Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yng Nghyfarfod Carolau Cymdeithas Undebol Llanberis nos Fawrth: Côr Bytholwyrdd, dan arweiniad Mrs Mattie Hughes, a’u cyfeilyddes, Miss Marcia Thomas; Mr Gareth Jones oedd yn cyfeilio i’r carolau cynulleidfaol; pawb fu’n addurno’r festri; pawb fu’n paratoi’r lluniaeth ac yn gweini wrth y byrddau; a phawb a ddaeth yno i ganu a dathlu. Gwnaed casgliad yn rhodd i Mr Alan Pritchard, Cambrian Terrace, a fydd yn derbyn llawdriniaeth eto yn y flwyddyn newydd, a dymunir yn dda iddo ef wrth gwrs.
Rhwng yr eitemau yn y cyfarfod bum innau’n darllen darnau o’r Ysgrythur; a soniais am dri gair: talent, taliad a thaleb, a dyma ailadrodd yma fwy neu lai yr hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod, yn arweiniad i ni ar ddechrau wythnos y Nadolig.
Talent
Darn arian gwerthfawr oedd ‘talent’ yn yr hen gyfieithiad Cymraeg o’r Beibl, fel yn nameg y talentau a ddywedodd Iesu Grist. Mentraf ei ddefnyddio heddiw am unrhyw beth gwerthfawr, er mwyn gallu cyfeirio at rodd werthfawr y Nadolig. Gwyddom fod Duw wedi rhoi ei Fab yn rhodd i ni: “Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei Unig Fab” (Ioan 3:16). Ond mae Duw hefyd wedi ein rhoi ni yn rhodd i’w Fab: “Eiddot ti oeddent, ac fe’u rhoddaist i mi” (Ioan 17:6). Ar Wyl y Geni, diolchwn am y rhodd a gawsom, ond rhyfeddwn hefyd wrth feddwl ein bod ninnau yn rhodd Duw i Iesu. Daeth Iesu i’r byd am fod Duw wedi darparu’r rhodd ar ei gyfer.
Taliad
Mae anrhegion yn costio i’r rhai sy’n rhoi, ond nid i’r rhai sy’n eu derbyn. Ond weithiau, mae pobl yn talu am eu hanrhegion eu hunain, fel sy’n digwydd pan plentyn yn prynu anrheg i’w rieni efo arian a gafodd y plentyn ar gyfer hynny! Fe gawsom ni Iesu Grist yn rhodd rad, heb i ni wneud yr un math o daliad amdano i’w ennill na’i haeddu. Ond er bod Duw wedi ein rhoi yn rhodd i Iesu Grist, bu raid i hwnnw wneud taliad mawr er mwyn i ni fod yn eiddo iddo: “… prynwyd i chi ryddid … â gwerthfawr waed Crist” (1 Pedr 1: 18). Mae Duw wedi ein rhoi ni’n rhodd i’w Fab, ond mae’n rhaid i’r mab wneud y taliad er mwyn ein cael. Wrth ddathlu geni’r Iesu, cofiwn iddo ddod i’r byd i fawr drosom ar Galfaria.
Taleb
Tybed pwy ohonoch gaiff daleb yn rhodd eleni? Y cwbl gewch chi fore’r Dolig o bosibl fydd darn o bapur. Ond bydd hwnnw’n sicrhau rhyw brofiad arbennig i chi: trip mewn awyren neu noson yn y theatr neu benwythnos mewn gwesty, er enghraifft. Y cwbl fydd angen i chi ei wneud i fwynhau’r anrheg fydd mynd â’r daleb i’r maes awyr neu’r theatr neu’r gwesty. Ond os na chyflwynwch chi’r daleb, chewch chi mo’r anrheg. Mae Duw wedi rhoi ei Fab yn rhodd i ni, ond mae’n rhaid i ni gredu ynddo â’n holl galon er mwyn ei gael. Wrth gredu, mae fel petaem ni’n cyflwyno’r taleb.
Nadolig Llawen iawn i bawb ohonoch. Cyhoeddir y Gronyn nesaf ddydd Sul, Ionawr 2, 2011.
Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 19 Rhagfyr, 2010