Diwrnod mawr

Dyna oedd diwrnod o bwys mawr ar ddechrau Mai. Bu’r byd cyfan yn edrych ymlaen ato ers misoedd. Ers blynyddoedd hyd yn oed. A chaiff y dyddiad ei gofnodi yn llyfrau hanes ein gwlad fach ni a gweddill y byd.

Echdoe, dydd Gwener, y pumed o Fai, 2023, cyhoeddodd Sefydliad Iechyd y Byd bod yr argyfwng iechyd byd-eang Covid-19 – y pandemig a fu’n rheoli cymaint o’n bywydau ers tair blynedd a mwy – yn swyddogol ar ben. Ac er i Bennaeth y Sefydliad, Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus, gyhoeddi y bu farw 7 miliwn o bobl, yr oedd hefyd yn cydnabod y gallai’r pandemig fod wedi lladd hyd at 20 miliwn ar draws y byd.

Nid yw’r Sefydliad yn awgrymu am un eiliad bod Covid-19 wedi diflannu. Mae’r firws yma o hyd, wrth reswm. Nid oes arnom angen Dr Ghebreyesus na’r un arbenigwr arall i ddweud hynny wrthym: daliwn i glywed bob wythnos am bobl yn dal y firws. Ond mae’r gostyngiad yn nifer y marwolaethau’n fyd-eang, o fwy na 100,00 yr wythnos ym mis Ionawr 2021 i oddeutu 3,500 at ddiwedd Ebrill eleni, wedi galluogi’r Sefydliad i ddatgan bod yr argyfwng a’r perygl mwyaf ar ben. Ar yr un pryd, mae’n rhybuddio na ddylid ar unrhyw gyfrif laesu dwylo ac ymddwyn fel pe bai’r cyfan drosodd. Pe digwydd i bethau waethygu eto, bydd y Sefydliad yn ail gyflwyno’r mesurau argyfwng gwaethaf a laciwyd ddydd Gwener. Ond ar hyn o bryd, beth bynnag, mae’r argyfwng gwaethaf drosodd, hyd yn oed os nad yw’r firws wedi diflannu.

Nid mewn dogfen nac oddi ar lwyfan ond oddi ar groes y cafwyd y cyhoeddiad pwysicaf oll am ddiwedd i elyn a fu’n bygwth dynoliaeth gyfan. A gwnaed y cyhoeddiad hwnnw mewn un gair gan y Crist a gymerodd arno’i hun glwyf marwol ein pechod. Trwy’r un gair hwnnw, ‘Gorffennwyd’, roedd Iesu’n cyhoeddi ei fod ef wedi gorffen y gwaith o ddelio â’n pechod a sicrhau i ni gymod â Duw trwy farw trosom a chymryd ei gosbi yn ein lle. Ond nid hynny’n unig: yr oedd yn cyhoeddi hefyd ei bod ar ben ar farwolaeth a’r diafol gan fod gafael y gelynion hyn ar bawb a fyddai’n ymddiried ynddo Ef wedi ei dorri. Neges fawr yr Efengyl yw bod y perygl mwyaf wedi ei ddileu: y perygl o fod wrth natur dan ddylanwad y diafol, yn gaeth i bechod ac yn analluog i roi ufudd-dod llawn i Dduw, a thrwy hynny’r perygl nad oes ond condemniad ac uffern a cholledigaeth a marwolaeth i fod. Dyma fygythiad gwaeth na’r gwaethaf o bandemigau’r byd, ond mae Crist wedi ei lwyr ddileu. Mae wedi sicrhau maddeuant a bywyd i bawb a ddaw ato mewn ffydd, fel nad oes berygl o gwbl iddynt o du’r un gelyn bygythiol.

Ar Galfaria, sathrwyd y diafol a phechod a marwolaeth dan draed. I bawb sy’n credu yng Nghrist, mae’r argyfwng ar ben. Er iddynt ddal i bechu, er ildio i demtasiynau’r diafol, ac er wynebu marwolaeth a bedd, y maent ac mi fyddant yn ddiogel ac iach a byw. Oherwydd y mae’r gelyn wedi ei goncro ac y mae’r Brenin wedi cario’r dydd.

Cliciwch yma https://gronyn.wordpress.com/gronyn/ i fynd at rifyn diweddaraf Gronyn – Dydd Sul, 07 Mai 2023

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s