Y morladron

Pwy sy’n cofio’r tro hwnnw y gwnes i gyflwyno gŵr gwadd y Gymdeithas fel brawd i Aelod Seneddol o’r De?  Doedd o’n perthyn dim iddo!  Ydi, mae’n hawdd iawn rhoi’ch troed ynddi.

Nid troed ond llond Sefydliad y Merched o draed a roddwyd ynddi yn Parkham, Dyfnaint y dydd o’r blaen.  Gan wybod bod dyn o’r enw Colin Darch yn dod atyn nhw i sôn am forladron penderfynodd y merched y byddai’n syniad i bawb fynd i’r cyfarfod mewn gwisg ffansi.  Ac felly croesawyd Mr Darch gan lond stafell o ferched wedi eu gwisgo fel morladron. Sioc fawr iddyn nhw oedd sylweddoli nad sgwrs am forladron o’r hen oes oedd ganddo ond hanes gwir amdano fo ei hun yn cael ei herwgipio a’i gadw’n gaeth am 47 o ddyddiau gan forladron oddi ar arfordir Somalia yng Ngorllewin Affrica yn 2008.

Rhyddhad i’r merched oedd bod Mr Darch wedi medru gweld doniolwch y sefyllfa a’i fod yn deall mai camddealltwriaeth oedd y cyfan.  Ond fe allasai fod mor wahanol gan nad oedd dim byd doniol ynglŷn â’r perygl yr oedd Mr Darch ynddo pan gafodd ei herwgipio.  Byddai ambell un wedi ei frifo’n arw gan feddwl bod y merched yn trin y cyfan yn ysgafn.

Gallwn gydymdeimlo â merched Parkham.  Mae’n rhwydd iawn gwneud camgymeriadau anfwriadol.  Ac nid camgymeriadau bach yn unig chwaith.  Oherwydd mae’n rhwydd iawn gwneud pethau drwg a brifo pobl yn anfwriadol.  Ac mae eisiau bod ar ein gwyliadwriaeth rhag peth felly.  Oherwydd mae cymaint o bobl yn cael eu brifo heb i neb fwriadu hynny.  Ond dyw’r ffaith na wnaed y drwg yn fwriadol ddim yn gysur i’r un sydd wedi ei frifo.

Ond mor bwysig yw cofio bod Duw yn maddau’r pechodau anfwriadol hyn os byddwn ni’n eu cyffesu iddo.  A mwy o ryfeddod fyth yw bod Duw hyd yn oed yn maddau’r pechodau y byddwn ni yn fwriadol yn eu gwneud os cyffeswn y rheiny iddo hefyd.   

Mae ymddiheuro a chyffesu i’n gilydd yn rhan bwysig o’r broses o faddau hefyd.  Gweddïwn am y gras i gyffesu pan fyddwn ni wedi achosi loes i rywun arall, boed hynny’n fwriadol ai peidio.  A’r un pryd, gweddïwn am y gras i faddau i bobl sy’n troseddu yn ein herbyn ni, yn anfwriadol ai peidio, pan fyddan nhw’n cyffesu ac yn ymddiheuro i ninnau.

Ac yn ogystal â hynny, gweddïwn am y gras a’r nerth i fod yn effro bob amser a gwylio rhag i ni bechu’n fwriadol neu’n anfwriadol yn erbyn unrhyw un.  Gyda chymorth Duw yn unig y cawn ein cadw rhag hynny.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 05 Mai, 2013

Gadael sylw