sydd gennyf i ddweud wrtho fo neu hi ei bod yn bryd ‘dechrau gwella’ a rhoi’r cyfan o’r tu cefn iddynt am fy mod i eisiau hynny? Neu os wyf fi’n ffraeo efo nhw ac yn achosi pob math o bryder iddynt trwy fy ngeiriau cas, pa hawl sydd gennyf i fynnu eu bod yn anghofio’r cyfan am fy mod i wedi penderfynu ei bod yn bryd gwneud hynny?  Nid eiddo’r sawl sy’n achosi’r boen yr hawl i ddweud wrth y dioddefwr ei bod yn hen bryd meddwl am wella. Yn sicr, gwag yw pob anogaeth i eraill ‘ddechrau gwella’, heb yr un gair o ymddiheuriad iddynt nac unrhyw gydnabyddiaeth o fai.

Y mae i bopeth a ddywedwn ac a wnawn eu canlyniadau.  Mae hynny’n wir am ein pechodau. Yn aml iawn, tristwch pethau yw na fedr ein geiriau ddadwneud y canlyniadau hynny gan fod y drwg wedi ei wneud a’r loes yn aros. Hyd yn oed os ceir cymod a maddeuant, mae’n anodd lleddfu’r boen a gwella’r briw. Ac yn sicr, nid gan y sawl a gyfrannodd at y boen y mae’r gallu i wella na hyd yn oed i benderfynu pryd y dylid meddwl am wneud hynny. 

Ar bob cyfrif, ceisiwn gymod ag eraill.  Os oes arnom fai, cydnabyddwn hynny gan ymddiheuro am ba ddrwg bynnag a wnaethom. O wneud hynny, bydd gobaith i eraill faddau i ni, a gobaith hefyd am gymod a pherthynas newydd. Ond cofiwn nad oes gennym hawl i fynnu bod y bobl yr ydym ni wedi eu brifo yn medru anghofio’r cyfan a wnaethom. Nid oes botwm y medrwn ei bwyso i wared yn wyrthiol â’r creithiau a adawn ar y naill a’r llall.

Trwy ras Duw y daw cymod ag Ef ac ag eraill. Trwy ei ras y lleddfir pob gofid.  Ond trwy ei ras hefyd y daw nerth i fyw yn weddus, gyda pharch a chariad, rhag bod angen mynnu, (yng ngeiriau’r Sais) ‘Let the healing begin’.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 15 Rhagfyr, 2019

Meddwl y groes

Wedi’r mis o ymgyrchu a thrafod a dadlau mae diwrnod yr Etholiad wrth y drws. Roedd canran uchel o’r etholwyr yn gwybod dros bwy y byddent yn pleidleisio cyn cyhoeddi’r Etholiad o gwbl.  Mae rhai wedi newid eu meddwl ers hynny ac yn debygol o bleidleisio dros blaid wahanol i’r un y bwriadwyd ei chefnogi.  Ond mae eraill yn dal heb benderfynu beth i’w wneud. Fel ym mhob Etholiad Cyffredinol arall, bydd rhai’n mynd i’w gorsaf bleidleisio heb wybod pa ymgeisydd neu pa blaid a gaiff eu pleidlais. Ac unwaith eto, bydd  llawer yn cyfaddef mai ar y funud olaf un, pan oedd y papur pleidleisio a’r bensel yn eu dwylo, y penderfynon nhw ym mha flwch i osod y groes. Mewn rhai etholaethau, mae’n bosibl mai ar y pleidleisiau munud olaf hyn y bydd yr holl ganlyniad yn dibynnu; ac o gofio mai pleidleisiau cwbl fympwyol fydd llawer ohonynt mae rhywbeth hynod o ddigalon ynglŷn â’r cyfan. Ond dan y drefn etholiadol sydd ohoni mae pob croes gyfwerth â’i gilydd, a gall fod mai pleidleisiau heb fawr o feddwl y tu ôl iddynt a fydd yn troi’r fantol.

Nid oedd dim mympwyol ynglŷn â chroes ein Harglwydd Iesu Grist. Nid rhywbeth a ddigwyddodd yn annisgwyl oedd hi. Nid canlyniad digwyddiadau eraill ydoedd. Ac nid rhywbeth nad oedd yna feddwl y tu ôl iddi mohoni. Dyma groes a oedd yn ffrwyth meddwl Duw ei hun.  Dyma groes y bodlonodd Iesu i’w chario a’i dioddef wedi cyfri’r gost ac yn llawn sylweddoli beth yr oedd yn ei olygu.  

Braint yw bwrw pleidlais, a gweithred syml yw torri croes ar ddarn o bapur. Mae rhai ohonoch wedi gwneud hynny eisoes trwy gwblhau eich pleidlais bost. Bydd y gweddill ohonom yn gwneud hynny ddydd Iau gobeithio. Yr unig ymdrech a fydd yn ofynnol yw cyrraedd yr orsaf bleidleisio, torri croes ar bapur a phlygu’r papur a’i roi yn y blwch priodol. Braint yw hi i ni wybod fod Iesu Grist wedi dwyn ei groes trwy ymdrech fawr: yr ymdrech fwyaf a gaed erioed. Oherwydd nid gwaith hawdd oedd dod i’n byd a byw ei holl fywyd gan wybod mai croes fyddai diwedd ei daith ddaearol. Nid gwaith hawdd oedd wynebu Calfaria a’r farwolaeth boenus ar groes.

