‘Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwg fel doe sydd wedi mynd heibio, ac fel gwyliadwriaeth yn y nos.’ Dyna ddywed Salm 90:4. Gaf fi fentro gwneud rhywbeth na fyddwn fel arfer yn ystyried ei wneud? Rhywbeth na ddylwn ei wneud ond y caf, gobeithio, faddeuant amdano: aralleirio’r adnod, a dweud bod ‘mil o rifynnau yn dy olwg fel doe sydd wedi mynd heibio, ac fel gwyliadwriaeth yn y nos’.
Wedi dwy flynedd ar hugain, dyma filfed rhifyn Gronyn, a’r olaf. Dros y blynyddoedd, mwyaf piti, oherwydd cyfuniad o ddiogi a galwadau eraill bu raid wrth aml i ‘wyliadwriaeth yn y nos’ er mwyn ei gael yn barod erbyn bore drannoeth.
Yng ngolwg Duw Hollalluog a Hollwybodol mae mil o flynyddoedd fel un diwrnod, a mil o rifynnau fel un frawddeg. Mi rydw i wedi hen anghofio’r rhelyw o destunau a negeseuon y rhifynnau hynny, ond mae Duw’n cofio’r cyfan gan fod pob gair yn hysbys iddo Ef. Felly hefyd bopeth a ddywedais ac a feddyliais ac a wneuthum i a chithau erioed.
Wrth ddweud bod mil o flynyddoedd fel un diwrnod mae’r Salmydd yn dangos mor frau yw bywyd. Ddeufis yn ôl, arweiniodd Yevgeny Prigozhin luoedd preifat Wagner mewn cyrch aflwyddiannus yn erbyn lluoedd arfog Rwsia, a mawr fu’r dyfalu ers hynny beth a ddigwyddai iddo. Beryg y cawsom wybod ddydd Mercher, pan fu farw Prigozhin mae’n debyg. Mor wir yw geiriau’r Salmydd: ‘y maent fel gwellt yn adfywio yn y bore ond erbyn yr hwyr yn gwywo ac yn crino’ (adnod 6).
Ar ddiwedd bywyd, medd y Salmydd, rhaid wynebu Duw’r Barnwr sy’n gosod ‘ein camweddau o’th flaen, ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb’. Ac yna, mae’n cydnabod hawl Duw i fod yn ddig, cyn ceisio cymorth i fod yn ddoeth trwy erfyn am ei drugaredd. Gerbron Duw’r Barnwr sy’n gweld a chofio pob pechod a bai, ein hunig obaith yw ei fod Efe ei hun yn cynnig i ni drugaredd. ‘Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth’ (adnod 12).
Pwy a ŵyr beth a ddigwyddodd i Prigozhin? Gwadu pob cyfrifoldeb am y ‘ddamwain hwylus’ wna’r Arlywydd Putin. Ond mae Duw’n gwybod; a bydd raid i unrhyw un sy’n gyfrifol ateb am hynny ryw ddydd. Ac nid Putin ac arweinwyr byd yn unig ond, fel y dywed y Salmydd, bawb ohonom am bob pechod a bai.
O gofio dyfnder pechod y byd, rhyfeddod yr Efengyl yw y medrwn sôn o gwbl am faddeuant. Ond gwnawn hynny am fod Duw wedi trugarhau ac wedi caru’r byd gymaint nes rhoi ei Fab yn Waredwr ac yn obaith i bawb a wêl eu hangen am y maddeuant hwnnw. Y mae addewid o faddeuant i’r edifeiriol sy’n pwyso ar Iesu Grist. Ryfeddod a syndod (ond gwrthun i rai o bosib) ydi bod yr Arglwydd Dduw’n cynnig ei faddeuant i’r gwaethaf. Mae Vladimir Putin a Lucy Letby ymhlith y ‘gwaethaf’ yn ein golwg ni heddiw. Ac eto, oherwydd gras a chariad Duw, er mor ffiaidd eu gweithredoedd, y mae’r Efengyl yn mynnu ein bod yn dweud fod gobaith i rai felly, yn ogystal ag i ni, trwy edifeirwch a gwir ffydd yn y Gwaredwr Iesu Grist.
Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 27 Awst 2023