Y Gohebydd

Mae ’na gymeriadau ffraeth i’w cael on’d does?  Mi fues i ym Mangor yng nghyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr ddiwedd yr wythnos.  Dros baned wedi’r oedfa echnos mi ofynnais i ffrind i mi sgwennu pwt o erthygl i mi am yr Undeb ar gyfer Y Pedair Tudalen yn y papurau enwadol.  Braidd yn anfodlon oedd o am nad oedd o erioed wedi sgwennu erthygl o’r blaen, ond mi lwyddais i’w berswadio a chael addewid ganddo y byddai’n gwneud y gwaith.  Yna, fore ddoe daeth ataf i chwilio am ‘y bathodyn’ ac i holi lle dylem ni ddynion y wasg eistedd!  Roedd o eisoes, medda fo, yn ei weld ei hun yn dipyn o Gwilym Owen.

Ia, dyna beth yw ffraethineb.  Roedd o’n gwybod yn iawn nad yw un erthygl yn gwneud neb yn ohebydd (yn enwedig ac yntau heb hyd yn oed ddechrau sgwennu’r erthygl honno).  Mewn gwirionedd, dyw llond papur newydd o erthyglau ddim o reidrwydd yn gwneud neb yn ohebydd.  Oherwydd mae mwy i fod yn ohebydd na sgwennu ambell erthygl.  Mae angen trwyn am stori; mae angen crebwyll i weld beth sy’n bwysig ynddi; mae angen gafael ar iaith a dawn i sgwennu’r stori’n ddiddorol.  Byddai rhai’n dadlau bod rhywun yn ohebydd wrth reddf; ond beth bynnag am hynny, mae angen hyfforddiant ac  ymarfer a diogon o brofiad cyn bod rhywun yn dod yn ohebydd go iawn. 

Ac nid yw gwneud ambell beth y mae Cristnogion yn ei wneud yn golygu bod rhywun yn Gristion chwaith.  Gallwn wneud daioni neu weddio neu ddarllen y Beibl neu hyd yn oed sôn am Iesu Grist, ond nid yw gwneud y pethau hynny o reidrwydd yn gwneud Cristnogion ohonom (ddim mwy nag yw sgwennu hanner dwsin o erthyglau yn gwneud gohebydd ohonom).  Ond dyna’r camgymeriad y mae llawer yn ei wneud wrth feddwl mai trwy wneud y pethau hyn yr ydym yn Gristnogion. 

Ydi, mae’r Cristion yn gwneud y pethau hyn.  Ond mae’n gwneud y pethau hyn am ei fod yn Gristion, yn hytrach na’i fod yn Gristion am ei fod yn eu gwneud.  Ac mae’n eithriadol o bwysig ein bod yn cofio hynny.  Oherwydd nid yw’r bywyd Cristnogol yn cychwyn efo’r pethau da a wnawn ni.  Mae’n cychwyn efo’r berthynas sydd gennym â’r Arglwydd Iesu Grist.  Adnabod Iesu Grist fel Cyfaill a Gwaredwr ac Arglwydd sy’n dod gyntaf, a hynny wedyn yn esgor ar y gwahanol bethau a wnawn yn y bywyd Cristnogol.  Ffydd yng Nghrist sy’n dod gyntaf, ac yna gweithredoedd.

Ffolineb fyddai i’m ffrind ei alw’i hun yn ohebydd am ei fod yn bwriadu sgwennu un erthygl.  Ffolineb hefyd fyddai meddwl ein bod yn Gristnogion am ein bod yn gwneud rhai pethau y mae Cristnogion yn eu gwneud.

Cliciwch ar ‘Gronyn’ ar ben y dudalen – rhifyn 23 Mehefin, 2013

 

Gadael sylw