Y peth hawsaf yn y byd yw taro croes ar bapur, boed honno bleidlais neu ddarlun o groes Iesu ei hun. Ond i Iesu ei hun, y peth anoddaf oll oedd cymryd y groes ar ei ysgwyddau gan wybod y byddai’n cael ei hoelio wrthi ac yn marw arni o fewn dim. Yn nhymor yr Adfent, da yw cofio mai cael ei eni i farw a wnaeth baban Bethlehem. Tu ôl i’r cyfan – tu ôl i’w enedigaeth a’i fywyd a’i farwolaeth a’i atgyfodiad – yr oedd holl feddwl ei Dad perffaith, Duw cariadus a doeth a’i hanfonodd yn Waredwr i’r byd. Tu ôl i’r groes hon yr oedd bwriad meddylgar a dirgel Duw i ddarparu gobaith i bobl fel ni sy’n pechu’n fympwyol ac yn crwydro’n ddifeddwl oddi wrtho.  Ei groes ef a drodd y fantol trwy sicrhau gobaith i bechaduriaid a fyddai fel arall yn gwbl ddiobaith.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 08 Rhagfyr, 2019

Na foed cywilydd

Un o ddatganiadau mwyaf cofiadwy’r Testament Newydd yw, ‘Nid oes arnaf gywilydd o’r Efengyl’ (Rhufeiniaid 1:16). Un o Gristnogion amlycaf y ganrif gyntaf, Paul, a’u dywedodd, gan egluro, ‘Oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy’n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid’. O ddarllen neu glywed y geiriau mi ddywedwn innau ar unwaith, ‘Amen’. Yr Efengyl, wedi’r cyfan, yw sylfaen fy ngobaith a’m hyder. Hi yw sylwedd fy nghysur a’m llawenydd dyfnaf. Hi fu’n sail i’m pregethu dros y blynyddoedd. Hebddi, mi wn y byddai holl drywydd fy mywyd wedi bod yn wahanol. Na, nid oes arnaf gywilydd ohoni.

Nid oes arnaf gywilydd o’i mawredd: y newyddion da am allu Duw yw hi. Nid syniadau na gweithgaredd dynol yw’r Efengyl ond gweithgaredd achubol y gwir a’r unig Dduw Byw. Nid oes arnaf gywilydd o’i rhyfeddod, a hithau’n cynnig popeth y mae ‘iachawdwriaeth’ yn ei olygu: maddeuant, cymod, cysur, llawenydd, heddwch, gobaith a llawer mwy. Ac nid oes arnaf gywilydd o’i symlrwydd, a hithau’n cyhoeddi fod yr holl bethau hyn sy’n rhan o’r bywyd Cristnogol yn eiddo i bwy bynnag sy’n credu yng Nghrist. Ydi, mae’r cyfan ar ein cyfer trwy ffydd yn Iesu Grist, ac nid trwy ymarfer defodau crefyddol na chyflawni gweithredoedd moesol na meistroli gwybodaeth ddiwinyddol. Ei symlrwydd yw ei gogoniant: y mae holl fendithion gras a chariad Duw yn eiddo i bawb sy’n credu yn y Gwaredwr.

Ond weithiau, dim ond weithiau, mae symlrwydd gorchymyn ac addewid yr Efengyl yn destun cywilydd. Pan fydd rhai am gymhlethu pethau, a gwneud Cristnogaeth yn ymchwil ysbrydol a chrefyddol pob unigolyn am Dduw yn hytrach na datguddiad Duw ohono ei hunan yn ei Fab. Pan fydd eraill yn dadlau bod ein Hefengyl yn llawer rhy simplistig i bobl wybodus yr unfed ganrif ar hugain os mynnwn ddal i gredu mai’r Beibl yw sail y cyfan a gredwn am Dduw a’n perthynas ag Ef. Pan fydd rhai’n ein cyhuddo o lynu wrth ddysgeidiaeth hynafol a chyntefig am groes waedlyd a bedd gwag yn lle cofleidio syniadau a dehongliadau newydd. Pan fydd eraill yn dadlau mai peth eilradd yw ffydd (a hyd yn oed beth diystyr a pheryglus), ac mai gweithredoedd yw dechrau a diwedd y bywyd Cristnogol.

Ydi, weithiau mae’n demtasiwn i fod â chywilydd o’r Efengyl hon. Ydi hi mor syml â hyn? Oes modd ei chrynhoi mewn ychydig eiriau? Ai digon dweud, ‘Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi’ (Actau 16:31). Ydi; oes; ac ydi eto. Y mae’r Efengyl yn glir a syml: yn fwriadol felly wrth gwrs er mwyn i ni fedru gweld cariad Duw a’r hyn a wnaeth trosom yn Iesu Grist. Mae’n fwriadol felly er mwyn i bawb fedru ei chredu; hen ac ifanc, dysgedig ac annysgedig, doeth a ffôl, drwg a da. Ac os nad oes arnat gywilydd o’r Efengyl, ‘Na foed cywilydd arnat roi tystiolaeth am ein Harglwydd’ (2 Timotheus 1:8).

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 01 Rhagfyr, 2019